Pacio a chludo treftadaeth ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phacio a chludo treftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at gyfansoddion adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol. Gallai gwrthrychau olygu celfwaith, arteffactau neu sbesimenau.
Gallai'r dreftadaeth ddiwylliannol gael eu cludo o fewn adeiladau neu rhwng adeiladau sydd weithiau'n golygu pellteroedd maith, er enghraifft, pan mae pobl yn caffael neu'n benthyca gwrthrychau.
Mae'n ymwneud â defnyddio deunyddiau pacio a diogelu priodol, labelu pecynnau gyda chyfarwyddiadau trin a phen taith, cwblhau gwaith papur, defnyddio cyfarpar symud a threfnu llwythi a monitro llwybrau cludo gan ddwyn i ystyriaeth y peryglon naturiol, amgylcheddol a diogelwch.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n pacio ac yn cludo treftadaeth ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod y cyfarpar, y deunyddiau a'r bobl angenrheidiol ar gael i bacio gwrthrychau
- pacio gwrthrychau yn unol â'r canllawiau a'r gweithdrefnau penodol
- cytuno gyda'r holl bobl berthnasol ynghylch unrhyw wyriadau oddi wrth y canllawiau a'r gweithdrefnau penodol ynghyd â cheisio cyngor ychwanegol gan arbenigwyr pan fo'n briodol
- defnyddio'r deunyddiau a'r cyfarpar amddiffynnol sy'n briodol i ofynion gwarchodaeth y gwrthrychau
- sicrhau bod y deunydd pacio yn amddiffyn y gwrthrychau i'r lefel y cytunwyd arni ac yn darparu rheolaeth amgylcheddol a diogelwch ar gyfer gwrthrychau yn eu hamgylchedd a'r dull cludo a rhagwelir
- marcio'r deunydd pacio gyda'r cyfarwyddiadau trin a phen taith eglur a chywir
- cofnodi gwybodaeth fanwl gywir ynghylch pacio a chludo a'i rannu gyda'r bobl briodol
- cadarnhau'r awdurdod i gludo eitemau gyda'r holl bobl berthnasol
- gwirio bod y cyfarpar a ddefnyddir i gludo gwrthrychau yn addas ar eu cyfer a chadarnhau ei fanyleb ac ydyn nhw ar gael gyda'r bobl briodol
- trefnu llwythi mewn modd sy'n cynorthwyo gyda llwytho, dadlwytho a diogelu'r eitemau
- cydymffurfio gyda'r canllawiau a'r gweithdrefnau trin perthnasol bob amser
- monitro'r llwybrau cludo ar gyfer cyfyngiadau naturiol, amgylcheddol a diogelwch
- asesu'r gofynion danfon nad oes modd eu bodloni a chytuno ar ddatrysiadau amgen gyda'r bobl berthnasol
- cymryd camau unioni prydlon i leihau peryglon gwirioneddol neu ddichonol i wrthrychau
- cadw'r holl ddogfennau perthnasol gyda'r gwrthrychau bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwy allai awdurdodi'r gwaith pacio gwrthrychau
- pwy a beth sydd ei angen i bacio gwrthrychau
- y canllawiau a'r gweithdrefnau penodol ar gyfer pacio gwrthrychau
- pwy yw'r bobl orau i gynnig cyngor ar bacio
- y deunydd amddiffyn a'r cyfarpar sydd ar gael i fodloni gofynion gwarchodaeth y gwrthrychau
- yr ystyriaethau diogelwch a'r gofynion rheoli amgylcheddol ar gyfer gwrthrychau
- sut i farcio deunydd pacio gyda'r manylion o ran trin a phen taith
- sut gallai gwahanol ddulliau cludo effeithio ar ystyriaethau pacio a diogelwch eitemau gan gynnwys teithio mewn awyren
- sut i gofnodi gwybodaeth a'i rannu gydag eraill
- y gweithdrefnau a'r canllawiau ar gyfer trin gwrthrychau
- y dulliau o drefnu llwythi sy'n amddiffyn eitemau gan gynorthwyo gyda'r gwaith llwytho a dadlwytho
- sut i fonitro llwybrau cludo
- sut i adnabod ac ymdrin â pheryglon gwirioneddol a dichonol
- y gofynion dogfennu sy'n ymwneud â symud gwrthrychau
- pwy ddylid ymgynghori gyda nhw pan nad oes modd bodloni'r gofynion danfon