Cyfrannu at ofal parhaus mangre lleoliad diwylliannol
Trosolwg
Mae'r Safon hwn yn ymwneud â gofalu'n barhaus am y fangre ble mae eich sefydliad yn gweithredu. Gofynnir i chi adnabod unrhyw ofynion cynnal a chadw i'r fangre. Mae hyn yn cynnwys y tu fewn a thu allan i'r lleoliad ac mewn ardaloedd cyhoeddus a phreifat. Yn ogystal, bydd gofyn i chi ymgymryd â gweithgareddau cynnal a chadw bach a all gynnwys trwsio ar raddfa fechan, yn unol â gofynion eich swydd a'r sefydliad. Bydd gofyn i chi ddangos y gallu i fod yn rhagweithiol yn y gweithle.
Mae'r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â gofalu'n barhaus am fangre lleoliad diwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Monitro a riportio cyflwr mangre yn unol â rhaglenni a gytunwyd
2 Riportio arwyddion o newidiadau yng nghyflwr lleoliadau gerbron pobl berthnasol, gan adnabod rhesymau dros y newidiadau ble bo’n bosib
3 Cofnodi gwybodaeth am leoliadau mewn dogfennaeth addas
4 Cynnal iechyd a diogelwch pobl a diogelwch y lleoliad a’i eitemau bob amser
5 Ymgymryd â gweithgareddau cynnal a chadw bach sydd o fewn eich cylch arbenigedd
6 Darparu gwybodaeth i’r bobl addas am y gweithdrefnau cynnal a chadw bach sy’n digwydd
7 Dod â phroblemau wrth gwblhau gweithgareddau cynnal a chadw bach i sylw’r bobl berthnasol
8 Cofnodi gwybodaeth am weithredu gweithdrefnau cynnal a chadw bach mewn dogfennaeth addas
9 Cynnal unrhyw weithdrefnau yn unol â rheoliadau, canllawiau gweithgynhyrchwyr a gweithdrefnau’r sefydliad o ran iechyd a diogelwch bob amser
10 Gwirio’n gyson fod ardaloedd gwaith ac ardaloedd cyhoeddus yn rhydd o beryglon iechyd a diogelwch
11 Riportio darpar beryglon iechyd a diogelwch i bobl addas yn ddi-oed, a gweithredu i rwystro niwed i’r hunan ac i eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Rheoliadau, canllawiau gweithgynhyrchwyr a gweithdrefnau'r sefydliad o ran iechyd a diogelwch
2 Sut i riportio darpar beryglon iechyd a diogelwch ac i bwy
3 Arwyddion o newidiadau yng nghyflwr lleoliadau a sut i adnabod y rhesymau dros y newidiadau
4 Safonau glendid disgwyliedig ar gyfer gofodau cyhoeddus ac â phwy i gysylltu os nad yw'r rhain yn cael eu cynnal
5 Dogfennaeth ble dylid cofnodi gwybodaeth am leoliadau
6 Rheoliadau, canllawiau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch
7 Gweithgareddau cynnal a chadw y gellid disgwyl i chi ymgymryd â nhw
8 Y mathau o broblemau y gallech chi ddod ar eu traws wrth gwblhau gweithgareddau cynnal a chadw bach ac i bwy y dylid eu riportio
9 Pwy y dylid dweud wrthynt am weithdrefnau cynnal a chadw sy'n digwydd
10 Dulliau a thechnegau cyfathrebu
11 Sut a ble i gofnodi gwybodaeth am weithredu gweithdrefnau cynnal a chadw bach