Datblygu adnoddau dysgu ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol

URN: CCSCH27
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu adnoddau dysgu ar gyfer cynulleidfaoedd, ymwelwyr neu gwsmeriaid sefydliadau creadigol neu ddiwylliannol. Gallai'r adnoddau dysgu fod yn rhai digidol rhyngweithiol neu'n rai ar bapur a gellir eu defnyddio i helpu dysgwyr i archwilio syniadau ac ategu dehongliadau, arddangosfeydd a digwyddiadau.  

Mae hyn yn ymwneud â gwerthuso adnoddau dysgu blaenorol, adnabod deilliannau dysgu, dewis fformat, ymchwilio gwybodaeth ar gyfer y cynnwys, cydweithio gyda phobl eraill megis dylunwyr, arbenigwyr pwnc ac addysgwyr, llunio, dylunio a datblygu adnoddau dysgu, rhoi adnoddau dysgu ar brawf, diogelu hawlfraint ac eiddo deallusol, gwerthuso llwyddiant a'u rhannu drwy sianelau priodol i'r cynulleidfaoedd targed.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n datblygu adnoddau dysgu ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ymchwilio adnoddau sydd wedi'u llunio'n flaenorol
  2. adnabod deunyddiau gwybodaeth presennol ac addasu eu haddasrwydd o ran ategu gweithgareddau dysgu
  3. adnabod cyfleoedd am adnoddau dysgu newydd sy'n bodloni demograffig ac anghenion cynulleidfaoedd targed
  4. cytuno ar themâu, amcanion dysgu a nodau'r adnoddau dysgu gyda'r staff, gwirfoddolwyr a'r rhanddeiliaid perthnasol
  5. llunio amcan realistig o'r gyllideb, y staff a'r deunyddiau sydd eu hangen i ddatblygu, llunio a rhannu adnoddau dysgu
  6. dewis ffurfiau ar gyfer adnoddau dysgu sy'n bodloni'r nodau a'r amcanion dysgu ac yn diwallu anghenion y dysgwyr
  7. ymchwilio ffynonellau dibynadwy i adnabod yr wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer adnoddau dysgu, gan ymgynghori gyda phobl eraill pan fo'n briodol
  8. ymgynghori gyda, briffio a chydweithio gyda phobl eraill ar adegau priodol yn ystod cyfnod datblygu'r adnoddau dysgu
  9. llunio, dylunio a datblygu adnoddau dysgu, gan sicrhau bod yr holl ddeunyddiau wedi'u cyflwyno'n eglur
  10. datblygu adnoddau dysgu sy'n cydymffurfio gydag unrhyw strategaethau dysgu a dehongli a datblygu cynulleidfaoedd
  11. sicrhau bod yr adnoddau dysgu'n hollgynhwysol ac yn briodol ar gyfer y gynulleidfa targed a holl anghenion y defnyddwyr
  12. cyfathrebu gyda'r holl bobl briodol i sicrhau bod adnoddau dysgu'n cael eu marchnata mewn da bryd er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio arnyn nhw
  13. ymgynghori gyda'r gynulleidfa targed a rhoi adnoddau dysgu ar brawf gyda'r bobl neu'r grwpiau o bobl briodol a datblygu deunyddiau yn unol â'r adborth rydych chi'n ei dderbyn 
  14. sicrhau bod yr adnoddau dysgu'n berthnasol ac yn fanwl gywir ac yn ymwneud â'r themâu allweddol
  15. rhoi dulliau ar waith sy'n annog dysgwyr i ofyn cwestiynau a cheisio eglurder am adnoddau
  16. gwerthuso'r adnoddau dysgu o gymharu â'r themâu sydd wedi'u hadnabod, yr amcanion dysgu a'r nodau cyn, yn ystod ac ar ôl eu defnyddio 
  17. sicrhau ansawdd eich holl waith a'i fod yn cael ei gymeradwyo gan y bobl berthnasol
  18. diogelu hawlfraint ac eiddo deallusol yr adnoddau dysgu yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
  19. cyflwyno'r adnoddau dysgu gan gadw at y gyllideb a'r paramedrau amser y cytunwyd arnyn nhw
  20. sicrhau bod y deunyddiau'n cael eu rhannu â'r staff, gwirfoddolwyr a'r gynulleidfa berthnasol drwy sianelau priodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod amcanion dysgu a chytuno arnyn nhw gyda'ch cydweithwyr a rhanddeiliaid
  2. sut i ymchwilio adnoddau dysgu blaenorol sydd wedi'u llunio yn y sefydliad a manteisio ar ysbrydoliaeth gan waith pobl eraill yn y sector
  3. sut i adnabod y math o gynulleidfa, cwsmer neu ymwelydd a'u hanghenion mewn perthynas â'r adnoddau dysgu
  4. pwy ddylai fod ynghlwm â'r gwaith datblygu adnoddau dysgu a pha wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i gyfrannu'n llawn gan gynnwys dylunwyr, arbenigwyr pwnc, addysgwyr, rheolwyr, cydweithwyr marchnata, staff eraill a gwirfoddolwyr
  5. sut i egluro'r amcanion dysgu ynghlwm â'r adnoddau dysgu 
  6. sut i gyflwyno gwybodaeth mewn dull difyr a chyffrous ac annog archwilio syniadau drwy ddeunydd yr adnoddau
  7. y gwahanol ffyrdd o sicrhau bod yr adnoddau dysgu'n rhyngweithiol a'r buddion ynghlwm â hynny
  8. y gwahanol anghenion dysgu a sut i ddarparu ar gyfer y rhain
  9. sut i ddatblygu deunyddiau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
  10. yr heriau posibl gallai ymwelwyr gyda nam symudedd, nam ar eu clyw a'r golwg a chyflyrau niwrowahanol  neu o wahanol grwpiau cymunedol eu hwynebu a'r gwahanol strategaethau sydd ar gael i sicrhau ei bod yn fwy rhwydd i fanteisio ar yr adnoddau dysgu
  11. y mathau o ffurfiau ar gyfer adnoddau dysgu a'u buddion ac anfanteision ar gyfer gwahanol themâu a mathau o ddefnyddwyr a pham ei bod yn bwysig cynnwys yr ystyriaethau hygyrchedd ynghlwm â fformat, cynllun a chynnwys yr adnoddau dysgu
  12. sut i gynnal grwpiau ffocws ac ymgynghori gyda'r cynulleidfaoedd targed pan fyddwch yn rhoi deunyddiau dysgu ar brawf
  13. y gwahanol dechnegau gwerthuso
  14. cyllidebu a sut i amcangyfrif y gofynion o ran staffio a deunyddiau
  15. lle i gaffael gwybodaeth am amserlenni
  16. gweithdrefnau hawlfraint a diogelu eiddo deallusol
  17. buddion ac anfanteision gwahanol sianelau cyflawni ar gyfer gwahanol ffurfiau o adnoddau dysgu a gofynion y defnyddwyr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCCS74

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Cyffredinol, Cyfryngau a chyfathrebu, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Cymorth dysgu uniongyrchol, Gwasanaethau cyhoeddi a gwybodaeth, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

adnodd dysgu; adnoddau addysg; treftadaeth ddiwylliannol; dysgu; adnodd; rhyngweithiol; digidol; wedi’i argraffu;