Paratoi arddangosfeydd neu arddangosiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi arddangosfeydd neu arddangosiadau yn unol â chynlluniau y cytunwyd arnyn nhw. Mae'n berthnasol i sefydliadau creadigol neu ddiwylliannol yn bennaf ond gallai unrhyw sefydliad sy'n paratoi arddangosfeydd neu arddangosiadau ei defnyddio.
Mae'n ymwneud â pharatoi safleoedd, briffio'r bobl eraill sydd ynghlwm, caffael, trin a gosod cynnwys arddangosfeydd neu arddangosiadau, mynd i'r afael ag oedi, labelu cynnwys, gosod arwyddion i ymwelwyr, cwblhau cofnodion a chydymffurfio gyda'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch. Nid yw'n ymdrin â gwaith y byddai angen i beiriannydd, trydanwr neu adeiladwr arbenigol ei gyflawni.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer staff gweithrediadau, gwasanaethau i ymwelwyr, curadurol neu unrhyw un arall sydd ynghlwm â'r gwaith paratoi arddangosfeydd neu arddangosiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy ynghylch cynlluniau arddangosfeydd neu arddangosiadau y cytunwyd arnyn nhw, gan geisio unrhyw eglurder sydd ei angen gan y bobl berthnasol
- adnabod a chaffael yr adnoddau sy'n briodol ar gyfer paratoi safleoedd
- briffio unrhyw un sydd ynghlwm â'r gwaith paratoi gyda'r wybodaeth ddigonol iddyn nhw allu cyflawni eu rôl ofynnol
- paratoi safleoedd yn unol â'r cynlluniau penodol
- cymryd camau unioni prydlon pan fo unrhyw oedi neu argyfyngau eraill
- cofnodi gwybodaeth fanwl gywir sy'n ymwneud â pharatoi safleoedd a'i rhannu gyda'r bobl briodol
- gwirio bod y cynnwys gofynnol ar gael a'ch bod chi wedi derbyn yr holl awdurdod sydd ei angen er mwyn eu cynnwys yn yr arddangosfeydd neu'r arddangosiadau
- trin cynnwys yn unol â'r canllawiau a'r gweithdrefnau sefydliadol
- gosod cynnwys fel ei fod yn hawdd ei ddehongli a hynny yn unol â chynlluniau'r arddangosfa neu'r arddangosiad
- gosod y cynnwys a'r wybodaeth ategol fel eu bod yn bodloni gofynion y defnyddwyr
- gosod cynnwys fel ei fod yn dwyn i ystyriaeth unrhyw anghenion i'w warchod ac unrhyw newidiadau tebygol o ran amgylchiadau
- cysylltu marciau a labeli adnabod i'r cynnwys yn ddiogel ac yn briodol
- cwblhau cofnodion eglur a manwl gywir o leoliad y cynnwys ar systemau dogfennu sefydliadol
- sicrhau bod y cyfarwyddiadau i ymwelwyr wedi'u gosod mewn mannau priodol i sicrhau bod yr ymwelwyr a'r cynnwys yn ddiogel
- cwblhau gweithgareddau paratoi yn unol â'r cynlluniau a'r amserlenni y cytunwyd arnyn nhw
- sicrhau bod y gweithgareddau paratoi yn cael eu cyflawni yn unol â'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- lle i gaffael gwybodaeth am gynlluniau
- y mathau o adnoddau sydd eu hangen ar gyfer paratoi arddangosfeydd neu arddangosiadau ynghyd â chyfyngiadau'r adnoddau a'r graddfeydd amser
- sut i gofnodi gwybodaeth ynghylch paratoi safleoedd, a phwy ddylech chi eu hysbysu
- y rheoliadau a'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch sydd angen eu bodloni
- sut i adnabod y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer paratoi arddangosfeydd ac arddangosiadau
- yr wybodaeth sydd ei hangen ar y bobl eraill sydd ynghlwm a sut i'w briffio
y caniatâd sydd ei angen i osod cynnwys a gwybodaeth
lle gallwch fanteisio ar y canllawiau a'r gweithdrefnau o ran ymdrin â'r arddangosfeydd a'r arddangosiadau
- lle i gaffael gwybodaeth am ofynion arbennig ynghylch cadw neu ddiogelu'r cynnwys
- r agweddau sy'n cynorthwyo gyda'r dehongliad ac sy'n ennyn diddordeb a brwdfrydedd
- y gweithrediadau posibl pan fo gwahanol argyfyngau
- y gwahaniaethau tebygol mewn amgylchiadau sy'n ymwneud â'r arddangosfa, y cynnwys a'r wybodaeth
- sut i osod marciau a labelu adnabod ar y cynnwys
- sut a lle i gofnodi lleoliad y cynnwys
- defnyddiau'r gwahanol arwyddion i ymwelwyr y mae'r sefydliad yn eu defnyddio a lle i'w gaffael
- y goblygiadau iechyd a diogelwch sydd ynghlwm â'r broses paratoi