Cyfrannu at ofal eitemau mewn lleoliad diwylliannol
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â gofalu am eitemau mewn lleoliad diwylliannol. Bydd gofyn i chi gadarnhau gyda phobl briodol beth yw’r gofynion gofalu a allai gynnwys glanhau eitemau, cylchdroi eitemau a gofalu am yr amodau amgylcheddol cywir a diogelwch yr eitemau. Bydd angen i chi hefyd fonitro unrhyw beryglon sy’n gysylltiedig â’r eitemau. Bydd gofyn i chi weithredu gofal yr eitemau yn unol â gweithdrefnau a gafodd eu hadnabod, a dwyn unrhyw ofidiau i sylw’r bobl briodol.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â gofalu am eitemau mewn lleoliad diwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Gofalu am eitemau yn unol â gweithdrefnau a rhaglenni gofal penodedig yn unol â gofynion y sefydliad
2 Cadarnhau’r gweithdrefnau trin a thrafod ar gyfer eitemau gyda’r bobl briodol
3 Cadarnhau unrhyw beryglon penodol sy’n gysylltiedig â gweithdrefnau gofalu am eitemau gyda’r bobl briodol
4 Adnabod unrhyw anawsterau wrth gyflawni gofynion gofal, a rhoi gwybod i’r bobl briodol
5 Monitro a rheoli amodau amgylcheddol yn unol â gofynion gofal
6 Mynd i’r afael â pherygl neu niwed i eitemau yn unol â gweithdrefnau’n ddi-oed
7 Defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i adnabod arwyddion o newid yng nghyflwr eitemau, gan adnabod y rhesymau pam pan fo’n bosib
8 Darparu gwybodaeth i bobl briodol am gyflwr eitemau a’r gweithdrefnau gofal a ymgymerwyd
9 Cynnal iechyd a diogelwch pobl a diogelwch eitemau ar bob adeg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Gweithdrefnau a rhaglenni eich sefydliad ar gyfer gofalu am eitemau
2 Pwy sy’n gyfrifol am ddatblygu gweithdrefnau a rhaglenni gofal ar gyfer yr eitemau dan eich gofal
3 Gweithdrefnau trin a thrafod eitemau dan eich gofal
4 Peryglon sy’n gysylltiedig â gweithdrefnau gofal ar gyfer eitemau o dan eich gofal
5 Sut i ymdrin â darpar niwed i eitemau gan gynnwys niwed gan ddŵr, gwaith adeiladu neu gynnal a chadw neu bla na welwyd cyn hynny
6 Pwy i ddweud wrtho yn achos unrhyw anawsterau wrth geisio cyflawni gofynion gofal
7 Yr amodau amgylcheddol priodol sydd eu hangen wrth gyflawni gofynion gofal
8 Yr amodau amgylcheddol priodol sydd eu hangen ar gyfer eitemau penodol a sut y rheolir y rhain
9 Arwyddion o unrhyw newid yng nghyflwr eitemau a sut i adnabod y rhesymau dros newid
10 Dulliau a thechnegau cyfathrebu
11 I bwy y dylech roi gwybodaeth am gyflwr eitemau a’r gweithdrefnau gofal a ymgymerwyd