Archwilio ac adrodd am waith adfer neu adnewyddu ar safleoedd, lleoliadau a strwythurau treftadaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag archwilio ac adrodd am yr adeiladwaith gwreiddiol, unrhyw waith adeiladu newydd arfaethedig a gwaith adfer neu adnewyddu i strwythurau, safleoedd neu leoliadau treftadaeth. Gallai'r ymweliadau, asesiadau a'r adroddiadau safle ymwneud â gwaith adfer neu adnewyddu yn y gorffennol neu'r dyfodol.
Mae'n ymwneud â dehongli'r gofynion a'r paramedrau, asesu'r deunyddiau a ddefnyddiwyd ac ansawdd y saernïaeth, tynnu lluniau o agweddau allweddol y safleoedd, lleoliadau neu strwythurau gyda chamera, cynnig argymhellion a llunio adroddiadau am sut mae'r gwaith adfer neu adnewyddu naill ai wedi'i gyflawni neu sut mae modd ei gyflawni.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer ymgynghorwyr treftadaeth neu unrhyw un sy'n gyfrifol dros archwilio ac adrodd am waith adfer neu adnewyddu i safleoedd, lleoliadau neu strwythurau treftadaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caffael gwybodaeth am ofynion a pharamedrau archwiliadau ac adroddiadau ar gyfer prosiectau adfer neu adnewyddu gan y bobl briodol
- argymell sut gellir caffael gwybodaeth am brosiectau adfer neu adnewyddu yn y gorffennol neu'r dyfodol i'r lefel o fanylder sy'n ofynnol
- defnyddio'r dulliau priodol i asesu safleoedd, lleoliadau neu strwythurau treftadaeth yn unol â gofynion y prosiect
- ymchwilio'r wybodaeth berthnasol am hanes safleoedd, lleoliadau neu strwythurau treftadaeth
- ymchwilio'r deunyddiau neu orffeniadau ar safleoedd, lleoliadau neu strwythurau treftadaeth yn ystod y cyfnod amser dymunol ar gyfer y gwaith adfer neu adnewyddu
- asesu'r deunyddiau a ddefnyddir ac ansawdd y saernïaeth o gymharu â'r safonau derbyniol
- cynnig argymhellion sy'n cadw ac yn ymgorffori nodweddion treftadaeth
- cynnig argymhellion sy'n cydymffurfio gyda'r gofynion cyfreithiol ar gyfer amddiffyn y dreftadaeth, safonau arfer da perthnasol ac unrhyw ofynion cynllunio lleol
- llunio adroddiadau a thynnu lluniau camera sy'n portreadu cyflwr yr adeiladwaith gwreiddiol, y gwaith adfer a'r gwaith adnewyddu yn gywir
- darparu adroddiadau a lluniau camera i gleientiaid ac uwch reolwyr yn unol â'r graddfeydd amser y cytunwyd arnyn nhw
- darparu cyngor technegol o fewn eich maes arbenigedd er mwyn ategu adroddiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffynonellau o wybodaeth fanwl am ofynion a pharamedrau'r prosiect ar gyfer prosiectau adfer neu adnewyddu yn y gorffennol neu'r dyfodol
- yr hanes pensaernïol ac egwyddorion dylunio pensaernïol a nodweddion treftadaeth mewn perthynas â strwythurau treftadaeth
- sut i gaffael a dehongli cynlluniau adeiladu a dogfennau hanesyddol
- y dulliau archwilio ar gyfer safleoedd, lleoliadau a strwythurau
- y ddeddfwriaeth a'r gofynion iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig ag ymweld â safleoedd, lleoliadau a strwythurau
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer amddiffyn treftadaeth, y safonau arfer da ar gyfer y diwydiant treftadaeth ac unrhyw ofynion cynllunio lleol
- y dulliau gwarchodaeth sy'n berthnasol i'r safleoedd, y lleoliadau a'r strwythurau treftadaeth rydych chi'n eu hasesu
- safonau cydnabyddedig y diwydiant ar gyfer deunyddiau ac ansawdd y bensaernïaeth
- y technegau a'r gosodiadau ffotograffig i bortreadu cyflwr yr adeiladwaith gwreiddiol, y gwaith adfer neu'r gwaith adnewyddu
- cynnwys, a'r ffurf ar gyfer, adroddiad ymgynghoriaeth treftadaeth
- y graddfeydd amser y cytunwyd arnyn nhw a sut i weithio gan fodloni'r terfynau amser
- y technegau a'r sianelau ar gyfer cyfathrebu gyda chleientiaid ac uwch reolwyr
- graddau a chyfyngiadau eich maes arbenigedd mewn perthynas ag asesiadau, adrodd a chyngor technegol