Monitro diogelwch ac amgylchedd eitemau mewn lleoliad diwylliannol
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â diogelu eitemau mewn lleoliad diwylliannol. Gallai eitemau fod yn offer neu’n wrthrychau. Bydd gofyn i chi fonitro diogelwch eitemau rhag ymosodiad a lladrad yn ogystal â monitro’r amgylchedd ble cedwir y pethau. Bydd gofyn i chi ddangos y gallu i fod yn rhagweithiol yn y gweithle.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â monitro diogelwch ac amgylchedd offer neu eitemau mewn lleoliad diwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Monitro ymwelwyr i leoliad y sefydliad yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2 Darparu'r wybodaeth gywir i ymwelwyr ynghylch sut i leoli eitemau
3 Darparu gwybodaeth gywir i ymwelwyr ynghylch faint o fynediad a chyswllt â'r eitemau a ganiateir
4 Gweithredu’n gyflym ac yn briodol pan fyddwch chi’n adnabod gweithgareddau anaddas neu waharddedig
5 Defnyddio ymddygiad sy'n osgoi cynyddu sefyllfaoedd bob amser
6 Gosod arwyddion a rhwystrau mewn lleoliadau addas i gynorthwyo ymwelwyr
7 Galw am gymorth ychwanegol gan bobl addas pan na ellir ymdrin â digwyddiad yn ddiogel gyda'r adnoddau sydd i law ar unwaith
8 Rheoli mynediad i leoliadau yn unol â gofynion diogelwch penodol
9 Monitro lleoliadau yn unol â gweithdrefnau a dulliau penodedig
10 Adnabod problemau diogelwch ac amgylcheddol a gweithredu mewn modd addas ar fyrder
11 Gwirio systemau diogelwch ac amgylcheddol yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gweithredu fel y dylent
12 Gweithredu ar unwaith i ddiogelu eitemau pan fydd namau ar systemau diogelwch neu amgylcheddol yn cael eu hamlygu
13 Cofnodi manylion cywir am bob digwyddiad diogelwch neu amgylcheddol mewn systemau cofnodi addas yn ddi-oed
14 Cynnal iechyd a diogelwch pobl a diogelwch pob eitem bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro ymwelwyr
2 Ble y lleolir eitemau a’r mynediad a’r cyswllt a ganiateir
3 Pa weithgareddau y gellir eu pennu fel anaddas a gwaharddedig, a beth ddylech chi ei wneud pan fydd gweithgareddau o’r fath yn digwydd
4 Ble y dylid lleoli arwyddion a rhwystrau
5 Ymddygiad i’w ddefnyddio er mwyn cadw eraill yn dawel ac osgoi sefyllfaoedd rhag mynd o ddrwg i waeth
6 Ar bwy i alw pan fydd angen cymorth ychwanegol
7 Y mathau o ddigwyddiadau y dylid eu riportio a’u cofnodi
8 Gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer riportio a chofnodi digwyddiadau
9 Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer monitro a rheoli mynediad i leoliadau
10 Dulliau a thechnegau cyfathrebu
11 Y paramedrau amgylcheddol ar gyfer diogelu’r offer neu wrthrychau yr ydych chi’n eu monitro
12 Pa gamau dylid eu cymryd pan gwyd problemau diogelwch a / neu amgylcheddol