Hybu cyfleusterau achlysuron a digwyddiadau mewn lleoliad diwylliannol
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â delio ag ymholiadau’n ymwneud â llogi ardaloedd o fewn eich lleoliad. Er mwyn sicrhau incwm, bydd sawl lleoliad diwylliannol yn llogi ardaloedd ar gyfer gwleddoedd, priodasau, partïon preifat, ciniawau cyflwyno, cynadleddau, arddangosfeydd ac ati. Mae’n bwysig eich bod chi’n gallu hyrwyddo’r gwasanaeth hwn i’r rhai sy’n ymholi ynghylch cyfleusterau’r lleoliad. Bydd angen i chi gael gwybodaeth dda o’r lleoliad a’r cyfleusterau y mae’n gallu’u cynnig ar gyfer mathau gwahanol o ddigwyddiadau.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n hybu cyfleusterau achlysuron a digwyddiadau mewn lleoliad diwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
* *
1 Darparu manylion cywir am niferoedd ac argaeledd cyfleusterau i'r rhai sy'n gwneud ymholiad
2 Rhoi cyngor ar addasrwydd y lleoliad ar gyfer y math o ddigwyddiad a fydd yn cael ei gynnal
3 Trafod opsiynau gosodiadau posibl y gellir eu cyflawni o fewn cyfyngiadau'r lleoliad
4 Awgrymu trefniadau amgen pan na allwch chi gwrdd â'r dyddiad neu'r dull gosod yn y cyfleuster
5 Darparu gwybodaeth gywir ynghylch cyfyngiadau mynediad i'r cyfleusterau i bwy bynnag sy'n gwneud yr ymholiad
6 Amlinellu manteision a goruchafiaeth y lleoliad i bwy bynnag sy'n gwneud yr ymholiad
7 Awgrymu gwasanaethau ychwanegol addas y gall eich sefydliad eu cynnig i gyd-fynd â llogi'r cyfleusterau
8 Cyfrifo gwybodaeth gywir am gost y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bwy bynnag sy'n gwneud yr ymholiad
9 Anfon ymholiadau nad ydych chi'n gallu ymdrin â nhw eich hun ymlaen at bobl addas
10 Ymdrin â gofynion archebu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Uchafswm y nifer o bobl y gellir eu cynnwys yn y cyfleuster
2 Y dulliau gwahanol o osod y lle y gall y cyfleuster ei gynnig
3 Mynediad a chyfyngiadau eraill sy’n berthnasol i’r cyfleuster
4 Sut i wirio a yw’r cyfleuster ar gael ac a oes staff addas
5 Manteision y lleoliad
6 Hanes diwylliannol y lleoliad a sut y gellir defnyddio hwn fel pwynt gwerthu ar gyfer y cyfleuster
7 Y mathau o ddigwyddiadau a fyddai’n cael eu hystyried yn addas neu’n anaddas ar gyfer y lleoliad
8 Ymwybyddiaeth o unrhyw oblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd o gynnal digwyddiad yn eich lleoliad
9 Pryd i rannu gwybodaeth a’i drosglwyddo ar gyfer gwneud penderfyniad, ac i bwy y dylid ei drosglwyddo
10 Sut i gyfrifo’r costau sy’n gysylltiedig â llogi’r cyfleuster
11 Pa wasanaethau eraill y gallech chi eu traws-werthu i gefnogi’r digwyddiad
12 Polisïau, prosesau a phrotocolau sefydliadol ar gyfer trin archebion, gan gynnwys a ddylid derbyn yr archeb ynteu a ddylid anfon yr ymholiad ymlaen at berson addas
13 Oblygiadau iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â llogi’r cyfleuster, a’r math o ddigwyddiad i’w gynnal
14 Strwythur oruchwylio a rheoli eich sefydliad
15 At bwy i anfon ymholiadau pan na allwch chi roi cymorth
16 Dulliau a thechnegau cyfathrebu
17 Pryd y mae’n addas gweithredu o’ch pen a’ch pastwn eich hun i ddatrys problem neu ateb ymholiad, a phryd y mae’n addas trosglwyddo’r mater neu’r ymholiad i rywun arall a chael cefnogaeth