Dylunio arddangosfeydd neu arddangosiadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio arddangosfeydd neu arddangosiadau. Nid oes gan lawer o sefydliadau adran dylunio arddangosfeydd ac fe fyddan nhw'n dibynnu ar y rheiny sy'n gyfarwydd â'r lle i helpu gosod yr arddangosfa. Mae'n berthnasol i sefydliadau creadigol neu ddiwylliannol yn bennaf ond gallai unrhyw sefydliad sy'n paratoi arddangosfeydd neu arddangosiadau ei defnyddio. Mae'n ymwneud ag ystyried mynediad i arddangosfeydd neu arddangosiadau ar gyfer y rheiny sydd ag anghenion arbennig.
Mae'n ymwneud â gwerthuso llwyddiant cynlluniau blaenorol, ymchwilio cynlluniau posibl, dewis cynlluniau sy'n cyflwyno'r cynnwys a'r wybodaeth gysylltiedig yn y ffordd orau a bodloni'r gofynion diogelwch, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a hygyrchedd, nodi deunyddiau a chynhyrchu brasfodelau.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n dylunio arddangosfeydd neu arddangosiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- caffael gwybodaeth ddibynadwy am ddefnyddwyr arfaethedig a'u gofynion
- gwerthuso'r wybodaeth berthnasol am lwyddiant cynlluniau ar gyfer arddangosfeydd neu arddangosiadau blaenorol
- caffael gwybodaeth ddibynadwy am y gyllideb, yr adnoddau sydd ar gael, y cynnwys i'w arddangos a'r lleoliad y byddwch chi'n ei ddefnyddio
- ymchwilio cynlluniau posibl sy'n bodloni gofynion arddangosfeydd neu arddangosiadau
- gwerthuso'r cynlluniau posibl a dewis cynlluniau sy'n cyflwyno'r cynnwys a'r wybodaeth gysylltiedig yn y ffordd orau
- sicrhau y bydd y cynlluniau sydd wedi'u dewis yn caniatáu bod modd i ystod mor eang â phosibl fanteisio ar yr arddangosfeydd neu'r arddangosiadau
- sicrhau y bydd y cynlluniau sydd wedi'u dewis yn bodloni gofynion amgylcheddol a diogelwch y cynnwys yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
- cyflawni asesiadau risg i sicrhau bod y cynlluniau sydd wedi'u dewis yn cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch
- sicrhau y bydd y cynlluniau sydd wedi'u dewis yn amharu cyn lleied â phosibl ar rannau eraill o'r sefydliad
- cytuno ar y cynlluniau a ddewisir gyda'r bobl berthnasol
- dewis a nodi'r deunyddiau addas ar gyfer creu'r arddangosfeydd neu'r arddangosiadau
- defnyddio'r technegau priodol i lunio brasfodelau o'r cynlluniau sydd wedi'u dewis
- briffio unrhyw un sydd ynghlwm â'r gwaith dylunio gyda'r wybodaeth ddigonol iddyn nhw allu cyflawni eu rôl ofynnol
- rhoi dulliau priodol ar waith i gasglu adborth gan eich cydweithwyr a'r cyhoedd er mwyn gwerthuso llwyddiant y cynlluniau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis a chaffael y deunyddiau, y technolegau a'r adnoddau eraill priodol
- gofynion y cyfleusterau
- y ffynonellau gwybodaeth am y gynulleidfa targed, gofynion y defnyddwyr a chyfyngiadau'r prosiect gan gynnwys eich cydweithwyr sy'n ymwneud â gwasanaethau ymwelwyr, gweithrediadau, rheoli prosiect, casgliadau a churadu
- gwybodaeth am y gofynion arddangos a llif a symudiad y gynulleidfa a fydd yn effeithio ar y cynlluniau
- technegau gosodiad y gwaith dylunio
- yr heriau posibl gallai ymwelwyr gyda nam symudedd, nam ar eu clyw a'r golwg a chyflyrau niwrowahanol neu o wahanol grwpiau cymunedol eu hwynebu a'r gwahanol strategaethau sydd ar gael i sicrhau ei bod mor rhwydd â phosibl iddyn nhw fanteisio ar yr arddangosfeydd neu'r arddangosiadau
- pam ei bod hi'n bwysig cynnwys ystyriaethau hygyrchedd yn y cynllun
- y dulliau cyfredol a newydd o gyflwyno gwybodaeth am gynnwys sy'n sicrhau bod yr hygyrchedd a'r ymgysylltiad mor llwyddiannus â phosibl
- gofynion diogelwch ac amgylcheddol y cynnwys a sut i sicrhau eu bod nhw'n cael eu bodloni drwy'r cynllun
- yr ystod o ddeunyddiau adeiladu ymarferol a'u buddion ac anfanteision ar gyfer cynlluniau ac ar gyfer arddangosfeydd ac arddangosiadau
- pwy ddylai gymeradwyo'r cynlluniau
- sut i adnabod y sgiliau angenrheidiol ar gyfer llunio cynlluniau a brasfodelau
- yr wybodaeth sydd ei hangen ar y bobl eraill sydd ynghlwm a sut i'w briffio
- sut i lunio bras gynlluniau
- sut i gomisiynu gwaith gan bobl eraill gan gynnwys y rheiny sydd y tu hwnt i'r sefydliad
- beth y gellir ei wneud i sicrhau bod yr arddangosfeydd neu'r arddangosiadau'n amharu cyn lleied â phosibl
- y rheoliadau iechyd a diogelwch y dylid eu bodloni, gan gynnwys sut i lunio asesiad risg
- y dulliau i gasglu adborth gan eich cydweithwyr a'r ymwelwyr a phwy sy'n gyfrifol am eu gweithredu