Darparu cymorth cyffredinol i ymwelwyr
Trosolwg
Mae'r Safon hwn yn ymwneud â darparu cymorth i ymwelwyr, boed y rheiny o blith y cyhoedd neu'n gydweithwyr o sefydliadau eraill. Disgwylir i chi fod yn 'westai' i bobl a rhoi croeso cynnes iddynt. Byddwch chi'n gweld beth yw anghenion yr ymwelwyr ac yn eu cyflawni hyd eithaf eich gallu, a ble bo'n addas, gyda gweddill eich tîm.
Mae'r Safon hwn ar gyfer unrhyw un mewn lleoliad diwylliannol sy'n cael cyswllt ag ymwelwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Croesawu ymwelwyr yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol gofal i gwsmeriaid, gan drin ymwelwyr yn gynnes a pharchus bob amser
2 Cynorthwyo ymwelwyr i gael mynediad i'r lleoliad, gan wneud ymdrech i gwrdd â'u hanghenion ble bo'n bosib
3 Rhoi cyfleoedd i ymwelwyr ofyn cwestiynau ar adegau addas
4 Annog ymwelwyr i ofyn am gymorth ar unrhyw adeg yn ystod eu hymweliad
5 Rhoi cyfleoedd addas i ymwelwyr fynegi ac egluro'u hanghenion
6 Cynnal iechyd, diogelwch a sicrwydd pobl, y lleoliad ac unrhyw eitemau sydd ynddo, yn unol â pholisïau'r sefydliad
7 Gwybod lleoliad pob cyfleuster ar gyfer ymwelwyr a rhoi mynediad iddynt ar bob cyfle posib
8 Darparu gwybodaeth i ymwelwyr mewn modd y gallan nhw ei ddeall
9 Rhoi dulliau amgen dilys o gael cymorth i ymwelwyr pan na ellir ei ddarparu ar unwaith
10 Ceisio cymorth gan eich tîm a chydweithwyr eraill ar ôl derbyn cais gan ymwelydd na allwch chi ei gyflawni ar eich pen eich hun
11 Darparu gwybodaeth gywir i gydweithwyr ynglŷn â'r cymorth y mae ymwelwyr eisiau
12 Rhoi gwybod i ymwelwyr am gynnydd eu hymholiadau am gymorth ar adegau addas
13 Cofnodi gwybodaeth y gofynnir amdano'n aml ar systemau'r cwmni er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau eich sefydliad ynghylch croesawu ymwelwyr
2 Polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch iechyd, diogelwch a sicrwydd
3 Gallu eich sefydliad o ran darparu mynediad i bawb
4 Gwybodaeth ymarferol dda o’ch sefydliad, lleoliad a’i gyfleusterau, i’ch galluogi i ymateb i ymholiadau
5 Gwybodaeth am gyfleusterau yn yr ardal gyfagos a all fod o ddefnydd i ymwelwyr
6 Strwythurau goruchwylio a rheoli llinell eich sefydliad
7 At bwy y dylid cyfeirio ymwelwyr pan na allwch chi ddarparu cymorth
8 Dulliau cyfathrebu effeithiol
9 Sut a ble i gofnodi gwybodaeth y gofynnir amdano’n aml