Rheoli datblygiad cynnwys treftadaeth ddiwylliannol ar-lein
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli datblygiad cynnwys treftadaeth ddiwylliannol ar-lein er mwyn sicrhau bod cynnwys priodol a manwl gywir i ennyn diddordeb, addysgu ac ysbrydoli defnyddwyr yn cael ei gyflwyno yn y man priodol ac ar y ffurf gorau. Gallai hyn ymdrin ag ystod eang o gynnwys megis digwyddiadau byw ar-lein, casgliadau, straeon ac arddangosfeydd atyniadol ynghyd â chynnwys ffurfiannol ar-lein am sefydliadau a sectorau. Gallai hyn ymwneud â gweithio ledled gwahanol lwyfannau a sianelau i fodloni'r gofynion ymarferoldeb a thechnegol.
Mae'n ymwneud ag adnabod gofynion, diffinio cwmpas a rôl y cynnwys, sicrhau bod y cynllun, fformat, strwythur, ymarferoldeb, dyfeisiau llywio a'r rhyngwyneb defnyddiwr yn diwallu anghenion defnyddwyr, gweithio gydag arbenigwyr pwnc ac arbenigwyr technegol, trefnu profion defnyddioldeb ac adolygiadau gan gyfoedion a chyflwyno gwybodaeth i'r gwneuthurwyr penderfyniadau.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros reoli datblygiad cynnwys treftadaeth ddiwylliannol ar-lein.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio tystiolaeth, data ac ymchwil gan ffynonellau dibynadwy i adnabod gofynion, diffinio cwmpas a chyfleu rôl cynnwys mewn prosiectau, allbynnau a gwaith dylunio
- sicrhau gallai cynnwys treftadaeth ddiwylliannol ar-lein ddiwallu'r anghenion sefydliadol ynghyd ag anghenion y defnyddwyr targed
- sicrhau bod agweddau technegol yn cael eu datblygu gan bobl sy'n meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd priodol
- ymgysylltu gydag arbenigwyr pwnc i lunio cynnwys treftadaeth ddiwylliannol manwl gywir, gan gydweithio gyda nhw i wirio cywirdeb cynnwys ar-lein wrth i chi ei ddatblygu
- sicrhau eich bod yn dewis y ffurfiau, cynllun a'r arddulliau priodol er mwyn cynnig cynnwys hygyrch, sy'n addas i ddefnyddwyr gan gadw at y cyllidebau sydd wedi'u nodi
- adnabod cynlluniau a ffurfiau sy'n manteisio i'r eithaf ar lwyfannau targed a'r technolegau perthnasol sydd ar gael
- sicrhau bod y cynnwys, strwythurau, dyfeisiau llywio a'r swyddogaethau rhyngwyneb yn briodol i'r defnyddwyr targed a diben y cynnyrch
- sicrhau bod swyddogaeth llwyfannau neu sianelau penodol yn bodloni gofynion y prosiect
- sicrhau bod prosesau adolygu priodol ar waith er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth treftadaeth ddiwylliannol yn fanwl gywir ac yn briodol i'r sefydliad i'w rhannu ar-lein
- sicrhau bod y cynnwys treftadaeth ddiwylliannol ar-lein yn cydymffurfio gyda'r rheoliadau, codau ymarfer a'r polisïau sefydliadol perthnasol
- cyflwyno gwybodaeth ddigonol am gysyniadau, cynlluniau ac ymarferoldeb i randdeiliaid mewnol ac allanol priodol ar gamau allweddol yn ystod y gwaith datblygu fel bod modd iddyn nhw ddeall a chynnig adborth
- gwirio'r rhyngwynebau defnyddwyr gyda'r bobl briodol i lywio'r penderfyniadau am gynnwys, addasrwydd llwyfannau a sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion a'r disgwyliadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffynonellau tystiolaeth, data ac ymchwil ynghylch gofynion, cwmpas, defnyddwyr targed, cyd-destun y gwaith, rôl y cynnwys ac unrhyw agweddau masnachol
y cydberthnasau rhwng y cynnwys, y cynllun a'r dechnoleg gan gynnwys unrhyw ofynion ar gyfer lleoliad
y sgiliau a'r arbenigedd sy'n ofynnol i ddatblygu gwefannau, rhaglenni a chyfryngau rhyngweithiol a'r prosesau sefydliadol ar gyfer recriwtio neu allanoli
- y prosesau sefydliadol ar gyfer adnabod ac ymwneud gydag arbenigwyr pwnc a sut i'w ymgysylltu nhw yn y broses
- y safonau, arferion, canllawiau a'r arfer gorau gan gynnwys y canllawiau brand, y canllawiau golygyddol, y canllawiau hygyrchedd a'r rheiny sy'n ymwneud â chysur defnyddwyr ac ansawdd y profiad
- effaith amrywiaeth, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
- yr egwyddorion dylunio rhyngweithio gan gynnwys defnyddioldeb, hygyrchedd a'r effeithiau ar ddefnyddwyr a sut i adnabod y prosesau, y dulliau a'r tasgau a fyddai'n gwella hygyrchedd a chywirdeb y cynnwys
- galluoedd gwahanol lwyfannau a sianelau gan gynnwys systemau rheoli cynnwys, amgylcheddau dysgu rhithiol a sianelau cyfryngau cymdeithasol a sut i gaffael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau a datblygiadau
- y dulliau o wirio agweddau technegol gan gynnwys y defnydd gorau posibl o lwyfannau targed a'r technolegau sydd ar gael
- y paramedrau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth treftadaeth ddiwylliannol ar-lein
- egwyddorion a dulliau profiad defnyddwyr, pryd ddylid cynnal profion defnyddwyr, pwy ddylai fod ynghlwm a sut i ddefnyddio'r canlyniadau i lywio prosiectau
- sut i strwythuro cynnwys mewn modd rhesymegol a chyson
- y lefelau manylder ynghylch y cysyniadau, y cynllun a'r swyddogaeth sy'n ofynnol gan wneuthurwyr penderfyniadau gan gynnwys y buddion a'r defnydd o ddeunyddiau blasu