Nodi eich sgil bersonol a’ch gwybodaeth gyd-destunol am eich arddull(iau) dawns a'u cyfleu i eraill
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu cyfleu i eraill eich sgiliau technegol fel arweinydd dawns a'ch gwybodaeth am darddiad, hanes a datblygiad yr arddull(iau) a'r ffurf(iau) dawns a ddefnyddiwch, gan gynnwys enghreifftiau cyfredol ohonynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a chyfleu i eraill eich prif arddull ddawnsio, ynghyd â'i nodweddion, ei chyd-destun diwylliannol a sut rydych yn ei darparu
- cyflwyno i eraill enghreifftiau o'ch sgiliau wrth arwain gweithgareddau dawns sy'n briodol i arddulliau neu ffurfiau penodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae arddangos gwybodaeth a gallu technegol yn eich dewis arddull(iau) dawns
- arferion cyfredol a dulliau darparu yn eich dewis arddull(iau) dawns
- hanes a chyd-destun eich arddull(iau) dawns
- pwysigrwydd casglu enghreifftiau i ddarlunio eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arddull ddawns - mae'r term hwn yn cwmpasu'r arddulliau dawns niferus (y cyfeirir atynt hefyd fel genre, ffurfiau) sy'n bodoli, i enwi rhai enghreifftiau yn unig: dawnsio stryd, dawnsio de Asia, dawnsio gwerin, dawnsio pobl Affrica, bale, dawnsio anarddulliedig, ymarfer somatig, dawnsio cyfoes.
Mae enghreifftiau yn cyfeirio at unrhyw ddeunydd (yn cynnwys deunydd ysgrifenedig, clyweledol, wedi'i berfformio) y gallech ei ddefnyddio i arddangos eich sgiliau a/neu eich gwybodaeth.
*
Portffolio* yw'r casgliad o enghreifftiau perthnasol o'ch sgiliau. Gall fod yn gyfuniad o ddeunydd ysgrifenedig, ffilm a ffotograffau. Mae'n debyg i CV ond mae'n cynnig mwy o ryddid i chi arddangos eich sgiliau a'ch profiadau artistig a hwyluso drwy ddulliau cyffyrddol, gweledol a/neu glywadwy