Ymgysylltu â grwpiau a'u rheoli drwy eich arweinyddiaeth ddawns mewn cyd-destun creadigol
URN: CCSDL13
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2011
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgysylltu â'ch cyfranogwyr yn eich sesiynau dawns a meddu ar y gallu i gymhwyso amryw o ddulliau arwain dawns sy'n cydbwyso anghenion dysgu unigolion a'r grŵp cyfan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ysbrydoli pobl ac ymgysylltu â nhw ar lefel y gallant ei deall ac ymuno ynddi
- cyflwyno disgwyliadau, ffiniau a chyfleoedd rhwng yr arweinydd, y cyfranogwyr, y tîm cefnogi a'r gweithgaredd, gan fod yn glir ynghylch y nodau a'r prosesau y byddwch yn eu defnyddio gyda'ch grwp
- defnyddio'ch gallu creadigol i gefnogi syniadau creadigol a dychmygus y cyfranogwyr yn eu dawns a rhoi eich arddull ddawns ar waith mewn ffyrdd priodol ar gyfer dysgu person-ganolog
- cyfathrebu'n glir gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu geiriol ac aneiriol fel bod y cyfranogwyr yn eich deall, gyda chymorth perthnasol i’ch hunan, lle bo angen hynny, er mwyn gweithio'n effeithiol
- cydnabod eich cydweithio ag eraill er mwyn cyflawni nodau'r rhaglen ddawns
- ystyried pob agwedd ar ddarparu'ch rhaglen er mwyn ei haddasu yn ôl y galw
- datblygu ymddiriedaeth, gwerthoedd a rennir a rolau clir trwy eich ymarfer gyda'r bobl rydych chi'n ymgysylltu â nhw
- gallu cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu ansawdd eu symudiadau a'u harddull ddawns
- adnabod ac annog datblygiad y cyfranogwyr fel bod ganddynt amrywiaeth mwy datblygedig o sgiliau wrth ddawnsio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwahanol strategaethau addysgu i hwyluso dulliau arwain y dysgu er mwyn i'ch cyfranogwyr ddatblygu'r wybodaeth gorfforol sydd ei hangen arnynt ar gyfer yr arddull ddawns dan sylw
- sut mae datblygu awyrgylch cynhwysol i annog ymgysylltu creadigol
- pwysigrwydd eich cyflwyniad proffesiynol a'ch gallu i dderbyn cyfrifoldeb am eich grwp
- egwyddorion dysgu person-ganolog
- deinameg grwpiau, gan roi sylw penodol i sut mae llwyddo i reoli cyflymder dysgu ac ymgysylltu gwahanol ar gyfer unigolion mewn grwp
- sut mae defnyddio ymholi a'ch menter greadigol i roi eich arddull ddawns ar waith gyda gwahanol gymunedau
- dulliau o ddatblygu penderfyniadau ar y cyd wrth greu dawns gyda'ch gilydd
- sut mae casglu, datblygu a saernïo syniadau dychmygus y cyfranogwyr i ddatblygu eu hymgysylltiad â’u dawns a'u hymholi beirniadol
- pwysigrwydd siarad gydag unrhyw weithwyr cymorth sy'n cymryd rhan yn eich sesiynau a sicrhau eu bod yn deall eich nodau er mwyn iddynt eich helpu i'w cyflawni gyda'r grwp
- pwysigrwydd eich persona wrth arwain dawns gan ddefnyddio cyfarwyddiadau lleisiol clir ac ysbrydoli eich grwp trwy eich adborth
- iaith y corff a sut mae gwneud i bobl deimlo'n gyfforddus drwy eich ymddygiad geiriol a dieiriau
- sut mae gwella a gwerthuso profiad creadigol cyfranogwyr drwy gydweithio â gweithwyr cymorth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae dulliau arwain yn cyfeirio at unrhyw ddull addysgu neu greadigol sy’n ysgogi’r ymgysylltu a'r dysgu gorau mewn unigolyn
Gwybodaeth am y corff - rheoli'r corff â gwahanol symudiadau. Yn dibynnu ar arddull y ddawns bydd angen gwahanol fathau o ymwybyddiaeth ofodol a chorfforol er mwyn darparu a phrofi'r symudiad a'i gyfleu yn glir i bobl eraill. Yn aml, gall hyn fod yn fater o gyfleu syniad â'r corff lawn cymaint â dysgu arddull ddawns.
Arddull ddaw*ns* - mae'r term hwn yn cwmpasu'r arddulliau dawns niferus (y cyfeirir atynt hefyd fel genre, ffurfiau) sy'n bodoli, i enwi rhai enghreifftiau yn unig: dawnsio stryd, dawns o dde Asia, dawnsio gwerin, dawns pobl Affrica, bale, dawnsio anarddulliedig, ymarfer somatig, dawnsio cyfoes.
Gwahanol gymunedau - yn y cyd-destun hwn gall cymuned gyfeirio at bobl sy'n dod at ei gilydd mewn un man (ysbyty, ysgol, canolfan gymunedol) neu grŵp o unigolion sy’n dod ynghyd yn sgîl diddordeb a rennir
Gweithwyr cymorth - defnyddir y term yma i gyfeirio at berson yr ydych wedi nodi'n ffurfiol fod ganddynt rôl gefnogi yn eich sesiynau dawns. Er enghraifft, gallent fod yn brentis arweinydd dawns, yn weithiwr gofal proffesiynol sy'n cynorthwyo unigolyn penodol, yn gynorthwy-ydd dysgu neu’n athro, yn artist arall sy'n cydweithio â chi, yn ymchwilydd, yn werthuswr, yn rhiant neu’n wirfoddolwr.
Ystyr person-ganolog yma yw dull arwain sy’n ceisio creu amgylchedd dysgu sy'n adeiladu ar nodweddion a chryfderau presennol pob unigolyn ac yn eu hannog i archwilio dawns yn weithredol.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Ion 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Creadigol a Diwylliannol
URN gwreiddiol
CCSDL13
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Arweinyddiaeth ddawns, dawns gymunedol, creadigrwydd, cyfranogi mewn dawns