Rheoli disgwyliadau gyda'r unigolion, y grwpiau, y cyllidwyr a’r partneriaid sy'n cymryd rhan
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli disgwyliadau'r bobl sy'n cymryd rhan unwaith y bydd y rhaglen ddawns wedi'i dylunio neu'n cael ei dylunio. Mae llawer o ddisgwyliadau i'w rheoli gan fod gan bawb syniadau gwahanol am ystyr dawns felly gallai fod gofyn i chi weithredu fel eiriolydd dros eich arddull ddawns a'r ffordd y byddwch chi'n ei chyflwyno.
Yn ogystal, bydd disgwyliadau unigol ynghylch canlyniadau, er enghraifft, gallai cyfranogwyr sy'n ddechreuwyr fod â disgwyliadau afrealistig ynghylch beth gall eu cyrff wneud, gall fod gan rieni ddisgwyliadau afrealistig ynghylch beth gall eu plant gyflawni, a gall fod gan raglennydd ddisgwyliadau afrealistig ynghylch nifer y bobl y gellir eu cyrraedd.
Bydd angen i’ch cyfranogwyr ddeall eich arddull ddawns a'ch proses ddarparu, ond gall fod angen i eraill wneud hynny hefyd, fel rhieni, gweithwyr cymorth, cyllidwyr neu sefydliadau partner fel mannau cynnal. Po gliriaf y gallwch fod yn y cam rhychwantu hwn, mwyaf o ymddiriedaeth fydd yn datblygu rhyngoch a'ch grwpiau a’ch cyllidwyr posibl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chyd-drafod adnoddau dynol ac ariannol ar gyfer y rhaglen ddawns i'ch galluogi chi i reoli ei chwmpas gyda'ch rhanddeiliaid
- rheoli sefydlu rhaglen ddawns sy'n diwallu anghenion y gwahanol randdeiliaid
- rheoli materion cyllidebol, contractiol, cyfreithiol a hawlfraint sy'n berthnasol i chi a'ch rhaglen ddawns
- cyfathrebu'n gynhwysol ac effeithiol ar draws y grwpiau oedran a gallu er mwyn pennu a rheoli disgwyliadau cyfranogwyr ac unigolion neu sefydliadau partner
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd rhannu eich sgiliau artistig, hwyluso a chyd-drafod gyda'ch cyfranogwyr dawns a'ch sefydliadau partner
- sut mae rheoli eich ffi, eich contractau, eich cyllidebau a materion perthnasol o ran y gyfraith neu hawlfraint
- ystyr ymarfer proffesiynol a sut y byddwch yn ei ddarparu
- sut mae cyfathrebu yn bersonol ac ysbrydoli unigolion a grwpiau ynghylch dyluniad, proses a gwerthoedd eich rhaglen ddawns
- pwysigrwydd cyflwyno canlyniadau realistig ar gyfer eich rhaglen ddawns
- pwysigrwydd bod yn ymwybodol o'ch sgiliau er mwyn i chi allu bod yn onest gyda grwpiau a sefydliadau partner o ran gwybod pa gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch er mwyn darparu rhaglen ddawns
- sut mae cynnwys ac ysgogi unigolion a sefydliadau partner i'ch cefnogi yn achos bylchau o ran sgiliau neu adnoddau, a datblygu eu rôl
- pwysigrwydd darparu llwybr cyflawniad realistig i'r cyfranogwyr