Datblygu a chyflawni gweithgareddau dysgu a dehongli ar-lein a wyneb-yn-wyneb
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chyflawni gweithgareddau dysgu a dehongli. Mae ar gyfer sefydliadau creadigol neu ddiwylliannol yn bennaf ond gallai unrhyw sefydliad sy'n paratoi gweithgareddau dysgu a dehongli ei defnyddio. Gellir manteisio ar y gweithgareddau yn y fan ar lle neu ar-lein ac fe allan nhw fod yn weithgareddau unigol neu'n gyfres gyflawn sydd wedi'i ddatblygu gan un sefydliad neu ar y cyd â sefydliadau neu grwpiau cymunedol eraill. Gallai'r mathau o weithgareddau gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, weithdai, sesiynau, digwyddiadau, arddangosfeydd, arddangosiadau, perfformiadau, gweithgareddau allgymorth, systemau aml-gyfrwng neu ddeunyddiau wedi'u hargraffu. Mae'n bosibl caiff yr unigolion sy'n cymryd rhan eu cyfeirio atyn nhw fel cynulleidfaoedd, ymwelwyr neu gwsmeriaid, yn dibynnu ar y cyd-destun.
Mae'n ymwneud â chydweithio gydag ystod eang o gydweithwyr, arbenigwyr pwnc allanol a rhanddeiliaid eraill i gynnig gweithgareddau cyffrous ac sy'n ysbrydoli'r dysgwyr gan fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau. Mae'n ymwneud â gwerthuso gweithgareddau blaenorol, cytuno ar themâu, amcanion dysgu a dulliau deongliadol a dysgu, datblygu cynlluniau, dewis lleoliadau, rheoli prosiectau, cynllunio wrth gefn a gwerthuso gweithgareddau'n barhaus.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y maes dehongli a dysgu gan ddefnyddio gweithgareddau i ymgysylltu gydag unigolion sy'n cymryd rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso gwybodaeth berthnasol am lwyddiant gweithgareddau dysgu a dehongli wyneb-yn-wyneb neu ar-lein blaenorol o fewn a thu hwnt i'r sefydliad
- adnabod y gynulleidfa targed, y themâu, yr amcanion a nodau gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein sy'n cydymffurfio gyda'r strategaethau sefydliadol ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd a dehongli a dysgu
- ymgynghori gyda'r bobl berthnasol am ddulliau dehongli a dysgu addas ynghyd â ffurfiau cyflawni ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
- cynnig amcan manwl gywir o'r gyllideb, y bobl, y raddfa amser ac adnoddau eraill sydd eu hangen ar gyfer datblygu a chyflawni gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
- datblygu cynlluniau ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein gyda deunydd wedi'i gyflwyno'n eglur ac sy'n ddigon manwl yn unol â'r gofynion sefydliadol
- sicrhau bod y gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein sydd wedi'u cynllunio'n berthnasol ac yn fanwl gywir gyda pherthynas amlwg gyda'r themâu sydd wedi'u hadnabod
- sicrhau bod y gweithgareddau dysgu a dehongli wyneb-yn-wyneb neu ar-lein yn hollgynhwysol ac yn briodol ar gyfer y gynulleidfa benodol a holl anghenion y defnyddwyr
- cysylltu gyda'r bobl berthnasol i geisio cytundeb am gynlluniau gweithgareddau yn ystod yr holl gamau allweddol o ran datblygu a chyflawni
- cydweithio gyda'r bobl briodol i sicrhau bod unrhyw farchnata gofynnol yn cael ei gynnal mewn da bryd er mwyn denu unigolion i gymryd rhan
- briffio unrhyw arbenigwyr, contractwyr, staff neu wirfoddolwyr sydd ynghlwm â datblygu a chyflawni gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein gyda'r wybodaeth ddigonol iddyn nhw gyflawni eu rôl ofynnol
- dewis lleoliadau gyda digonedd o le ar gyfer paratoi a chyflawni gweithgareddau dysgu a dehongli wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
cynnwys gwrthrychau neu safleoedd sy'n annog pobl i gymryd rhan ac sy'n gwella profiad a dealltwriaeth unigolion o themâu gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
rhoi cynlluniau ar waith i ofalu bod gwrthrychau neu safleoedd yn ddiogel bob amser yn ystod gwaith paratoi a chyflawni gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
- adnabod y risgiau a'r lleddfiadau a chynllunio cynlluniau wrth gefn realistig i ymdrin ag unrhyw amgylchiadau annisgwyl
- sicrhau bod y trwyddedau, cytundebau a'r yswiriant priodol wedi'u hadnabod a'u caffael
