Creu a defnyddio eitemau i amddiffyn, cadw neu arddangos treftadaeth ddiwylliannol

URN: CCSCH6
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu a defnyddio mowntiau, rhannau, rhwymwyr, cynwysyddion, fframiau, casys, rhwystrau neu sgriniau i amddiffyn, cadw neu arddangos treftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol. 

Mae'n ymwneud ag asesu'r opsiynau a'r gofynion technegol ar gyfer amddiffyn, creu neu addasu'r elfennau amddiffyn, gosod cyfansoddion amddiffyn, cadw neu arddangos, labelu er dibenion curadurol, marcio er dibenion diogelwch a chwblhau cofnodion.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros greu a defnyddio eitemau i amddiffyn, cadw neu arddangos treftadaeth ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r mesurau amddiffyn, lleddfu, ategu, amgylcheddol a diogelwch sy'n ofynnol i amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol
  2. asesu'r opsiynau amddiffyn, cadw ac arddangos sy'n fodd i'r holl ymwelwyr fwynhau treftadaeth ddiwylliannol
  3. adnabod yr opsiynau a'r camau gweithredu mwyaf priodol ar gyfer mowntio, amddiffyn ac arddangos treftadaeth ddiwylliannol
  4. creu neu addasu mowntiau a chyfansoddion amddiffyn neu arddangos fel sy'n ofynnol gan ddefnyddio deunyddiau penodol
  5. gosod cyfansoddion amddiffyn, cadw neu arddangos mewn safleoedd priodol
  6. sicrhau bod y dulliau amddiffyn, cadw neu arddangos yn cynnal uniondeb treftadaeth ddiwylliannol
  7. labelu gwrthrychau neu gyfansoddion er dibenion curadurol gan ddefnyddio'r dulliau a'r deunyddiau priodol  
  8. marcio gwrthrychau neu gyfansoddion er dibenion diogelwch gan ddefnyddio'r dulliau a'r deunyddiau priodol
  9. llunio cofnodion cywir ac eglur o gamau gweithredu fel sy'n briodol i gyd-destun y gwaith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pa ddeunyddiau a strwythurau sy'n briodol i amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol
  2. y gwahanol ddulliau ar gyfer amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol, a pha rai sy'n fwyaf priodol i'w defnyddio yn ddibynnol ar y deunyddiau, y strwythur a'r deilliant arfaethedig
  3. yr hynny rydych chi'n amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol rhagddi
  4. effaith y gwahanol opsiynau amddiffyn, cadw ac arddangos ar ymwelwyr sydd ag anghenion arbennig
  5. y gwahanol strategaethau sydd ar gael i sicrhau bod modd i ymwelwyr gydag anghenion arbennig fanteisio ar arddangosfeydd neu arddangosiadau
  6. sut i greu strwythurau amddiffynnol
  7. sut i osod strwythurau amddiffynnol neu sicrhau caiff y gwrthrychau eu cadw'n ddiogel
  8. gweithdrefnau'r sefydliad sy'n ymwneud â chadw cofnodion, dogfennu a diogelwch
  9. y mathau o systemau dogfennu a ddefnyddir, sut i'w defnyddio, y prif wahaniaethau rhwng systemau digidol ac ar bapur a'r problemau posibl ynghlwm â nhw
  10. sut i farcio gwrthrychau, ategion a deunyddiau pecynnu gan sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau sefydliadol, gwarchodaeth a churadurol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH64

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr Swyddogaethol, Adeiladu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

casgliadau; arteffactau; arddangosiadau; arddangosfeydd; treftadaeth ddiwylliannol; adeilad treftadaeth; strwythur treftadaeth; safle treftadaeth;