Cydweithio â ffurfiau celfyddydol eraill

URN: CCSDL16
Sectorau Busnes (Cyfresi): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 2011

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu'ch ymwybyddiaeth o ffurfiau celfyddydol eraill a sut maen nhw'n gweithio gyda'ch dewis arddull ddawns.

Er enghraifft, gall cerddoriaeth fyw a dehongli sain drwy symudiad fod yn bwysig mewn bale, dawns o Dde Asia neu ddawns Pobl Affrica. Gall fod yn bwysig i artistiaid dawns creadigol ddefnyddio gwahanol ffurfiau celfyddydol fel testun, celf weledol, neu dechnoleg ddigidol i alluogi cyfranogwyr i ymgysylltu neu i gefnogi archwiliad creadigol o wisgoedd, sain a goleuo.

Bydd manylder a phwysigrwydd y safon hon i'r arweinydd dawns unigol yn dibynnu ar yr arddull ddawns a ddefnyddir ac a fydd yr arweinydd dawns yn paratoi grwpiau ar gyfer perfformiad cyhoeddus.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​nodi ffyrdd o ddatblygu'ch ymwybyddiaeth o ffurfiau celfyddydol eraill a'u perthynas â'ch dawns chi

  2. adnabod a darparu dulliau o wella'ch darpariaeth ddawns gan ddefnyddio ffurfiau celfyddydol eraill lle bydd adnoddau'n caniatáu hynny 

  3. nodi pryd y gallai fod angen i chi gydweithio ag artistiaid eraill a bod yn glir ynghylch eich rolau cyfunol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​​pwysigrwydd gwybodaeth am ffurfiau celfyddydol eraill a sut gellir eu defnyddio, a'u cyfraniad i brosesau creu dawns 
  2. hyd a lled eich gwybodaeth a'ch sgiliau eich hun mewn ffurfiau celfyddydol eraill  
  3. gwerth cerddoriaeth a’r defnydd ohoni yn eich sesiynau a'ch perfformiadau dawns gan barchu'r defnydd ohoni, ei chyfansoddiad ac ansawdd yr atgynhyrchu 
  4. y caniatâd neu'r trwyddedau sydd eu hangen er mwyn cael defnyddio cerddoriaeth a recordiwyd ymlaen llaw, gwaith ysgrifenedig neu gelf weledol i gefnogi'ch rhaglen ddawns, gan roi sylw penodol i berfformiadau cyhoeddus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

URN gwreiddiol

CCSDL16

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Arweinyddiaeth Ddawns, cydweithio, dawns cymunedol