Gweithio’n effeithiol yn y sector treftadaeth ddiwylliannol
URN: CCSCH33
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio'n effeithiol yn y sector treftadaeth ddiwylliannol. Mae'n ymwneud ag egluro eich cyfrifoldebau a gosod targedau, gweithio'n unol â'r egwyddorion, athroniaethau, moeseg a'r canllawiau treftadaeth, datblygu dulliau i ymdrin â sefyllfaoedd newydd, cysylltu gyda phobl eraill a gwerthuso eich perfformiad.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y sector treftadaeth ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau eich bod yn ymwybodol o ofynion eich rôl; beth sydd angen i chi ei wneud, erbyn pryd ac i ba safon
- adnabod eich maes cyfrifoldeb, egluro lle gallwch chi wneud penderfyniadau a phryd i geisio cyngor gan bobl eraill
- gofalu am dreftadaeth ddiwylliannol a'i gwarchod o fewn eich dylanwad yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol bob amser
- cytuno ar y targedau gyda'r bobl briodol i asesu eich perfformiad o gymharu â nhw a gwerthuso eich gwaith
- cyflawni eich gwaith gan barchu cyd-destun diwylliannol, hanesyddol ac ysbrydol y gwrthrychau a'r strwythurau yn unol ag egwyddorion, athroniaethau, codau moeseg, canllawiau ac arfer y sector treftadaeth
- cyflwyno eich gwaith ar amser, gan gadw at y gyllideb a safonau disgwyliedig y sefydliad ac yn unol â'r ddeddfwriaeth
- hysbysu'r rheolwyr llinell a'r cydweithwyr perthnasol am eich cynnydd gan amlygu unrhyw lwyddiannau neu feysydd sy'n peri pryder
- monitro ac asesu canlyniadau eich gwaith a'ch prosesau gwaith yn rheolaidd
- ymdrin â phobl eraill mewn dull moesegol a phroffesiynol, gan fyfyrio ar eich profiad o ryngweithio gyda nhw a chaffael eu hadborth am eich gwaith a'r ffordd rydych chi'n ei gyflawni
- cyfnewid gwybodaeth a sgiliau gyda phobl eraill rydych chi'n cydweithio gyda nhw a gofyn am gymorth pan fo'i angen arnoch
- canfod datrysiadau i fodloni sefyllfaoedd gwarchodaeth newydd, sy'n esblygu neu sy'n broblematig.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb dros eich gwaith, hunanwerthuso a adfyfyrio
- y llinellau, y gweithdrefnau a'r amcanion adrodd gan gynnwys yr hyn rydych chi'n gyfrifol amdano a'r hyn sydd y tu hwnt i'ch cylch gwaith
- rolau a chyfrifoldebau pobl ac adrannau eraill a'r sefydliad
- sut i osod targedau ac asesu a gwerthuso eich perfformiad a'ch allbynnau gwaith gan gynnwys dadansoddi safbwyntiau pobl eraill a phrofi gwahanol ddulliau
- y bobl eraill y mae'n bosibl y byddwch chi'n cydweithio gyda nhw gan gynnwys y cyhoedd, cyflogwyr, cleientiaid a chydweithwyr a sut a phryd i ryngweithio gyda nhw a chaffael adborth ganddyn nhw
- sut i gyflawni prosesau gwerthuso ac arfarnu'r sefydliad
- sail foesegol y prosesau gwarchodaeth a chyfrifoldebau'r gweithwyr gwarchodaeth proffesiynol ynghlwm â threftadaeth ddiwylliannol a'r gymdeithas ehangach
- y cyd-destunau treftadaeth ehangach ble mae gwaith gwarchod yn cael ei gyflawni a sut gallai arferion gwarchodaeth a'u cyd-destun treftadaeth effeithio ar ei gilydd
- egwyddorion moesegol gofal a gwarchodaeth yn gyffredinol a'r athroniaethau a'r canllawiau penodol sy'n berthnasol i'ch gwaith gan gynnwys egwyddorion cenedlaethol a/neu ryngwladol a'r rheiny sy'n ofynnol gan eich corff proffesiynol
- sut i adnabod cyd-destun diwylliannol, hanesyddol ac ysbrydol y gwrthrychau a'r strwythurau
- y gofynion a'r goblygiadau cyfreithiol, gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch, cyfraith cyflogaeth a chytundebau ac unrhyw gytundebau rhyngwladol
- terfynau eich dealltwriaeth, eich galluoedd a'ch cyfrifoldebau a sut a phryd i ofyn am gymorth
- sut i geisio a rhoi gwybodaeth berthnasol, dulliau dilys a gweithdrefnau ar waith ar gyfer sefyllfaoedd gwarchodaeth newydd, sy'n dod i'r amlwg neu sy'n broblematig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative and Cultural Skills
URN gwreiddiol
CCSCCS32
Galwedigaethau Perthnasol
Hamdden; teithio a thwristiaeth, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth, Hanes
Cod SOC
2452
Geiriau Allweddol
moeseg; egwyddorion; barn broffesiynol; treftadaeth ddiwylliannol; cyfrifoldeb; cyfrifoldebau; targedau; sefyllfaoedd newydd; gwerthuso perfformiad;