Defnyddio a chynnal systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth ar gyfer cofnodion a data
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio a chynnal systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth ar gyfer cofnodion a data. Gallai'r systemau fod yn rhai cyfrifiadurol neu'n rai ar bapur neu'n gymysgedd o'r ddau.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw sefydliad sy'n defnyddio systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth, ond mewn sefydliad treftadaeth ddiwylliannol gallai fod yn berthnasol i'r canlynol:
- rheoli perthynas gyda chwsmeriaid megis marchnata, gwerthu, tocynnau neu archebion ar gyfer digwyddiadau neu arddangosfeydd
- archifau, catalogau a rheoli casgliadau ar gyfer casgliadau bach neu fawr (gan gynnwys celf a chasgliadau arbennig)
- gweithgareddau sy'n ymwneud gwarchodaeth gan gynnwys archwilio, monitro, triniaethau a mesurau ataliol ynghyd ag asesiadau a digwyddiadau sy'n ymwneud â diogelwch
- dogfennau arddangosfeydd a digwyddiadau sy'n sicrhau parhad o ran yr archif a modd i fanteisio ar y digwyddiadau hyn yn y dyfodol drwy gofnodion digonol a chynrychiadol
Mae'r safon hon yn ymwneud â chofnodi, storio, diwygio, rheoli, cynnal, manteisio ar a chyflwyno adroddiadau ar gofnodion a data. Mae hefyd yn ymwneud â gwerthuso ac awgrymu gwelliannau i systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n defnyddio ac yn cynnal systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth mewn gwahanol adrannau sefydliadau. Nid yw'n addas ar gyfer arbenigwyr technoleg gwybodaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth i fodloni gofynion eich swydd yn unol â'r safonau sefydliadol a chyfreithiol
- cynnal y lefel o gofnodion neu ddata sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau
- llunio cofnodion neu ddata newydd a gwneud newidiadau i'r rhai presennol sy'n gywir ac sy'n bodloni'r gofynion sefydliadol
- cynnal strwythur y cofnodion neu'r data fel eu bod yn bodloni gofynion y defnyddwyr ac yn cydymffurfio gyda'r safonau sefydliadol a chyfreithiol
- dileu neu archifo hen gofnodion neu ddata, neu gofnodion neu ddata diangen yn unol â'r prosesau a'r gweithdrefnau sefydliadol
- rheoli ffeiliau a chadw copïau wrth gefn o gofnodion ar y cyfrifiadur i fodloni'r gofynion
- nodi gwybodaeth gyfrinachol a chynnal diogelwch gwybodaeth yn unol â'r gofynion cyfreithiol
- manteisio ar gofnodion neu ddata cyfrinachol, sensitif neu gyfyngedig yn unol â'r safonau sefydliadol a chyfreithiol
- chwilio a chyflwyno adroddiadau, cofnodion neu ddata ar ffurfiau priodol er mwyn bodloni gofynion y defnyddwyr
- gwerthuso a yw'r systemau a'r gweithdrefnau dogfennu a rheoli gwybodaeth yn addas ar gyfer y cofnodion a'r data caiff eu dogfennu, gan nodi lle gellir gwneud gwelliannau
- ceisio cymeradwyaeth gan y bobl briodol am newidiadau i systemau a gweithdrefnau dogfennu a rheoli gwybodaeth
- gweithredu ac adolygu datblygiadau i systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth pan fo'n briodol a hynny yn unol â'r gofynion effeithiolrwydd a chyfreithiol
- llunio cyfarwyddiadau, canllawiau neu hyfforddiant eglur i bobl eraill allu defnyddio'r systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth pan fo'n ofynnol
- caffael cyngor arbenigol ar systemau technoleg ac sydd ar y cyfrifiadur gan y bobl briodol pan fo'n ofynnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- categorïau a ffurfiau cofnodion a data a'r gweithdrefnau cofnodi gofynnol ynghlwm â'ch gwaith gan gynnwys y rheiny sy'n berthnasol i gofnodion a data gwreiddiol
- y math o wybodaeth sydd ei angen i fodloni diben a strwythur y systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth yr ydych yn eu defnyddio
- arwyddocâd, sensitifrwydd posibl a defnydd yn y dyfodol o'r cofnodion a'r data rydych chi'n eu llunio neu'n gofalu amdanyn nhw
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n ymwneud â diogelu data, hawlfraint ac eiddo deallusol a pholisïau'r sefydliad ar gyfer storio, trin a diogelwch data
- y prosesau, ffurfiau, gweithdrefnau a'r safonau sefydliadol ar gyfer manteisio ar, defnyddio a rheoli systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth a lle i ganfod yr wybodaeth amdanyn nhw
- y gwahanol weithdrefnau ar gyfer llunio, diwygio, dileu ac archifo cofnodion a data gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â chynnal uniondeb
- yr amgylcheddau addas ar gyfer cadw'r gwahanol fathau o gofnodion a data a beth yw lleoliad diogelwch
- sut mae systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth yn rhyngweithio a gweithio gyda systemau cyfrifiadurol neu ar bapur eraill yn y sefydliad
- effeithiau maint y ddelwedd ar gapasiti a chronfa storio'r system
- y mesurau diogelwch angenrheidiol, pam eu bod nhw'n bwysig a goblygiadau torri gweithdrefnau diogelwch
- y gwahanol gategorïau o ddefnyddwyr, eu gofynion, y cyfyngiadau i'r cofnodion a'r data ac i bwy ddylid caniatáu modd cyffredinol neu arbennig iddyn nhw allu manteisio ar y cofnodion a'r data
- sut i ddefnyddio cofnodion a data i lunio adroddiadau, cyfarwyddiadau a chanllawiau eglur a chryno
- sut i werthuso llwyddiant ac addasrwydd system ddogfennu a rheoli gwybodaeth
- sut i ymchwilio systemau newydd neu ddatblygiadau i systemau presennol a beth i'w ddwyn i ystyriaeth wrth awgrymu newidiadau gan gynnwys gwell effeithiolrwydd a chyllideb
- y problemau dichonol a allai ddigwydd gyda systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth a sut i fynd i'r afael â nhw
- sut i hyfforddi eraill ynghylch y canllawiau a'r gweithdrefnau ar gyfer y systemau dogfennu a rheoli gwybodaeth
- lle i gaffael cyngor arbenigol ar systemau technoleg a chyfrifiadurol