Myfyrio ynghylch eich darpariaeth broffesiynol a darparu adnoddau ar ei chyfer
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau eich bod yn gallu adnabod ble y dylech chi fod yn datblygu eich sgiliau eich hun, a hefyd pa agweddau ar eich ymarfer proffesiynol y gallech chi ofyn i eraill eu cyflawni er mwyn i chi allu canolbwyntio ar eich sesiynau. Os ydych yn brin o adnoddau, myfyrio ar hynny a meddwl yn greadigol ynghylch sut y gallech ail-lunio eich cynnig o ran dawns er mwyn bod yn glir ynghylch yr hyn y gallwch a'r hyn na allwch ei ysgwyddo.
Er enghraifft, wrth redeg ysgol ddawns breifat, gallai'r arweinydd dawns nodi nad oes sgiliau rheoli cyfrifon ganddo/ganddi, ond nad yw'n gallu fforddio cyflogi cyfrifydd ac eithrio i reoli'r cyfrifon diwedd blwyddyn. Fodd bynnag, hwyrach y byddai rhiant yn fodlon gwirfoddoli i gefnogi'r ysgol ddawns drwy wneud ychydig o dasgau gweinyddu i gadw'r cofnodion ariannol yn gyfredol a thrwy hynny, ddarparu adnoddau i lenwi'r bwlch yn sgiliau'r arweinydd dawns.
Posibilrwydd arall yw y gallai ymarferydd dawns sy'n gweithio ar ei liwt ei hun gael anhawster i gadw trefn ar y dyddiadur ac ystyried defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored am ddim i reoli'r tasgau gweinyddu wrth deithio o le i le. Gallai hefyd drafod telerau newydd mewn contractau i egluro'r hyn y byddai’n dymuno i reolwyr ei drefnu ar ei g/chyfer, o ran marchnata'r rhaglen, yn hytrach na derbyn cyfrifoldeb personol yn unig am hysbysebu'r rhaglen ddawns.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwirio bod gan eich rhaglenni dawns adnoddau digonol
nodi pa gymorth a gewch o ran eich darpariaeth broffesiynol a'r budd a gewch ohono
nodi'r cymorth gweinyddu sydd ei angen arnoch yn eich darpariaeth broffesiynol a chynllunio sut y gallwch ei ddirprwyo i eraill gan ddefnyddio adnoddau ariannol neu beidio, yn ôl yr angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand: