Saernïo dawns er mwyn ymgysylltu â chyfranogwyr a grwpiau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwybod sut i saernïo dawns gyda’ch cyfranogwyr yn eich dewis arddull(iau) dawns.
Ar ei lefel fwyaf sylfaenol, mae'r safon hon yn golygu eich bod yn dilyn strwythur a ffurf sefydledig i gynllunio sesiwn a chynnwys cyfranogwyr yn yr arddull(iau) dawns a ddefnyddir.
Yn achos arweinwyr dawns nad ydynt yn dilyn strwythur traddodiadol sesiwn ddawns o ran yr arddull a ddefnyddiant neu sy'n defnyddio ymagwedd anarddulliedig, bydd strwythurau creadigol yn parhau i esblygu a chael eu dyfeirio. Po fwyaf y bydd arweinydd dawns yn datblygu strwythurau sy'n addas ar gyfer y cyfranogwyr mae’n gweithio gyda nhw, mwyaf profiadol y bydd o ran datblygu ymarfer sy'n canolbwyntio ar unigolion.
Daw gwybodaeth am y gwahanol strwythurau coreograffig y gellir eu defnyddio i gwmpasu'r symudiadau y bydd pobl yn eu cyfrannu eu hunain yn bwysicach i'r arweinydd dawns fel cyfrwng i rannu syniad mewn mewn modd cydlynus â chynulleidfa, p’un a yw’r gynulleidfa honno’n gyfranogwyr eraill y grŵp neu'n berfformiad cyhoeddus.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a hwyluso strwythurau cyfansoddi dawns sy'n briodol ar gyfer eich dewis arddull ddawns a'ch proses o greu dawns
- hwyluso strwythurau coreograffig sy'n briodol ar gyfer dyluniad eich rhaglen ac anghenion eich cyfranogwyr a'ch grwpiau
- cydweithio ag artistiaid a thechnegwyr eraill i ddarparu cyfansoddiadau a arweinir gan broses a chan berfformiad fel sy'n briodol i ddyluniad eich rhaglen ddawns
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfleoedd cyfansoddi yn eich dewis arddull ddawns a sut i'w rhoi ar waith yn eich sesiynau dawns
- sut mae cymhwyso'ch strwythurau cyfansoddi dawns yn effeithiol ar gyfer allbynnau a arweinir gan broses a rhai a arweinir gan berfformiad
- sut mae defnyddio ffurfiau celfyddydol eraill i gyfrannu at gyfansoddiad eich dawns
- sut mae hwyluso a chynnwys syniadau grwpiau trwy broses goreograffig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Defnyddir cyfansoddi yma yn derm eang sy'n cwmpasu'r gwahanol ffyrdd y bydd arweinydd dawns yn saernïo dawns. Er enghraifft, gall fod yn gyfuniadau gosod o gamau dawns a gwybod sut caiff y cyfuniadau hynny eu cynhyrchu fel arfer yn yr arddull ddawns dan sylw. Fodd bynnag, os yw'r arddull ddawns y byddwch yn ei harwain yn gofyn am symudiadau newydd gan eich cyfranogwyr, fel sy’n gallu digwydd yn achos dawnsio stryd, cyfoes, creadigol neu unrhyw gyfuniad o arddulliau dawns, bydd lefel sylfaenol o strwythurau coreograffig yn ofynnol er mwyn gallu saernïo'r deunydd a gynigir gan y cyfranogwyr.