Ymchwilio, nodi a darparu adnoddau ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â cheisio’r datblygiad sydd ei angen arnoch a chael hyd i ffyrdd eraill o ddarparu adnoddau ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn i chi allu dangos i eraill bod eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarfer yn gyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso effaith eich datblygiad proffesiynol ar eich arferion gwaith fel arweinydd dawns ac effaith hynny ar eich cyfranogwyr
- datblygu eich portffolio gan nodi manylion eich sgiliau a'ch datblygiad proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd eich rhwydweithiau a'ch aelodaeth o grwpiau o ran rhoi gwybod i chi am y cyfleoedd diweddaraf o ran datblygiad proffesiynol
- gwerth y bobl rydych chi'n eu hadnabod, eu sgiliau a sut mae defnyddio eich rhwydwaith cymorth i'ch helpu i feithrin a rhannu eich sgiliau
- pwysigrwydd cydnabod gwerth eich datblygiad proffesiynol a buddsoddi ynddo, gan fod yn ymwybodol o'r patrymau cyllido cyfredol a allai eich helpu i gyllido eich datblygiad proffesiynol
- dulliau datblygiad proffesiynol a sut mae dangos neu ddarparu enghreifftiau o'ch datblygiad proffesiynol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Yn y cyd-destun hwn gall darparu adnoddau olygu cael hyd i arian i dalu am y cyrsiau neu'r cymwysterau rydych am eu cyflawni. Fodd bynnag, gall hefyd olygu chwilio am gymorth ymarferol, e.e. gallai cymheiriad sy'n dda iawn mewn maes rydych chi'n llai medrus ynddo gynnig ychydig o gymorth ac amser er mwyn i chi gael dysgu ganddi/ganddo a gallech chi gynnig rhywbeth iddi/iddo yn gyfnewid am hynny. Mae llawer o ffyrdd creadigol i chi ddatblygu eich hun heb orfod cael cymorth ariannol, ond mae gofyn i chi adnabod gwerth eich grwpiau cymheiriaid a mentoriaid, drwy ddarparu tystiolaeth o'r hyn rydych wedi’i ddysgu