Rheoli diogelwch lleoliad diwylliannol

URN: CCSCVO12
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â rheoli a monitro diogelwch y lleoliad. Gofynnir i chi reoli mynediad i leoliadau gan sicrhau nad oes unrhyw doriad wedi digwydd i ddiogelwch, a rheoli pwyntiau mynediad, gan gyhoeddi trwyddedau diogelwch pan fo’n addas. Yn ogystal, mae gofyn i chi reoli defnydd pobl o’r lleoliad. Bydd hyn yn cynnwys adnabod ac asesu unrhyw arwydd o broblemau diogelwch a gweithredu’n addas i ymdrin â hynny, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad.

Yn ddibynnol ar eich rôl gwaith efallai y bydd hi’n ofynnol i chi ddal trwydded SIA, nid yw’r safon hwn yn dileu’r cyfrifoldeb hwnnw, a dylech wirio a yw hyn yn berthnasol i chi. 

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â rheoli diogelwch lleoliad diwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Cynnal archwiliadau o'r lleoliad ac eitemau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw doriad mewn diogelwch wedi digwydd

2      Cadarnhau gyda phobl addas fod lleoliadau'n barod ac addas ar gyfer eu defnyddio cyn agor y lleoliad

3      Cadarnhau fod mynedfeydd ac allanfeydd, gan gynnwys allanfeydd tân, yn barod ac yn ddiogel i'w defnyddio

4      Sicrhau fod mynedfeydd ac allanfeydd ar gael yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r sefydliad

5      Cadarnhau fod darpar fynedfeydd ac allanfeydd anawdurdodedig yn ddiogel yn unol â gweithdrefnau diogelwch

6      Sicrhau fod rhannau o'r eiddo sy'n waharddedig wedi'u marcio a'u diogelu drwy ddefnyddio rhwystrau fel y nodir mewn gweithdrefnau sefydliadol

7      Rheoli mynediad i leoliadau mewn mannau ac ar adegau fel y nodir mewn gweithdrefnau diogelwch sefydliadol

8      Cyfarch pobl sy'n mynd i mewn i'r lleoliad mewn dull cwrtais, gan gadarnhau pwy ydynt pan fydd hyn yn ofynnol i gwrdd â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad

9      Cofrestru ymwelwyr yn unol â gofynion sefydliadol

10   Chwilio a / neu sganio eiddo personol a'u trin â pharch yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad

11   Cynorthwyo ymwelwyr i fynd i'w lleoliad yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad

12   Cylchwylio'r lleoliad yn rheolaidd yn unol â gofynion gweithdrefnau diogelwch y sefydliad

13   Gwirio cyflwr y lleoliad ac eitemau ynddo yn rheolaidd i sicrhau nad oes unrhyw doriad mewn diogelwch wedi digwydd

14   Adnabod ac asesu unrhyw arwyddion o broblemau diogelwch yn ddi-oed

15   Darparu cyfarwyddiadau clir i bobl y mae gofyn iddynt adael y lleoliad

16   Galw am gymorth ychwanegol gan bobl addas pan na ellir trin digwyddiadau'n ddiogel â'r adnoddau sydd wrth law

17   Cwblhau dogfennaeth ddiogelwch yn unol â gweithdrefnau diogelwch y sefydliad

18   Cynnal iechyd a diogelwch pobl a diogelwch pob eitem bob amser


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Problemau diogelwch sy’n golygu nad yw’n addas rhoi mynediad i’r cyhoedd

2      Sut i wirio fod mynedfeydd ac allanfeydd yn barod ar gyfer eu defnyddio, gan gynnwys allanfeydd tân

3      Pa ardaloedd o’r lleoliad sy’n waharddedig i’r cyhoedd

4      Gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy’n ymwneud â chofnodi gwiriadau diogelwch

5      Pa mor aml y dylai patrolau diogelwch ddigwydd

6      Gweithdrefnau sy’n ymwneud â chwilio drwy eiddo personol

7      Gofynion eich sefydliad ar gyfer cofrestru / cofnodi ymwelwyr

8      Hawliau cyfreithiol unigolion o ran archwiliadau / sganio sy’n ymwneud â diogelwch

9      I bwy y dylech riportio unrhyw faterion yn ymwneud â diogelwch

10   Dulliau a thechnegau cyfathrebu

11   Gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer galw am gymorth


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative & Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCV24

Galwedigaethau Perthnasol

Cynorthwyydd Lleoliad Diwylliannol

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Diwylliant, Lleoliad, Gweithrediadau, Diogelwch, Gweithdrefnau