Cynorthwyo gyda datblygu a chyflawni gweithgareddau dysgu ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol
URN: CCSCH25
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gyda datblygu a chyflawni gweithgareddau dysgu mewn sefydliad creadigol neu ddiwylliannol. Gallai gweithgareddau dysgu ymwneud â rhaglenni, arddangosfeydd neu ddigwyddiadau addysg a dehongli, neu unrhyw gyd-destun arall lle mae dysgu ynghlwm.
Mae'n ymwneud ag ymateb i ymholiadau, ymchwilio gwybodaeth am weithgareddau a chynulleidfaoedd eraill, cyfrannu tuag at waith cynllunio, cyflwyno gweithgareddau dysgu a chasglu gwybodaeth i'w gwerthuso.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sydd mewn sefydliad creadigol neu ddiwylliannol ac sy'n cynorthwyo gyda datblygu a chyflawni gweithgareddau dysgu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- darparu gwybodaeth fanwl gywir fel ymateb i ymholiadau am gyfleoedd dysgu
- cadw gwybodaeth am unigolion sydd wedi mynychu gweithgareddau dysgu ar systemau sefydliadol yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data
- defnyddio ffynonellau priodol i gyflawni ymchwil i lywio gweithgareddau dysgu sydd wedi'u cynllunio
- cofnodi canlyniadau ymchwil eglur a manwl gywir yn unol â'r gofynion sefydliadol
- cyfrannu at waith cynllunio gweithgareddau dysgu sydd o fewn eich maes arbenigedd a phrofiad
- adnabod a defnyddio dulliau cyfathrebu priodol i hysbysu'r staff perthnasol am weithgareddau dysgu sydd wedi'u cynllunio ar adegau priodol
- cydymffurfio gyda'r prosesau sefydliadol i gydweithio gyda phobl eraill er mwyn caffael gwrthrychau a strwythurau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau dysgu
- sicrhau bod y gwrthrychau a'r strwythurau'n ddiogel yn unol â'r prosesau sefydliadol
- gweithio'n unol â'r gweithdrefnau deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol i ofalu am iechyd, diogelwch, cynhwysiant a diogelu bob amser
- defnyddio'r dulliau priodol i adnabod anghenion y rheiny sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu a gwirio'r canlyniadau gyda'r rheolwr
- rhannu manylion am weithgareddau dysgu i'r rheiny sy'n cymryd rhan gyda'r lefel briodol o fanylion i ddiwallu eu hanghenion nhw
- cyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyflymder a lefel sy'n briodol i'r rheiny sy'n cymryd rhan a'u hannog i ofyn cwestiynau
- rhyngweithio gyda'r rheiny sy'n cymryd rhan yn unol â'r gofynion gofal cwsmer sefydliadol bob amser
- defnyddio'r dulliau priodol i gasglu adborth gan y rheiny sy'n cymryd rhan er mwyn ei ddefnyddio mewn gwerthusiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr ystod o wahanol weithgareddau dysgu mae'r sefydliad yn eu cynnig, i bwy maen nhw a phryd maen nhw'n cael eu cynnal
- sut i ymchwilio gweithgareddau dysgu blaenorol ac arfaethedig eich sefydliad eich hun neu sefydliadau tebyg eraill
- sut i gyfathrebu'n eglur dros e-bost, dros y ffôn ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gydag unigolion gallai gymryd rhan
- sut i gasglu a chofnodi gwybodaeth am y rheiny sydd wedi mynychu gweithgareddau dysgu
- sut i adnabod unigolion gallai gymryd rhan a'u hanghenion
- sut i friffio pobl eraill ar weithgareddau dysgu
- y trefniadau ar gyfer manteisio ar wrthrychau a rhannau o'ch adeilad
- y trefniadau diogelwch a gofalu am yr eitemau sy'n cael eu defnyddio mewn gweithgareddau dysgu
- yr heriau posibl gallai ymwelwyr gyda nam symudedd, nam ar eu clyw a'r golwg a chyflyrau niwrowahanol a'r gwahanol grwpiau cymunedol eu hwynebu a'r gwahanol strategaethau sydd ar gael sy'n fodd iddyn nhw fanteisio ar y gweithgareddau fel eu bod yn hollgynhwysol
- sut i gynnig gofal cwsmer o safon, gan ymateb i anghenion y rheiny sy'n cymryd rhan
- y technegau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth mewn dull difyr a deniadol
- sut i helpu annog y rheiny sy'n cymryd rhan i gyfrannu'n weithgar tuag at weithgareddau, bwrw golwg ar syniadau a herio'u syniadau
- y technegau ar gyfer trefnu cyllidebau, cynllunio a phrynu deunyddiau a chyfarpar dysgu
- sut i adnabod risgiau a lleddfiadau a pharatoi ar gyfer amgylchiadau annisgwyl
- y dulliau ar gyfer casglu adborth
- sut i werthuso cyn, yn ystod ac ar ôl gweithgareddau dysgu
- y gweithdrefnau sefydliadol sy'n ymwneud â hygyrchedd, amrywiaeth a chynhwysiant, diogelwch, iechyd a diogelwch, gwarchod data a diogelu
- pwy ddylech chi adrodd yn ôl iddyn nhw a phryd ddylech chi gyfathrebu gyda nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative and Cultural Skills
URN gwreiddiol
CCSCCS70
Galwedigaethau Perthnasol
Addysg a hyfforddiant, Cyfryngau a chyfathrebu, Marchnata a Gwerthiant, Rheoli busnes, Rheolwyr Swyddogaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Cymorth dysgu uniongyrchol, Gwasanaethau cyhoeddi a gwybodaeth, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth
Cod SOC
2452
Geiriau Allweddol
dysgu; addysg; dehongli; rhaglen; gweithgareddau; treftadaeth ddiwylliannol; cynorthwyo; arddangosfa; digwyddiad;