Cefnogi trefnu digwyddiadau ac arddangosfeydd
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â darparu cymorth i’r sefydliad ar gyfer trefnu digwyddiad neu arddangosfa. Bydd gofyn i chi gefnogi’r weithdrefn gynllunio yn ogystal â gweithredu a gwerthuso digwyddiadau neu arddangosfeydd.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â helpu trefnu digwyddiadau ac arddangosfeydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Cadarnhau gofynion yr arddangosfeydd neu ddigwyddiadau gyda phob person perthnasol cyn dechrau eu trefnu
2 Gweithio gyda phobl addas i gynllunio digwyddiadau neu arddangosfeydd
3 Cofnodi pob gwybodaeth berthnasol am ddigwyddiadau neu arddangosfeydd sydd yn yr arfaeth mewn systemau addas
4 Gweithio gyda phobl addas i farchnata digwyddiadau neu arddangosfeydd
5 Cofnodi argymhellion marchnata'n glir mewn fformat addas
6 Gweithio gydag eraill ar adegau addas i helpu i osod digwyddiadau neu arddangosfeydd
7 Gweithio gyda phobl addas i agor a chau digwyddiadau neu arddangosfeydd
8 Sicrhau fod digwyddiadau neu arddangosfeydd yn digwydd yn unol â'r cynllun
9 Cofnodi gwybodaeth am ddigwyddiadau neu arddangosfeydd cyfredol neu rai sydd wedi dod i ben mewn systemau sefydliadol
10 Cadw cofnodion cywir am wybodaeth sy'n ymwneud â gwerthuso'r digwyddiadau neu arddangosfeydd
11 Gweithio gyda phobl addas i wneud argymhellion ynghylch digwyddiadau neu arddangosfeydd i'r dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Polisïau, prosesau a phrotocolau sefydliadol ynghylch digwyddiadau neu arddangosfeydd
2 Sut i gynllunio ar gyfer digwyddiadau neu arddangosfeydd
3 Systemau i gofnodi gwybodaeth i reoli digwyddiad neu arddangosfa
4 Sut i fonitro gweithdrefnau ac amserlenni ar gyfer gosod digwyddiadau neu arddangosfeydd
5 Sut i farchnata digwyddiadau neu arddangosfeydd
6 Sut i gofnodi gwybodaeth sy’n ymwneud â chynllunio, lansio a rhedeg digwyddiadau neu arddangosfeydd
7 Sut i werthuso digwyddiadau neu arddangosfeydd
8 Gyda phwy i ymgynghori a chydweithio ar adegau gwahanol
9 Dulliau a thechnegau cyfathrebu
10 Sut i gyweithio fel rhan o dîm