Datblygu opsiynau a strategaethau gwarchodaeth ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol

URN: CCSCH7
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu opsiynau a strategaethau gwarchodaeth ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu sefydliadau hanesyddol. Gallai opsiynau a strategaethau gwarchodaeth ymwneud gyda'r canlynol: 

  • gwrthrychau cymhleth caiff eu cludo i stiwdio er mwyn manteisio ar driniaeth neu gyngor
  • strategaeth ar gyfer rheoli casgliad, adeilad, safle neu leoliad
  • ymateb i fygythiad neu broblem gwarchodaeth benodol

Mae'n ymwneud ag adnabod a gwerthuso opsiynau gwarchodaeth, cynghori ar ofynion deddfwriaeth neu bolisïau, datblygu cyngor, argymhellion neu strategaethau, trafod a dod i delerau gydag opsiynau, dod i gytundeb a chofnodi'r camau gweithredu y cytunwyd arnyn nhw.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n datblygu opsiynau a strategaethau gwarchodaeth ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​datblygu opsiynau a strategaethau ar gyfer categorïau treftadaeth ddiwylliannol sydd o fewn eich maes arbenigedd
  2. cyflawni asesiadau ac ymchwil digonol i adnabod opsiynau a strategaethau gwarchodaeth posibl
  3. ceisio cymorth gan neu ymgynghori gydag arbenigwyr pan fo'n ofynnol
  4. adnabod opsiynau a strategaethau gwarchodaeth sy'n bodloni anghenion gwarchodaeth y dreftadaeth ddiwylliannol
  5. sicrhau bod yr opsiynau neu strategaethau gwarchodaeth yn hyrwyddo arfer da o ran gwarchodaeth
  6. gwerthuso'r risgiau, y goblygiadau o ran adnoddau, y cyfleoedd cyllid a'r buddion ynghlwm â'r opsiynau a'r strategaethau gwarchodaeth sydd wedi'u hadnabod
  7. adnabod y goblygiadau o ran opsiynau a strategaethau gwarchodaeth ar gyfer storio, defnyddio neu arddangos treftadaeth ddiwylliannol yn y dyfodol
  8. cynnig cyngor ar unrhyw ddeddfwriaeth, canllawiau swyddogol neu bolisïau sefydliadol perthnasol sy'n effeithio ar opsiynau neu strategaethau
  9. cyflwyno'r opsiynau a'r strategaethau i'r bobl berthnasol mewn ffordd eglur a chryno
  10. trafod yr opsiynau a'r strategaethau gyda sefydliadau ac unigolion er mwyn dod i gytundeb
  11. cofnodi'r camau gweithredu y cytunwyd arnyn nhw ar ffurf briodol ac mewn manylder digonol yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y safonau, fframweithiau, cyfryngau cyfreithiol, moeseg a'r polisïau cenedlaethol, lleol, proffesiynol neu sefydliadol sy'n effeithio ar warchod y dreftadaeth sydd o fewn eich maes gweithgaredd chi
  2. nodweddion naturiol a chemegol deunyddiau, achosion a nodweddion dirywiad treftadaeth ac effeithiau triniaeth a'r mesurau ataliol ar gyflwr a defnydd hirdymor y dreftadaeth
  3. yr ystod gyflawn o arferion cyfredol a'r datblygiadau newydd o ran gwarchodaeth sy'n ymwneud â'ch maes gwarchodaeth
  4. safbwyntiau a rolau pobl eraill sy'n cael effaith ar amddiffyn a gofalu am y dreftadaeth, gan gydweithio gyda nhw pan fo'n briodol i sicrhau y bydd yr opsiynau a'r strategaethau'n effeithiol
  5. graddau eich arbenigedd o ran gwarchodaeth a phryd a lle i geisio arbenigedd gan bobl eraill
  6. y mathau o opsiynau a strategaethau gwarchodaeth ar gyfer eich maes arbenigedd gan gynnwys opsiynau sy'n gofyn am fesurau newydd, arloesol neu wedi'u haddasu i fodloni cyd-destunau unigol
  7. ffynonellau asesiadau ac ymchwil a sut i'w gyflawni
  8. tarddiad treftadaeth, ei arwyddocâd crefyddol, diwylliannol neu hanesyddol yn y cyd-destun rydych yn gweithio ynddo, ac effaith mesurau gwarchodaeth
  9. y ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau swyddogol a'r polisïau sefydliadol, rheoli a chadwraeth sy'n effeithio ar y cyd-destun penodol
  10. sut i werthuso anghenion gwarchodaeth y dreftadaeth mewn cyd-destunau unigol, p'run ai yw'r dreftadaeth wedi'u storio, eu defnyddio a/neu wedi'u harddangos
  11. sut i werthuso ac ymateb i sefyllfaoedd newidiol, cynllunio a pharatoi ar gyfer argyfyngau sy'n effeithio ar dreftadaeth
  12. sut i ddatblygu, diffinio, cyflwyno a hyrwyddo cyngor, opsiynau a strategaethau gwarchodaeth
  13. sut i asesu'r risgiau, y goblygiadau o ran adnoddau, y cyfleoedd cyllid a buddion gwahanol opsiynau a strategaethau 
  14. sut i drafod a dod i gytundeb gyda sefydliadau ac unigolion
  15. y systemau sefydliadol ar gyfer cofnodi camau, sut i'w defnyddio, y prif wahaniaethau rhwng systemau digidol ac ar bapur a'r problemau posibl ynghlwm â nhw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH74

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

gwarchodaeth; treftadaeth ddiwylliannol; opsiynau cadwaraeth; adeilad treftadaeth; strwythur treftadaeth; safle treftadaeth; lleoliad treftadaeth; arteffact;