Cyflwyno portread cadarnhaol ohonoch chi’ch hun a’ch sefydliad mewn digwyddiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno portread cadarnhaol ohonoch chi'ch hun a'ch sefydliad mewn digwyddiadau. Gallai digwyddiad fod ar ffurf cyfarfod, seminar, cynhadledd neu ddigwyddiad tebyg, y byddwch chi'n ei fynychu ar ran eich sefydliad.
Mae'n ymwneud â neilltuo amser i baratoi ar gyfer digwyddiadau, sicrhau bod eich edrychiad a'ch ymddygiad yn rhoi argraff dda, bod yn brydlon, gwrando ar bobl eraill, cynnig cyfraniadau gwybodus, mynd i'r afael â phroblemau a materion sensitif, crynhoi gwybodaeth i bobl eraill a chydweithio'n effeithiol gyda phobl eraill.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sydd angen cynrychioli eu hunain neu eu sefydliad mewn digwyddiadau megis cyfarfodydd, seminarau neu gynadleddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caniatáu digon o amser i baratoi'ch hun ar gyfer digwyddiadau, ceisio cyngor gan y bobl berthnasol pan fo'n briodol
- sicrhau bod eich edrychiad, eich ymddygiad a'r hynny rydych chi'n ei ddweud yn adlewyrchu safonau eich sefydliad
- sicrhau eich bod yn brydlon pan fyddwch chi'n mynychu digwyddiadau
- gwrando ar yr hynny mae pobl eraill yn ceisio'i gyfathrebu, gofyn cwestiynau ar adegau priodol ac egluro eich bod yn deall pan fo'n briodol
- cynnig cyfraniadau defnyddiol a gwybodus tuag at drafodaethau gyda phobl eraill sy'n cydymffurfio gyda gwerthoedd, gweledigaeth a moeseg eich sefydliad
- adnabod a dethol y prif bwyntiau o'r deunydd y mae angen i chi ei rannu gyda phobl eraill
- darparu gwybodaeth fanwl gywir ac eglur i bobl eraill ar y ffurfiau priodol
- darparu gwybodaeth i bobl eraill mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion
- adnabod unrhyw weithrediadau rydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw a chytuno arnyn nhw gyda'r bobl berthnasol
- mynd i'r afael phroblemau, materion sensitif ac adborth pobl eraill yn unol â'r prosesau sefydliadol
- cydymffurfio ag unrhyw weithdrefnau gofynnol ar gyfer diogelu plant a phobl fregus yn ystod digwyddiadau
- cydweithio gyda phobl eraill pan fo'n ofynnol, gan gyflawni eich cyfrifoldebau a'ch ymrwymiadau fel y cytunwyd arnyn nhw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o ddigwyddiadau y bydd gofyn i chi eu mynychu a'r rolau y mae'n bosibl y bydd gofyn i chi eu cyflawni mewn digwyddiadau o'r fath
- pwysigrwydd paratoi'ch hun yn briodol ar gyfer digwyddiadau a sut i wneud hynny gan gynnwys canfod sut byddwch chi'n cyrraedd yno a chyflawni unrhyw ddarllen ymlaen llaw cefndirol neu ofynnol
- pwy ddylech chi gysylltu gyda nhw a cheisio cyngor ganddyn nhw
- pam ei bod hi'n bwysig gwybod pa fath o wybodaeth mae pobl eraill ei hangen gennych chi, sut i rannu'r wybodaeth hon gyda nhw mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion ac y gallan nhw fanteisio arni, pam ei bod hi'n bwysig cyfathrebu'n fanwl gywir ac yn eglur gyda phobl eraill a sut i wneud hynny
- pwysigrwydd sgiliau gwrando gweithredol, pam ddylech chi gynnig cyfle i bobl eraill gyfrannu eu syniadau bob amser a pham ei bod hi'n bwysig dwyn i ystyriaeth eu syniadau
- pam ddylech chi ofyn cwestiynau bob amser os oes unrhyw beth rydych chi'n ansicr yn ei gylch
- sut i drefnu eich syniadau fel bod modd i chi gyfrannu'n effeithiol tuag at drafodaethau
- y mathau o ddeunyddiau sydd angen ichi ymwneud gyda nhw fel rhan o'ch rôl a sut i adnabod a dethol y prif bwyntiau
- effaith gwerthoedd, gweledigaeth a moeseg eich sefydliad ar eich cyfraniad mewn digwyddiadau
- pwysigrwydd meithrin a chynnal perthnasau gweithio da gyda'r holl randdeiliaid
- pam ei bod hi'n bwysig cytuno ar amcanion, pwy sy'n gyfrifol am dasgau penodol a'r ffyrdd o gydweithio gyda'ch cydweithwyr
- pam ei bod hi'n bwysig i chi gymryd cyfrifoldeb dros eich gweithrediadau eich hun
- y mathau o broblemau a gwrthdaro gallai godi pan fyddwch yn cydweithio gyda phobl a sut i fynd i'r afael â'r problemau hyn
- sut i ymdrin ag adborth ac emosiynau pobl yn effeithiol
- pam ei bod hi'n bwysig cynnig adborth i'r bobl rydych yn cydweithio gyda nhw a sut i wneud hynny
- pwysigrwydd adnabod sut gallwch chi wella'r ffordd rydych yn cydweithio gyda phobl
- pam ei bod hi’n
bwysig cyflwyno portread cadarnhaol ohonoch chi'ch hun a'ch sefydliad, eich safonau disgwyliedig chi gan eich sefydliad a sut i sicrhau bod eich edrychiad, eich ymddygiad a'r hynny rydych chi am ei ddweud yn adlewyrchu'r safonau hyn - y mathau o faterion sensitif gallwch chi eu hwynebu mewn digwyddiadau a sut i fynd i'r afael â rhain
- eich cyfrifoldebau chi yn ymwneud â gweithdrefnau diogelu gan gynnwys y grwpiau o bobl sydd ynghlwm â'r gweithdrefnau a'r protocolau sefydliadol ar gyfer adnabod y grwpiau hynny