Prosesu gwerthiannau mewn lleoliad diwylliannol

URN: CCSCVO3
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Lleoliadau Diwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewn pwynt gwerthu. Fe all y pwynt gwerthu fod yn swyddfa docynnau, caffi, bwyty neu siop yn eich sefydliad, dros y ffôn neu ar lein. Disgwylir i chi fod yn effro i faterion sy’n ymwneud â thaliadau ffug neu dwyllodrus, gan barhau i fod yn gwrtais i’r cwsmeriaid. Mae hefyd yn ofyniad yn y rôl i adnabod faint o amser a sylw y gellir ei roi i unigolion tra bo eraill yn aros am wasanaeth. Mae’r Safon hwn hefyd yn berthnasol i werthiant dros y ffôn ar gyfer eitemau fel tocynnau.

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n darparu gwasanaeth pwynt gwerthu o fewn i leoliad diwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1              Dweud wrth gwsmeriaid beth yw’r swm cywir i’w dalu

2              Gwirio’r swm a’r modd o dalu a gynigir gan gwsmeriaid yn erbyn y swm i’w dalu

3              Prosesu taliadau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

4              Dweud mewn ffordd  ystyriol wrth gwsmeriaid pan na ellir cymeradwyo taliad ac awgrymu modd arall o wneud taliad

5              Trin cwsmeriaid yn gwrtais drwy gydol y broses dalu

6              Cydbwyso’r angen i roi sylw i gwsmeriaid unigol â’r angen i gydnabod cwsmeriaid sy’n aros am wasanaeth

7              Cynnal lefel addas o fflôt ar gyfer trafodion arian parod

8              Casglu’r taliad cywir oddi wrth y cwsmeriaid

9              Cofnodi trafodion mewn systemau addas yn unol â gofynion y sefydliad

10           Rhoi derbynebau am nwyddau a gwasanaethau i gwsmeriaid ble bo’n addas

11           Cyfeirio problemau â thrafodion i’r bobl addas


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Sut i gadw arian parod a thaliadau eraill yn ddiogel

2      Sut i wirio a chysoni fflôt arian parod

3      Y mathau o daliadau y mae gennych awdurdod i’w derbyn

4      Gweithdrefnau ar gyfer awdurdodi trafodion nad ydynt mewn arian parod

5      Sut i wirio ac adnabod taliadau ffug, sieciau, cardiau credyd, cardiau talu, cardiau debyd sydd wedi cael eu dwyn, sut i ymdrin â thaliadau amheus

6      Hawliau, dyletswyddau a chyfrifoldebau perthnasol o dan ddeddfwriaeth gyfredol sy’n ymwneud â gwerthu nwyddau

7      Gweithdrefnau sefydliadol ynghylch derbyn taliadau

8      Gweithdrefnau sefydliadol ynghylch trin amheuaeth o dwyll

9      At bwy i gyfeirio os cewch broblemau gyda thrafodion

10   Dulliau a thechnegau cyfathrebu

11   Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rheoli mathau gwahanol o ddulliau talu

12 Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi manylion trafodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV21

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliannol, Lleoliad, Gweithrediadau, Ymwelwyr, Cwsmeriaid, Gwerthu