- sicrhau bod yr holl adnoddau'n barod pan fo'u hangen drwy gydol camau paratoi a chyflawni'r gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein
- sicrhau caiff gwasanaeth gofal cwsmer o safon ei gynnig drwy gydol y gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
- cyfrannu tuag at asesiadau a sicrhau eich bod yn gofalu am ddiogelwch yr unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
- gwerthuso gweithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein o gymharu â'r amcanion dysgu a hynny cyn, yn ystod ac ar ôl eu cynnal
- adnabod unrhyw addasiadau i weithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein parhaus a fyddai'n gwella'u heffeithiolrwydd yn y dyfodol, gan seilio'r holl gasgliadau a'r argymhellion dilynol ar ganlyniadau'r gwerthusiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod yr amcanion dysgu a chytuno arnyn nhw gyda'ch cydweithwyr
- sut i gaffael gwybodaeth am weithgareddau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein blaenorol gan gynnwys manteisio ar wybodaeth sefydliadol a chyhoeddus a thrafod gyda'ch cydweithwyr
- sut i gyflawni ymchwil cynulleidfaoedd i'w roi ar waith wrth gynllunio, adnabod cynulleidfaoedd a'u hanghenion
- yr arfer gorau a'r strategaethau sefydliadol ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd a dehongli a dysgu, gan gynnwys themâu allweddol
- buddion ac anfanteision gwahanol ffurfiau gweithgareddau ar gyfer gweithgareddau ar-lein a wyneb-yn-wyneb gan gynnwys diwrnodau ac amseroedd, hyd, hygyrchedd, ymgysylltiad, cymryd rhan, adnoddau, cyllidebau a chyflawni amcanion
- buddion ymwneud gydag aelodau cymunedol a dysgwyr o ran cynllun, dulliau, a ffurfiau gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein a sut i ymgynghori gyda nhw
- y gwahanol anghenion dysgu a sut i ddarparu ar gyfer y rhain wrth gynnig gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein
- sut i lunio nodau ac amcanion dysgu
- y mathau o ddulliau deongliadol a'u buddion a'u hanfanteision a phwy ddylech chi ymgynghori gyda nhw yn eu cylch
- y dulliau i gynyddu dealltwriaeth a mwynhad cynulleidfaoedd wyneb-yn-wyneb ac ar-lein gan gynnwys ffyrdd difyr o gyflwyno gwybodaeth a thechnegau i annog cynulleidfaoedd i gymryd rhan
- yr heriau posibl y gallai pobl gyda nam symudedd, nam ar eu clyw a'u golwg a chyflyrau niwrowahanol a rheiny o wahanol grwpiau cymunedol eu hwynebu a'r gwahanol strategaethau sydd ar gael sy'n fodd iddyn nhw fanteisio ar weithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein fel eu bod yn hollgynhwysol
- y sgiliau cynllunio a rheoli prosiect gan gynnwys trefnu cyllidebau ac amserlenni
- sut i adnabod y sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu a chyflawni gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein a'r wybodaeth sydd ei hangen gan y rheiny sydd ynghlwm
- yr amcanion deddfwriaethol a sefydliadol sy'n ymwneud â hygyrchedd, amrywiaeth a chynhwysiant, diogelwch, iechyd a diogelwch, diogelu amgylcheddol, gwarchod data a diogelu
- y trefniadau ar gyfer manteisio ar wrthrychau a mynediad i rannau o'ch adeilad ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â chyflawni
- sut i ddewis gwrthrychau neu safleoedd a'r wybodaeth i'w chynnwys
- beth sydd ynghlwm â'r cynlluniau wrth gefn a sut i weithredu'r cynlluniau
- sut i lunio asesiad risg
- y trefniadau diogelwch ar gyfer gwrthrychau, safleoedd a'r rheiny sy'n cymryd rhan ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein
- y dulliau marchnata gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, pwy i gydweithio gyda nhw ar farchnata a'r amseroedd arwain addas ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein a'r cynulleidfaoedd targed
- sut i sicrhau bod y trwyddedau, yswiriant a'r cytundebau ar waith ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein
- y gweithdrefnau gofal cwsmer sefydliadol ar gyfer gweithgareddau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein
- yr wybodaeth i'w gynnwys mewn gwerthusiad o weithgareddau dysgu a dehongli wyneb-yn-wyneb ac ar-lein a sut i'w gasglu a'i ddadansoddi