Cyfleu sut byddwch chi’n defnyddio sgiliau creadigol a chyfansoddi sy’n briodol ar gyfer eich marchnad darged

URN: CCSDL4
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2011

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gyfleu eich sgiliau a'ch profiad creadigol a chyfansoddi a'u perthnasedd i'ch marchnad darged.

Yn achos athro dawns sy'n rhedeg ysgol ddawns breifat, gallai hyn gynnwys y sgiliau sydd eu hangen i gyfarwyddo, paratoi coreograffi ac ymarfer sioe neu arddangosfa flynyddol lle bydd myfyrwyr yn perfformio ar lwyfan.

Yn achos artistiaid dawns sy'n arwain gwaith mewn amrywiaeth o fannau gyda gwahanol bobl, gallai hyn gynnwys y sgiliau sydd eu hangen i hwyluso allbwn creadigol gan unigolion neu grwpiau; y sgiliau sydd eu hangen i ddyfeisio agweddau coreograffig ar greu gwaith (o ran y broses a'r cynnyrch); y sgiliau sydd eu hangen i hwyluso mentrau cydweithredol.

 

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​​cyfleu i eraill sut y byddwch chi'n dyfeisio ac yn hwyluso prosesau creadigol drwy ddefnyddio amrywiaeth o dasgau a gweithgareddau sy'n briodol i'r grwp targed 
  2. nodi a chyfleu i eraill sut byddwch chi'n dewis ac yn defnyddio dulliau priodol i ddyfeisio a/neu saernïo canlyniadau coreograffig sy'n briodol ar gyfer y grwp targed a/neu’r cyd-destun
  3. nodi a chyfleu i eraill sut byddwch chi'n cydweithredu, lle bo hynny'n briodol, ag unigolion perthnasol (cyfranogwyr, artistiaid, technegwyr) er mwyn cyflawni nod artistig.
  4. myfyrio'n feirniadol ar brosesau a chanlyniadau er mwyn sicrhau ansawdd y profiad a/neu'r cynnyrch
 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​​eich sgiliau personol o ran cyfansoddi a phrosesau creadigol 
  2. amrywiaeth o strategaethau addysgu ac arwain er mwyn hwyluso ymgysylltu creadigol
  3. sut mae gwahanol strategaethau a strwythurau coreograffig yn llywio eich ymarfer o ran creu dawns neu hwyluso pobl eraill i greu dawns 
  4. rôl myfyrio beirniadol wrth gyfansoddi dawns
  5. y rôl y gall agweddau technegol ac artistig eraill ar gynhyrchu ei chwarae wrth gyflwyno dawns
 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ymgysylltu creadigol - yn y ddogfen hon mae'r term hwn yn disgrifio gwaith yr arweinydd dawns o ran defnyddio strwythurau sy'n annog cyfranogwyr i brofi persbectif gwahanol, boed hynny'n gysylltiedig â'u corff, ei gilydd, yr amgylchedd o'u cwmpas neu'r rhain i gyd, a all wedyn helpu'r cyfranogwyr i feddwl am syniadau neu brofiadau newydd y gallant eu rhannu.

Mae sgiliau creadigol yn cyfeirio at y sgiliau a ddefnyddir i hwyluso gweithgaredd dawns gyda'r grŵp targed. Gallai hyn gynnwys y gallu i arwain gwaith byrfyfyr, dyfeisio tasgau creadigol, creu deunydd symud, neu ennyn a datblygu ymatebion dychmygus gan unigolion neu grwpiau. Mae'n cynnwys hefyd y gallu i fyfyrio'n feirniadol ar weithgareddau a chanlyniadau er mwyn adeiladu ar ganlyniadau cadarnhaol a chael hyd i ddulliau gweithredu amgen pan fydd syniadau neu strategaethau'n llai llwyddiannus.
*
Sgiliau cyfansoddi
* - sef y sgiliau sydd eu hangen i ddyfeisio, datblygu, archwilio, adolygu a saernïo deunydd symud sydd eisoes yn bodoli neu sydd newydd ei greu a hynny mewn modd sy'n briodol i'r grŵp targed. Coreograffi yw'r agwedd hon ar gyfansoddi, ond defnyddir y term cyfansoddi yma i gydnabod hefyd y gwaith cydweithredol sy'n digwydd yn aml mewn rhaglenni dawns. Yn y cyd-destun hwn felly, mae cyfansoddi'n cyfeirio at y strwythurau y gellir eu tynnu o ffurfiau celfyddydol eraill i gefnogi'r broses o greu dawns.
*
Portffolio
* yw'r casgliad o enghreifftiau perthnasol o'ch sgiliau. Gall fod yn gyfuniad o ddeunydd ysgrifenedig, ffilm a ffotograffau. Mae'n debyg i CV ond mae'n cynnig mwy o ryddid i chi arddangos eich sgiliau a'ch profiadau fel artist a hwylusydd drwy ddulliau cyffyrddol, gweledol a/neu glywadwy​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

URN gwreiddiol

CCSDL4

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

arweinyddiaeth ddawns, coreograffi, artistiaid dawns, cyfathrebu, creadigrwydd