Asesu anghenion gwarchodaeth treftadaeth ddiwylliannol

URN: CCSCH8
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu anghenion gwarchodaeth treftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol. Gallan nhw fod yn rhan o gasgliad neu'n gyfres o gasgliadau. Gallai'r anghenion gwarchodaeth olygu triniaethau gwarchodaeth neu fesurau gwarchodaeth ataliol.

Mae'n ymwneud ag archwilio treftadaeth ddiwylliannol, adnabod ac asesu eu natur a'u defnydd, asesu eu cyflwr a'i achosion tebygol, adnabod gweithdrefnau sefydledig i fonitro amodau amgylcheddol, cofnodi arsylwadau ac asesiadau ac adrodd am ganfyddiadau. Gallai hyn gynnwys monitro ac archwilio parhaus fel rhan o'r asesiad.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros asesu anghenion gwarchodaeth treftadaeth ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfeirio at gofnodion priodol i gaffael gwybodaeth am arwyddocâd, cyd-destun, deunyddiau a strwythur y dreftadaeth ddiwylliannol rydych chi'n ei asesu
  2. caffael gwybodaeth ddibynadwy am sut mae'r dreftadaeth naill ai yn neu'n mynd i gael ei harddangos, ei storio, ei hamddiffyn neu ei defnyddio
  3. gwerthuso risgiau gweithgareddau asesu ar dreftadaeth ddiwylliannol cyn eu cyflawni
  4. asesu cyflwr treftadaeth ddiwylliannol, adnabod arwyddion gweledol cydnabyddedig ac arwyddion eraill o ddifrod, diraddiad neu ddirywiad
  5. adnabod unrhyw angen am fonitro ac archwilio parhaus fel rhan o'r asesiad
  6. adnabod yr achos tebygol o ddifrod, diraddiad neu ddirywiad o fewn cyfyngiadau eich arbenigedd a'ch profiad
  7. ceisio cyngor gan arbenigwyr neu drefnu dadansoddiad pellach pan fo angen mwy o wybodaeth
  8. adnabod ac asesu unrhyw risgiau yn sgil cyflwr treftadaeth ddiwylliannol a'i ddefnydd ac amgylchedd presennol neu ddisgwyliedig
  9. adnabod y dulliau addas ar gyfer monitro'r amgylchedd a'r addasiadau rheolaidd y gellir eu gwneud i atal dirywiad o fewn canllawiau gwarchodaeth priodol
  10. cofnodi ac adrodd am arsylwadau ac asesiadau yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
  11. cysylltu â'r bobl briodol wrth weithio tuag at yr opsiynau gorau ar gyfer trin a gofalu am dreftadaeth ddiwylliannol
  12. gweithio gan gydymffurfio gyda'r paramedrau iechyd a diogelwch wrth asesu treftadaeth ddiwylliannol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​yr arwyddocâd yng nghyd-destun y dreftadaeth ddiwylliannol rydych chi'n ei asesu
  2. sut i ganfod, dehongli a defnyddio cofnodion presennol a blaenorol
  3. nodweddion naturiol a chemegol deunyddiau, achosion a nodweddion dirywiad treftadaeth, ac effeithiau triniaeth a mesurau ataliol ar gyflwr a defnydd hirdymor y dreftadaeth
  4. y cysylltiadau rhwng deunyddiau, strwythur, amgylchedd a defnydd y dreftadaeth ddiwylliannol rydych chi'n ei asesu a difrod, diraddiad a dirywiad gwirioneddol neu bosibl
  5. sut i wahaniaethu rhwng dirywiad gweithredol a hanesyddol ac ystyried hyn  ar y cyd ag agweddau amgylcheddol
  6. sut i ddysgu am unrhyw newidiadau arfaethedig neu ddisgwyliedig i leoliad neu ddefnydd 
  7. arwyddocâd newid mewn cyflwr treftadaeth ddiwylliannol
  8. cyfyngiadau eich arbenigedd a'ch profiad a phwy ddylech chi gyfeirio atyn nhw
  9. sut i ddefnyddio dulliau asesu na fyddai'n bygwth cyflwr neu uniondeb y dreftadaeth ddiwylliannol i unrhyw raddau sylweddol
  10. sut i adnabod ac asesu cyflwr gan ddefnyddio synhwyrau gweledol ac eraill  
  11. pa mor aml dylid monitro a chofnodi a phryd i addasu'r ysbeidiau hyn yn ôl unrhyw broblemau sydd wedi'u canfod
  12. sut i ddefnyddio dyfeisiau recordio a dehongli eu darlleniadau
  13. lefel priodol yr adrodd, p'run ai yw hynny ynghylch gwrthrych unigol neu gasgliad neu ran neu strwythur cyflawn
  14. goblygiadau unrhyw fesurau gwarchodaeth neu ataliol rydych chi'n eu hadnabod, goblygiadau iechyd a diogelwch y dull hwn a'r effaith hirdymor ar y deunydd a'r strwythur
  15. canlyniadau tebygol peidio â chymryd camau gweithredu, gan gynnwys risgiau i'r dreftadaeth ddiwylliannol ac unrhyw wrthrychau neu strwythurau cysylltiedig ac i iechyd a diogelwch 
  16. y cyd-destun rydych yn gweithio ynddo a'r polisïau sefydliadol a gwarchodaeth perthnasol
  17. y sianelau cyfathrebu, pwy ddylid cysylltu gyda nhw a phryd
  18. sut i gyflawni gwaith a argymhellir heb achosi unrhyw risg i chi, i bobl eraill neu i'r dreftadaeth ddiwylliannol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH70

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr Swyddogaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Crefftau Adeiladu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth, Hanes, Pensaernïaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

gwarchodaeth; anghenion gwarchodaeth; treftadaeth ddiwylliannol; arteffact; casgliadau; adeilad treftadaeth; strwythur treftadaeth; safle treftadaeth;