Cynnal arfer dda amgylcheddol mewn gweithgareddau gwaith beunyddiol

URN: CCSCVO13
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â chynnal arfer dda amgylcheddol mewn gweithgareddau gwaith beunyddiol. Mae gofyn i chi wybod cynnwys polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, adnabod a riportio unrhyw beryglon gwir neu botensial, lleihau peryglon a defnyddio adnoddau’n gyfrifol a gwybod pwy yw’r bobl yn eich gweithle y dylech riportio materion amgylcheddol iddynt. Mae angen i chi hefyd allu adnabod unrhyw beth yn rôl eich swydd a allai achosi niwed i’r amgylchedd.

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â chynnal arfer dda amgylcheddol mewn gweithgareddau gwaith beunyddiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Cael gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy am bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud ag arferion amgylcheddol

2      Cadw'n gyfredol ar arferion gweithio amgylcheddol-gyfeillgar sy'n berthnasol i'ch gweithle bob amser

3      Ailgylchu a gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

4      Defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i adnabod arferion gweithio cyfredol a'r defnydd o ddeunyddiau, cynhyrchion neu offer a allai achosi niwed i'r amgylchedd

5      Gweithredu'n addas o fewn cyfyngiadau eich awdurdod i addasu eich arferion gweithio a'ch defnydd o ddeunyddiau, cynnyrch neu offer i leihau perygl amgylcheddol

6      Defnyddio adnoddau yn unol ag arferion gweithio amgylcheddol

7      Riportio unrhyw wahaniaethau rhwng gweithdrefnau cyfreithiol a chyfarwyddiadau ac arferion y gweithle wrth bobl addas ar adegau addas

8      Riportio peryglon sy'n cyflwyno peryglon mawr i bobl addas yn ddi-oed


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Eich cyfrifoldebau dros yr amgylchedd fel y diffinnir ef gan ddeddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau’r gweithle

2      Gofynion monitro amgylcheddol y sefydliad sy’n berthnasol i’ch rôl chi

3      Peryglon penodol i’r amgylchedd a all fod yn bresennol yn eich gweithle a / neu yn eich swydd chi

4      Pwysigrwydd bod yn effro i bresenoldeb peryglon i’r amgylchedd yn yr holl weithle a riportio ar fyrder unrhyw beryglon i’r amgylchedd

5      Y bobl gyfrifol y dylech riportio materion amgylcheddol iddynt

6      Trefniadau sefydliadol ar gyfer ailgylchu a gwaredu gwastraff

7      Arferion a gweithdrefnau gweithio diogel ar gyfer eich swydd chi sy’n ymwneud â rheoli risg i’r amgylchedd

8      Cyfarwyddiadau ynghylch trin deunyddiau a all fod yn niweidiol i’r amgylchedd yn gywir

9      Sut i adnabod camddefnydd o ddeunyddiau, neu gynnyrch sy’n niweidiol i’r amgylchedd

10   Dulliau a thechnegau cyfathrebu

11   Cyfarwyddiadau cyflenwyr, gweithgynhyrchwr a’r gweithle ynghylch defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch a all fod yn niweidiol i’r amgylchedd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV23

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliant, Lleoliad, Gweithrediadau, Amgylchedd, Amgylcheddol, Risg