Llunio a chyflwyno dehongliadau ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol

URN: CCSCH30
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â llunio a chyflwyno dehongliadau mewn sefydliadau creadigol neu ddiwylliannol. Gallai fod ar gyfer arddangosfa, arddangosiad, addysg, dysgu neu ddiben arall sy'n canolbwyntio ar y cyhoedd.

Mae'n ymwneud â gwerthuso dehongliadau blaenorol, dewis dull, ffurf a strwythur y dehongliad, ymchwilio'r wybodaeth ar gyfer dehongliadau, llunio, dylunio a datblygu dehongliadau, dewis lleoliadau ar gyfer dehongliadau, cynllunio adnoddau i gyflawni dehongliadau, diogelu hawlfraint ac eiddo deallusol a gwerthuso llwyddiant. 

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n llunio ac yn cyflwyno dehongliadau ar ran sefydliad creadigol neu ddiwylliannol. Gallai fod ar gyfer unigolyn sy'n gweithio ar ei liwt ei hun neu fel rhan o dîm addysg, dysgu a dehongli, curadu neu gasgliadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ymchwilio gwersi sydd wedi'u dysgu yn sgil gweithgareddau dehongli blaenorol
  2. ymgynghori gyda'r bobl berthnasol i adnabod y gynulleidfa targed, anghenion yr ymwelwyr, y themâu allweddol a'r nodau ac amcanion dysgu ar gyfer y gweithgareddau dehongli
  3. dewis dulliau, ffurfiau a strwythurau ar gyfer dehongli sy'n ymarferol ac sy'n bodloni'r amcanion dysgu a nodau ac anghenion y defnyddwyr orau
  4. ymchwilio ffynonellau dibynadwy i adnabod yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer dehongli ac ymgynghori gyda phobl eraill pan fo'n briodol
  5. briffio'r bobl eraill sydd ynghlwm â'r gwaith llunio a chyflwyno dehongliadau gyda'r wybodaeth ddigonol iddyn nhw allu cyflawni eu rôl ofynnol  
  6. cydweithio gyda'r bobl briodol i lunio, dylunio a datblygu gwybodaeth sy'n ymwneud â dehongli
  7. sicrhau bod y dehongliadau'n ymgorffori'r gwersi sydd wedi'u dysgu yn sgil gweithgareddau dehongli blaenorol
  8. sicrhau bod y dehongliadau'n unol ag unrhyw strategaethau sefydliadol perthnasol sy'n ymwneud â dysgu a dehongli a datblygu cynulleidfaoedd
  9. sicrhau bod y dehongliadau'n berthnasol, yn fanwl gywir ac yn ymwneud â'r themâu y cytunwyd arnyn nhw
  10. sicrhau bod y dehongliadau'n hollgynhwysol ac yn briodol ar gyfer y gynulleidfa darged a holl anghenion y defnyddwyr
  11. dewis safleoedd a lleoliadau sy'n addas ac yn ddiogel ar gyfer y dehongliadau a'r defnyddwyr
  12. sicrhau bod yr holl adnoddau ar waith er mwyn cyflawni dehongliadau pan fo'n briodol
  13. sicrhau bod y dehongliadau'n cael eu cyflawni ar amser a'ch bod yn cadw at y gyllideb
  14. diogelu hawlfraint ac eiddo deallusol yr allbynnau dehongli a hynny'n unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
  15. sicrhau bod y gweithgareddau dehongli yn gofalu am ddiogelwch y dreftadaeth ddiwylliannol yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
  16. sicrhau ansawdd eich holl waith a bod y staff perthnasol yn ei gymeradwyo
  17. gwerthuso llwyddiant gweithgareddau dehongli cyn, yn ystod ac ar ôl eu cyflawni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. lle i gaffael gwybodaeth am weithgareddau dehongli blaenorol gan gynnwys gan eich cydweithwyr a gwybodaeth gyhoeddus yn y sector ehangach
  2. sut i adnabod y math o gynulleidfa, cwsmer neu ymwelydd ar gyfer y gweithgaredd dehongli a'u hanghenion
  3. y dulliau sydd ar gael i gyflawni gwahanol fathau o weithgarwch dehongli
  4. effaith tebygol y dulliau dehongli ar weithgareddau a phobl eraill
  5. nodweddion allweddol y gwahanol fathau o weithgareddau dehongli
  6. yr heriau posibl y gallai ymwelwyr gyda nam symudedd, nam ar eu clyw a'r golwg a chyflyrau niwrowahanol eu hwynebu a thrafferthion grwpiau cymunedol ynghyd â'r gwahanol strategaethau sydd ar gael iddyn nhw allu manteisio ar y dehongliadau
  7. beth sy'n golygu bod un dull dehongli yn fwy addas na rhai eraill
  8. pwy o'r sefydliad ddylai gyfrannu tuag at y cysyniadau dehongli
  9. polisïau ac amcanion y sefydliad sy'n effeithio ar y dehongliadau
  10. sut i adnabod yr amcanion dysgu a rhannu'r amcanion dysgu
  11. y mathau o adnoddau sydd ynghlwm â chyflawni gwahanol ddulliau dehongli
  12. sut i adnabod a chaffael gwahanol adnoddau gan wahanol ffynonellau
  13. pwy mae angen i chi eu hysbysu am y dulliau dehongli dewisol

sut i adnabod beth sy’n realistig a’r hyn mae modd ei weithredu

  1. defnyddiau arfaethedig gwrthrychau a gwybodaeth mewn gweithgareddau dehongli, y cyfyngiadau tebygol ar y defnydd o'r gwrthrychau ac effaith posibl y rhain
  2. yr adnoddau a'r wybodaeth sy'n addas ar gyfer y gwahanol fathau o weithgarwch dehongli
  3. y math o gyfraniad y gallai arbenigwyr a'ch cydweithwyr ei gynnig tuag at weithgareddau dehongli, pa wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw a sut i'w briffio 
  4. y gwahanol dechnegau gwerthuso
  5. sut i gyflwyno gwybodaeth ar ffurf ddifyr a deniadol 
  6. sut i annog y broses o archwilio syniadau
  7. hawlfraint, eiddo deallusol a'r gweithdrefnau diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCCS72

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Cyffredinol, Cyfryngau a chyfathrebu, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gwasanaethau cyhoeddi a gwybodaeth, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

addysg; rhaglen dehongli; treftadaeth ddiwylliannol; arddangosfeydd; arddangosiadau; dysgu; sefydliad creadigol;