Paratoi ar gyfer a derbyn nwyddau a deunyddiau
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â derbyn nwyddau a deunyddiau. Bydd angen i chi allu paratoi ar gyfer a derbyn cyflenwadau. Mae disgwyl i chi baratoi’r ardal dderbyn pan fydd hi’n addas gwneud hynny a derbyn nwyddau a deunyddiau. Mae hyn yn gofyn i chi gwblhau’r ddogfennaeth berthnasol a sicrhau fod unrhyw systemau rheoli stoc wedi cael eu diweddaru. Gall sefyllfaoedd godi pan fydd gofyn i chi wrthod derbyn nwyddau a deunyddiau. Mewn achosion felly, mae gofyn i chi roi gwybod i’r bobl sydd angen gwybod a nodi pam y cawsant eu gwrthod.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n paratoi ar gyfer ac yn derbyn nwyddau neu ddeunyddiau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod yr hyn sy'n cael ei dderbyn i'w storio
2 Sicrhau fod yr ardal dderbyn yn lân, yn daclus ac yn rhydd o unrhyw rwystrau a pheryglon cyn i'r cyflenwadau gyrraedd
3 Sicrhau fod offer trin addas ar gael, a'i fod yn gweithio'n iawn
4 Gwirio fod digon o le i storio unrhyw gyflenwadau a ddisgwylir, gan ddweud wrth y bobl addas os nad oes digon o le
5 Sicrhau fod yr holl ddogfennaeth wedi'i gwblhau, yn gywir ac yn gyfredol
6 Gwirio cyflenwadau i sicrhau fod math, ansawdd a nifer y nwyddau fel y disgwylid iddynt fod
7 Gweithredu'n unol â phrosesau'r sefydliad pan fydd anghysonderau mewn cyflenwadau
8 Gwrthod cyflenwadau pan fo hynny'n addas, yn unol â phrosesau sefydliadol
9 Gwneud cofnodion cywir a rhoi gwybod i'r bobl addas pan wrthodwyd cyflenwadau
10 Trin stoc mewn modd sy'n osgoi achosi niwed iddo
11 Diweddaru systemau rheoli stoc a sicrhau fod pob dogfennaeth wedi'i gwblhau ac yn gywir
12 Trin nwyddau mewn modd diogel a glanwaith yn unol â phrosesau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Sut i gael mynediad i wybodaeth a sut i’w ddehongli i benderfynu ansawdd a nodweddion y cyflenwadau
2 Gweithdrefnau sy’n ymwneud â derbyn nwyddau a deunyddiau a chanlyniadau peidio â’u dilyn
3 Pam fod dogfennaeth gywir sydd wedi cael ei gwblhau yn bwysig, a chanlyniadau posib cwblhau’n anghywir
4 Sut i ddefnyddio systemau rheoli stoc
5 Yr offer trin cywir a sut i gael mynediad iddo
6 Unrhyw nam a all godi mewn offer, a beth i’w wneud i ymateb iddynt
7 Beth i’w wneud i gywiro namau, ac i bwy i adrodd amdanynt
8 Pam ei bod hi’n bwysig trin nwyddau’n ddiogel
9 Ble dylid dadlwytho cyflenwadau
10 Y broses gyfathrebu o fewn y sefydliad a sut i’w defnyddio
11 Pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ac oblygiadau peidio â chyfathrebu’n effeithiol