Cyfleu eich cymhwysedd a'ch parodrwydd i arwain dawns gyda grwpiau penodol o bobl a/neu mewn mannau penodol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfleu a darparu tystiolaeth o'r holl brofiad sydd gennych sy'n berthnasol i'ch marchnad darged sy'n dangos eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith a hefyd yn gymwys i arwain yr arddull ddawnsio benodol gyda'r grwpiau penodol o bobl a nodir gennych.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a chyfleu'r sgiliau a'r gwerthoedd sydd gennych i’w cynnig yn y cyd-destun rydych chi'n bwriadu gweithio ynddo
- cyflwyno enghreifftiau i eraill o'ch sgiliau arwain dawns gyda grwpiau penodol a/neu mewn mannau penodol
- cyflwyno enghreifftiau i eraill o ddatgeliadau cyfreithiol perthnasol a phrawf o bolisïau yswiriant ar gyfer y bobl rydych yn bwriadu gweithio gyda nhw a'r mannau rydych chi'n bwriadu gweithio ynddynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae grwpiau penodol o bobl neu fannau penodol yn cyfeirio, yn y cyd-destun hwn, at farchnad darged a nodwyd gennych yr ydych yn gobeithio gweithio gyda hi neu rydych chi eisoes yn gweithio gyda hi, er enghraifft: pobl mewn lleoliadau cyfiawnder troseddol, pobl mewn ysbytai neu ofal seibiant, grwpiau blynyddoedd cynnar, pobl hŷn neu bobl anabl. Efallai y bydd gennych gasgliad ategol o sgiliau ar ben eich sgiliau dawns y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich portffolio er mwyn dangos eich gwybodaeth ychwanegol. Er enghraifft, mae'n bosibl eich bod yn gyn-athro ysgol gynradd neu wedi'ch hyfforddi mewn proffesiwn iechyd neu ofal.
*
Cyfranogwr* – yr unigolyn sy'n cymryd rhan yn y sesiwn ddawns, a gaiff ei ddisgrifio'n aml fel dysgwr neu ddisgybl hefyd.
*
Portffolio* yw casgliad o enghreifftiau sy'n gallu bod yn gyfuniad o ddeunydd ysgrifenedig, ffilm a ffotograffau.
Ystyr person-ganolog yma yw dull arweinyddiaeth sy'n ceisio creu amgylchedd dysgu sy'n adeiladu ar nodweddion a chryfderau presennol pob unigolyn a'u hannog i archwilio dawns yn weithredol.