Meithrin ymddiriedaeth gyda sefydliadau lletya a chyllidwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu'n glir a gweithredu'n broffesiynol ar hyd y broses o sefydlu rhaglen ddawns. Mae'r safon hon yn fwyaf perthnasol i arweinyddion dawns sy'n sefydlu rhaglenni dawns mewn lleoliadau cymunedol, ond gallai fod yn berthnasol hefyd i berthynas ysgolion dawns preifat â rhieni.
Er enghraifft, bod yn dryloyw am eich ffïoedd, a/neu gyllidebu ar gyfer y rhaglen, cymhwyso eich gwybodaeth amdanoch eich hunan er mwyn cyflwyno'r hyn y gallwch ei gyflawni mewn gwirionedd oddi mewn i raglen gyda'r gefnogaeth sydd gennych, heb addo gormod o ran y canlyniadau. Mae'r safon hon yn gweithio'r ddwy ffordd, ac mae angen i'r sefydliad lletya neu'r cyllidwr gyflawni eu haddewidion yn eu perthynas â chi. Mae'r safon hon yn sicrhau eich bod yn gallu nodi eich anghenion yn bendant, yn ogystal â meithrin ymddiriedaeth yn eich gallu i gyflawni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- disgrifio'r hyn rydych chi'n ei gynnig o ran dawns i eraill a dangos sut gallwch chi hyfforddi, eiriol, rhannu a chydweithio er mwyn cynnwys y bobl sy'n cefnogi eich sesiynau
- cynhyrchu cyllideb a chynnal eich sefyllfa ariannol mewn modd clir a thryloyw
- cyflawni a rheoli'r gwiriadau, y datgeliadau a'r trwyddedau angenrheidiol sy'n effeithio ar eich rhaglen ddawns
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd eiriol dros eich arddull gyflwyno er mwyn datblygu ymddiriedaeth ac ymwybyddiaeth o'ch dull gweithredu ymhlith sefydliadau partner, e.e. gwahodd comisiynwyr i sesiynau dawns rydych chi'n eu cynnal
- sut mae cymhwyso eich arweinyddiaeth ddawns fel ei bod yn addas at y diben, i chi a'ch partneriaid
- pwysigrwydd cynnal rhaglen ddawns yn brydlon ac o fewn y gyllideb
- sut mae rheoli cyllideb a'r adnoddau ymarferol sydd ar gael i chi
- sut mae sicrhau bod gwiriadau cyfreithiol, diogelu data ac yswiriant perthnasol yn eu lle
- pwysigrwydd sicrhau cydsyniad cyfranogwyr neu gynulleidfaoedd ar gyfer ffilmio neu ddogfennu
- pwysigrwydd meddu ar drwydded cerddoriaeth a chaniatâd perthnasol ar gyfer eich defnydd o ddeunydd artistig arall sydd o dan hawlfraint
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Partneriaid – sefydliad lletya a/neu gyllidwyr