Paratoi ar gyfer ac arwain teithiau tywys
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â darparu a pharatoi teithiau tywys ar gyfer ymwelwyr i’ch lleoliad. Dylech fod yn gallu dethol yn glir wybodaeth gywir a pherthnasol i’w gynnwys yn y teithiau. Rhaid i chi sicrhau fod cyflymder, fformat, cynnwys ac arddull y cyflwyniad yn addas ar gyfer yr ymwelwyr. Mae’r safon hwn hefyd yn addas ar gyfer gweithgareddau dehongli.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â pharatoi a darparu teithiau tywys neu weithgareddau dehongli ar gyfer ymwelwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Cael caniatâd i gynnal teithiau tywys oddi wrth y bobl berthnasol
2 Dethol eitemau a gwybodaeth sy’n berthnasol i’w gynnwys yn y teithiau tywys
3 Penderfynu faint o amser fydd ei angen arnoch i gwblhau teithiau tywys, gan gynnwys pob eitem a gwybodaeth a ddewiswyd, yn unol â nodau’r daith
4 Dewis y llwybr a threfn y teithiau tywys er mwyn cwrdd â nodau’r daith
5 Penderfynu ar y cyflymder y darperir yr wybodaeth i ymwelwyr er mwyn galluogi dealltwriaeth
6 Sicrhau fod y fformat, y cynnwys ac arddull y cyflwyniadau’n addas ar gyfer ymwelwyr
7 Cael gafael ar y cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer cwblhau teithiau tywys oddi wrth y bobl berthnasol
8 Cadarnhau strwythur y teithiau tywys gyda phobl addas
9 Cynnal iechyd a diogelwch y bobl a sicrhau bod pob eitem yn ddiogel bob amser yn unol â pholisïau sefydliadol
10 Darparu digon o amser i gwblhau’r teithiau tywys yn unol ag amserlenni’r daith
11 Darparu cymorth i ymwelwyr i gwblhau teithiau sy’n cwrdd â’u hanghenion, gan dynnu sylw at bob cyfleuster
12 Gwneud addasiadau addas i deithiau tywys sy’n adlewyrchu anghenion ymwelwyr
13 Darparu gwybodaeth mewn dull sy’n cwrdd ag anghenion ymwelwyr
14 Darparu gwybodaeth glir i ymwelwyr sy’n berthnasol i’r eitemau a gynhwysir yn y teithiau
15 Annog ymwelwyr i gynnal diddordeb mewn eitemau drwy gydol y teithiau
16 Dilyn llwybrau penodedig a threfn y teithiau tywys
17 Caffael gwybodaeth ac eglurhad gan bobl addas pan na allwch chi ateb cwestiynau eich hunan
18 Cynorthwyo ymwelwyr i gael mynediad i ffynonellau gwybodaeth ychwanegol addas sy’n berthnasol i eitemau
19 Cynnal iechyd a diogelwch y bobl a sicrhau bod pob eitem yn ddiogel bob amser yn unol â pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Polisïau, prosesau a phrotocolau sefydliadol ynghylch paratoi a darparu teithiau tywys
2 Ble a sut i gael cymeradwyaeth ar gyfer cynnal teithiau tywys
3 Y pwnc y byddwch chi’n sôn amdano
4 Trefn y daith gan gynnwys amserlen
5 Y mathau o gynulleidfa ar gyfer y daith ac unrhyw anghenion arbennig sydd gan y gynulleidfa
6 Nodau’r daith a sut i’w defnyddio i farnu llwyddiant
7 Dulliau a thechnegau cyfathrebu
8 Sut i gynnal diddordeb y gynulleidfa ar y teithiau
9 Ffynonellau gwybodaeth sy’n berthnasol i gynnwys eich taith
10 At bwy y dylech gyfeirio pobl pan na allwch chi ddarparu gwybodaeth ddigonol
11 Polisïau sefydliadol ar gyfer iechyd a diogelwch a sicrwydd