Arddangos sgiliau a gwybodaeth technegol wrth arwain eich arddull(iau) dawns

URN: CCSDL14
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2011

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod y sgiliau a'r wybodaeth technegol gennych i arddangos, disgrifio neu gywiro symudiadau eich cyfranogwyr a'u galluogi i ddysgu, yn fanwl-gywir, am eu cyrff a'r arddull(iau) dawns rydych chi'n eu darparu neu'n eu datblygu yn eich cyfranogwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​​​​arddangos sgiliau a gwybodaeth technegol yn yr arddull(iau) dawns rydych chi'n eu cynnig yn eich sesiynau i ysbrydoli eich grwp
  2. bod yn gyfarwydd â'r datblygiadau diweddaraf mewn ymarfer dawns proffesiynol a'u defnyddio yn eich ymarfer
  3. sylweddoli pan fydd cyfranogwyr yn perfformio symudiad a allai achosi niwed i'r corff yn y tymor hir neu'r tymor byr a gallu ymateb â chyfarwyddiadau llafar a/neu arddangosiad corfforol er mwyn sicrhau y cyflawnir hyfedredd
  4. rhoi cyfarwyddiadau cywiro sy'n cefnogi gwahaniaeth ac yn rhoi sylw i godau ymddygiad moesegol ynghylch cyffwrdd, gofod personol a dulliau dysgu priodol ar gyfer cyfranogwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​​lefel eich gallu yn eich dewis arddull(iau) dawns 
  2. pwysigrwydd gloywi eich ymarfer symud a'ch gwybodaeth yn briodol ar gyfer yr arddulliau a'r prosesau dawns y byddwch yn eu harwain
  3. pwysigrwydd gwybodaeth anatomegol yng nghyswllt yr arddulliau dawns rydych chi'n eu harwain
  4. sut mae arddangos a chywiro aliniad y corff, a darparu her briodol i wella profiad dawnsio'r dysgwyr
  5. sut a phryd mae arddangos, herio a chefnogi er mwyn ysbrydoli ac ysgogi cyfranogwyr
 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arddull ddawns - mae'r term hwn yn cwmpasu'r arddulliau dawns niferus (y cyfeirir atynt hefyd fel genre, ffurfiau) sy'n bodoli, i enwi rhai enghreifftiau yn unig: dawnsio stryd, dawns o dde Asia, dawnsio gwerin, dawns pobl Affrica, bale, dawnsio anarddulliedig, ymarfer somatig, dawnsio cyfoes.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

URN gwreiddiol

CCSDL14

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Arweinyddiaeth ddawns, dawns cymunedol, cyfranogi mewn dawns, symudiadau dawns, dawns