Ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau
Trosolwg
Mae'r Safon hwn yn ymwneud ag ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau. Gallai'r rhain gynnwys tân, gweithredoedd terfysgol, pecynnau amheus, ymddygiad amheus, toriadau mewn diogelwch, salwch neu anafiadau.
Bydd angen i chi fod yn rhagweithiol wrth adnabod pryd y bydd digwyddiad neu argyfwng yn digwydd, a chyfeirio aelodau'r cyhoedd a staff yn unol â'r gweithdrefnau addas.
Mae'r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud ag ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Gwneud ymateb cychwynnol i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2 Cael gafael ar bob gwybodaeth berthnasol am ddigwyddiadau ac argyfyngau sy'n digwydd yn ddi-oed
3 Cyfathrebu â phawb sy'n ymwneud â digwyddiadau ac argyfyngau mewn modd sy'n addas i'r sefyllfa
4 Gweithredu'n addas a chyflym yn unol â gweithdrefnau sefydliadol i rwystro sefyllfaoedd rhag mynd o ddrwg i waeth
5 Riportio digwyddiadau ac argyfyngau mewn dull clir a chywir i gydweithwyr priodol
6 Trosglwyddo rheolaeth i gydweithwyr priodol pan fo galw
7 Cynnal eich cyfrifoldebau chi mewn dull diogel effeithiol ac effeithlon yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad
8 Ymdrin ag unrhyw wylwyr gyda gweithdrefnau sefydliadol
9 Cynnal hawliau'r unigolion sy'n rhan o'r sefyllfa yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad
10 Gweithredu cynlluniau wrth gefn yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad
11 Cofnodi a riportio gwybodaeth am ddigwyddiadau ac argyfyngau y gellid eu defnyddio ar gyfer gweithredu yn y dyfodol yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad
12 Sicrhau fod cyfarwyddiadau a cheisiadau i eraill yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Y mathau o ddigwyddiadau ac argyfyngau a all ddigwydd gan gynnwys tân, gweithredoedd terfysgol, pecynnau amheus, ymddygiad amheus, toriadau mewn diogelwch, salwch neu anafiadau
2 Gweithdrefnau sefydliadol y dylech chi eu dilyn wrth wneud ymateb cychwynnol
3 Sut i adnabod pryd mae digwyddiad neu argyfwng yn digwydd neu ar fin digwydd
4 Pwysigrwydd cyfathrebu’n glir a chywir, a phwysigrwydd dilyn gweithdrefnau sefydliadol wrth ymateb i ddigwyddiad neu argyfwng
5 Gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol ar gyfer riportio digwyddiadau neu argyfyngau yn y cyfnodau cynnar
6 Gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol ar gyfer rheoli digwyddiad neu argyfwng, a pha rolau y bydd aelodau eraill o staff yn eu cymryd
7 Gweithdrefnau ar gyfer defnyddio grym yn ystod digwyddiad neu argyfwng am bwysigrwydd ddefnyddio grym rhesymol yn unig
8 Dulliau a thechnegau cyfathrebu
9 Cynlluniau wrth gefn ar gyfer ystod o ddigwyddiadau ac argyfyngau a’ch rôl chi ynddynt