Comisiynu a rheoli’r defnydd o berfformiadau treftadaeth

URN: CCSCH26
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chomisiynu a rheoli'r defnydd o berfformiadau treftadaeth. Gallai perfformiadau treftadaeth gyfeirio at unrhyw fath o berfformiad ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, dehongliad neu berfformiad theatr mewn neu o gwmpas canolfannau diwylliannol, dawnsio traddodiadol, perfformiadau stryd a gorymdeithiau.

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, datblygu'r briff, comisiynu, gwirio perfformiad o gymharu â'r briff, rheoli prosiect, trefnu cyllidebau a gwerthuso. Nid yw'n ymwneud â sgiliau cyfarwyddo neu berfformio.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros gomisiynu a rheoli'r defnydd o berfformiadau treftadaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adolygu gwybodaeth ddibynadwy am lwyddiannau a methiannau enghreifftiau blaenorol o berfformiadau treftadaeth
  2. adnabod perfformiadau treftadaeth a fyddai'n bodloni'r amcanion dysgu a dehongli disgwyliedig 
  3. llunio briffiau ar gyfer perfformiadau treftadaeth, gan sicrhau bod yr holl ddeunyddiau wedi'u cyflwyno'n eglur
  4. dewis safleoedd a lleoliadau ar gyfer perfformiadau treftadaeth sy'n briodol ac sy'n caniatáu eu bod mor amlwg â phosibl
  5. adnabod y gofynion o ran y gyllideb, adnoddau a marchnata ar gyfer cynnal perfformiadau treftadaeth llwyddiannus
  6. comisiynu a briffio arbenigwyr neu gontractwyr i gynnal perfformiadau treftadaeth
  7. rheoli'r gyllideb, yr adnoddau a'r amserlen i sicrhau caiff y perfformiadau treftadaeth eu cynnal gan gydymffurfio gyda'r paramedrau y cytunwyd arnyn nhw
  8. sicrhau bod y trwyddedau, y cytundebau a'r yswiriant priodol wedi'u nodi a'u caffael
  9. trefnu gweithgareddau i farchnata perfformiadau treftadaeth i'r ymwelwyr, cynulleidfaoedd neu'r cwsmeriaid targed mewn da bryd i sicrhau bod y nifer dymunol o bobl yn mynychu 
  10. cydweithio gydag arbenigwyr neu gontractwyr i wirio allbynnau perfformiadau treftadaeth o gymharu â'r briffiau, cytuno ar a chofnodi gwybodaeth eglur am unrhyw newidiadau gofynnol a'u graddfeydd amser
  11. sicrhau bod yr holl adnoddau gofynnol ar waith i gynnal perfformiadau treftadaeth
  12. briffio'r holl staff neu wirfoddolwyr perthnasol am eu rôl yn ymwneud â pherfformiadau treftadaeth
  13. cynnal y digwyddiad neu'r rhaglen, gan sicrhau gofal cwsmer o safon drwy gydol y digwyddiad neu'r rhaglen
  14. cynnal asesiad risg a gofalu am ddiogelwch y perfformwyr, y gynulleidfa a'r safleoedd a'r gwrthrychau treftadaeth
  15. gwerthuso perfformiadau treftadaeth o gymharu â'r amcanion dysgu a dehongli a hynny yn ystod ac ar ôl y perfformiadau
  16. argymell unrhyw addasiadau i berfformiadau treftadaeth gallai wella'i effeithiolrwydd yn y dyfodol
  17. gofalu eich bod yn sicrhau ansawdd eich holl waith a bod y bobl berthnasol yn ei gymeradwyo

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i fanteisio ar ffynonellau gwybodaeth am berfformiadau treftadaeth sydd o fewn a thu hwnt i'r sefydliad
  2. sut i adnabod yr amcanion dysgu a dehongli a chytuno arnyn nhw gydag eich cydweithwyr
  3. pa wybodaeth sydd angen ei chynnwys mewn briff a sut i'w chyflwyno
  4. beth sydd angen ichi ei ddwyn i ystyriaeth pan fyddwch chi'n gwerthuso safleoedd a lleoliadau
  5. sut i reoli cyllidebau, adnoddau ac amserlenni
  6. comisiynu prosesau o fewn y sefydliad
  7. buddion ac anfanteision y gwahanol ddulliau marchnata sy'n ymwneud â'r gynulleidfa targed a phwy sy'n gyfrifol am eu gweithredu
  8. sut i friffio pobl eraill ar berfformiadau treftadaeth a'u disgwyliadau
  9. sut i sicrhau bod y trwyddedau, yr yswiriant a'r cytundebau ar waith ar gyfer y digwyddiad neu'r rhaglen
  10. sut i gynnal asesiad risg
  11. y trefniadau diogelwch sydd angen eu gweithredu
  12. sut i gynllunio cynlluniau wrth gefn a pharatoi ar gyfer amgylchiadau annisgwyl
  13. gofynion gofal cwsmer y sefydliad a sut i'w bodloni
  14. sut i werthuso perfformiadau treftadaeth yn ystod y cyfnod datblygu ac yn ystod ac ar ôl y perfformiad
  15. sut i gofnodi a chyflwyno addasiadau i berfformiadau treftadaeth
  16. pwy ddylai fod ynghlwm â'r gwaith sicrhau ansawdd a chymeradwyo eich gwaith a sut a phryd i ymgynghori gyda nhw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCH26

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Cofnodion, Cyffredinol, Cyfryngau a chyfathrebu, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gwasanaethau cyhoeddi a gwybodaeth, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

comisiynu; rheoli; treftadaeth ddiwylliannol; perfformiad; theatr; dehongli; canolfan ddiwylliannol; traddodiadol; dawnsio; perfformiad stryd; gorymdaith;