Hybu nwyddau a gwasanaethau lleoliad diwylliannol i ymwelwyr

URN: CCSCVO2
Sectorau Busnes (Cyfresi): gweithrediadau lleoliad creadigol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â chael ymrwymiad gan ymwelwyr / darpar ymwelwyr i brynu neu gael mynediad i nwyddau a / neu wasanaethau’r sefydliad. Gall hyn gynnwys gwerthiant tocynnau, ond fe all gynnwys digwyddiadau rhad ac am ddim hefyd. Bydd angen gwybodaeth dda o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd ar gael yn eich sefydliad. Disgwylir i chi fod yn gallu darparu gwybodaeth am nwyddau a gwasanaethau i ymwelwyr, eu hannog i ystyried y manteision ac adnabod eu hanghenion prynu. Gallai gwasanaethau o’r fath gynnwys nawdd a chynlluniau cyfeillion neu aelodaeth. Efallai y byddwch yn ymwneud ag ymwelwyr wyneb yn wyneb neu â darpar ymwelwyr dros y ffôn neu ar lein. Mae’r safon hwn hefyd yn gofyn i chi fod yn gallu synhwyro ac ymateb i arwyddion prynu llafar ac anllafar, negyddol a chadarnhaol fel ei gilydd.

Mae’r safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n hybu nwyddau neu wasanaethau lleoliad diwylliannol i ymwelwyr / darpar ymwelwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Adnabod y math o nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael i ymwelwyr ar adegau addas

2      Cyflwyno ac arddangos nwyddau a gwybodaeth am wasanaethau er mwyn iddyn nhw fod yn hawdd eu gweld

3      Rhoi gwybodaeth ddigonol i ymwelwyr am nwyddau a gwasanaethau er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniad ynghylch prynu neu gael mynediad iddynt

4      Defnyddio cwestiynau strwythuredig i gael gwybodaeth gan yr ymwelwyr am eu hanghenion

5      Awgrymu nwyddau neu wasanaethau ychwanegol i ymwelwyr, sy'n berthnasol i'r nwyddau neu wasanaethau sy'n cael eu hybu

6      Amlinellu manteision y nwyddau neu wasanaethau sy'n cael eu hybu i'r ymwelwyr ac i'r sefydliad

7      Rhoi gwybodaeth gywir i ymwelwyr sy'n gofyn am nwyddau a gwasanaethau nad ydynt ar gael ynghylch sut i gael gafael arnynt

8      Treulio cyfnod addas o amser gyda phob ymwelydd

9      Trin ymholiadau a gwrthwynebiadau ag ymatebion clir a chywir

10   Cyfrifo a chadarnhau prisiau cywir nwyddau a gwasanaethau i ymwelwyr

11   Esbonio beth yw dulliau talu derbynion i ymwelwyr mewn modd y gallant ei ddeall

12   Darparu adborth gan ymwelwyr ac ymatebion i nwyddau neu wasanaethau gerbron pobl addas yn eich sefydliad chi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Polisi gweithdrefnau a phrotocolau eich sefydliad ynghylch y gwasanaeth a ddarperir i ymwelwyr

2      sut i drin ymwelwyr yn gynnes a pharchus

3      hanes diwylliannol y lleoliad ac amcanion y sefydliad, manteision cyfathrebu hyn i ymwelwyr a phryd y mae’n addas gwneud hynny

4      y nwyddau a’r gwasanaethau sydd ar gael gan y sefydliad, gan gynnwys unrhyw gynlluniau aelodaeth, cynlluniau noddi a chynlluniau cyfeillion

5      sut i arddangos nwyddau a gwybodaeth am wasanaethau

6      sut i roi gwybodaeth am nwyddau a gwasanaethau i ymwelwyr heb ymddangos yn ymwthiol

7      technegau i fynegi i ymwelwyr eich bod wedi rhoi amser a sylw digonol iddynt

8      Sut i wrthbwyso anghenion yr ymwelwyr yr ydych chi’n gweini arnynt yn erbyn y rheiny sy’n aros

9      Pryd a pham y mae weithiau’n angenrheidiol gosod cyfyngiadau amser o flaen anghenion ymwelwyr gan gynnwys pan fo’r egwyl ar fin dod i ben, neu pan fydd sioe ar fin dechrau, a sut i gyfathrebu hyn i ymwelwyr

10   Technegau y gellir eu rhoi ar waith wrth werthu, gan gynnwys traws-werthu, uwchwerthu a gwerthu ychwanegiadau

11   Technegau llafar, anllafar, gwrando a holi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV3

Galwedigaethau Perthnasol

Cymorth Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliant, Lleoliad, Gweithrediadau, Cymorth, Nwyddau, Deunyddiau. Gwasanaethau, Ymwelwyr