Annog cysylltiad a chydweithio â thimau cefnogi
URN: CCSDL11
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar:
2011
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag annog cydweithio â thimau cefnogi. Bydd hon yn fwyaf perthnasol i arweinwyr dawns sy'n darparu rhaglenni dawns mewn gwahanol leoliadau neu gyda phobl sydd ag angen cymorth arbenigol ychwanegol i gymryd rhan mewn dawns.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydweithio ag arbenigwyr a ddewiswyd megis cydarweinwyr tîm artistig, a derbyn chymorth, er enghraifft, gan weithwyr iechyd, ffisiotherapyddion, gweithwyr cymorth dysgu er mwyn i'r rhaglen ddawns gael yr effaith fwyaf posibl
- rheoli adnoddau i gefnogi'r rhaglen
- ysbrydoli ac ysgogi pobl, p’un a ydynt yn staff cyflogedig neu'n wirfoddolwyr, i gefnogi'r rhaglen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd bod yn glir ynghylch eich rôl eich hun a'r cymorth mae arnoch ei angen gan eraill ar gyfer y rhaglen ddawns benodol rydych wedi’i dylunio
- sut mae ysgogi pobl ac ysbrydoli timau cefnogi, gan gynnwys staff cymorth cyflogedig neu wirfoddolwyr, i gymryd rhan yn eich rhaglen ddawns
- sut mae rheoli'r adnoddau dynol ac ariannol sydd ar gael i chi gan ysgogi cefnogaeth ymarferol lle bo hynny'n bosibl
- pwysigrwydd ymarfer ymatblyg, sef gwerthuso’r prosiect wrth iddo fynd yn ei flaen a sut gallwch chi newid dyluniad rhaglen i gydweddu â chryfderau'r grwp neu'r tîm cefnogi wrth iddynt ddod i’r amlwg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Yn y safon hon, mae ymarfer adfyfyriol yn cyfeirio at eich gwaith meddwl am y sesiwn ar ôl ei darparu a sut bydd gwerthuso’r sesiwn yn llywio eich blaengynllunio
Yn y safon hon, mae ymarfer ymatblyg yn cyfeirio at y gwaith meddwl a'r penderfyniadau a wnewch yn ystod eich sesiynau neu gyfarfodydd o ganlyniad i werthuso eich dull darparu gyda'ch cyfranogwyr tra byddwch yn y sesiwn
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Creadigol a Diwylliannol
URN gwreiddiol
CCSDL11
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio
Cod SOC
Geiriau Allweddol
arweinyddiaeth ddawns, dawns cymunedol, cydweithio, gwaith tîm