Llunio strategaeth ar gyfer dehongli a dysgu mewn sefydliad creadigol neu ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â llunio strategaeth ar gyfer dehongli a dysgu mewn sefydliad creadigol neu ddiwylliannol. Gallai strategaethau dehongli a dysgu ymwneud ag adnabod digwyddiadau unigol neu luosog megis arddangosfeydd, arddangosiadau, perfformiadau, gweithgareddau allgymorth, cynyrchiadau ar y cyd a defnyddio systemau aml-gyfrwng neu ddeunyddiau wedi'u hargraffu. Gallai'r digwyddiadau fod mewn canolfannau dan do, yn yr awyr agored neu'n rai ar-lein.
Mae'n ymwneud ag adolygu strategaethau, cynlluniau neu ddulliau cyfredol, pennu amcanion, adnabod ac asesu posibiliadau ymarferol ar gyfer dehongli neu ddysgu, cytuno ar a chofnodi strategaethau a'u gwerthuso.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros lunio strategaeth dehongli a dysgu mewn sefydliad creadigol neu ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu gwybodaeth berthnasol am lwyddiant strategaethau dehongli a dysgu presennol neu orffennol y sefydliad a rhai'r sefydliadau sy'n cystadlu yn eu herbyn
- pennu amcanion newydd neu adolygu amcanion presennol pan fo angen datblygu neu wella strategaethau, gan sicrhau eu bod yn unol â'r polisïau allanol perthnasol
- bwrw golwg ar themâu neu syniadau allweddol sy'n ymwneud â'ch maes gwaith ac adnabod posibiliadau ymarferol o ran dehongli a fyddai'n diwallu anghenion ac arddulliau dysgu cynulleidfa targed y sefydliad
- asesu'r budd posibl i'r cynulleidfaoedd, cwsmeriaid neu'r ymwelwyr o gymharu â pholisïau ac amcanion y sefydliad
- sicrhau bod y strategaethau'n dwyn i ystyriaeth yr holl gynulleidfaoedd, cwsmeriaid neu'r ymwelwyr yn unol â'r polisïau amrywiaeth a chynhwysiant sefydliadol
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod y rhwystrau corfforol, deallusol ac economaidd ynghlwm â'r strategaethau ynghyd â'r risgiau ynghlwm â strategaethau i'r sefydliad
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod buddion y strategaethau i'r sefydliad a'r cyfleoedd ar gyfer bodloni gofynion y cwsmer, y gynulleidfa neu'r ymwelydd
- adnabod ac ymgynghori gyda'r bobl berthnasol wrth ddatblygu syniadau a gwerthuso strategaethau, gan sicrhau eu bod yn cyfrannu pan fo'n ofynnol
- cytuno ar strategaethau gyda'r bobl berthnasol ar yr adegau priodol
- cofnodi a rhannu strategaethau yn unol â'r prosesau sefydliadol
- gwerthuso gallu'r sefydliad i weithredu strategaethau gan gadw at y cyfyngiadau o ran adnoddau, amser staff a'r gyllideb
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- strategaeth gyfredol y sefydliad ar gyfer dehongli, polisïau ac amcanion sy'n effeithio ar ddehongliad
- ffynonellau gwybodaeth ynghylch a yw'r amcanion blaenorol wedi'u bodloni ai pheidio
- y posibiliadau ar gyfer dehongli a dysgu, gwahanol ddulliau, mathau o weithgareddau a'r rhesymau dros eu cymysgu
- y dadleuon cenedlaethol cyfredol a'r gofynion polisi allanol ynghyd â'r datblygiadau diweddaraf o ran syniadau ac arferion dehongli a dysgu a sut i'w ymchwilio
- yr heriau y mae defnyddwyr gyda nam symudedd, nam ar eu clyw a'u golwg, cyflyrau niwrowahanol a phobl o gymunedau difreintiedig yn eu hwynebu a'r gwahanol strategaethau sydd ar gael sy'n fodd iddyn nhw fanteisio ar ddehongliadau a dysgu
- sut gallai'r cyd-destun diwylliannol effeithio ar y strategaeth dehongli a dysgu
- y gwahanol anghenion dysgu a'r hynny maen nhw'n eu golygu o ran strategaethau dehongli a dysgu
- sut i asesu gwybodaeth ynghylch, ac adnabod anghenion, cynulleidfaoedd, cwsmeriaid neu ymwelwyr cyfredol ac arfaethedig a'u gofynion o ran addysg, hamdden ac astudio
- pwy sydd angen ichi ymgynghori gyda nhw a sicrhau eu bod ynghlwm â'r gwaith datblygu i sicrhau bod strategaethau yn cael eu hymgorffori gan gynnwys partneriaid a rhanddeiliaid cyd-gynllunio mewnol ac allanol, dysgwyr arfaethedig, cymunedau craidd, y rheiny sy'n gyfrifol dros gyflawni a chydweithwyr eraill
- y rhwystrau tebygol rhag gweithredu'r strategaeth a sut i'w goresgyn
- y risgiau, buddion a'r cyfleoedd sydd angen eu hasesu
- sut i gasglu, asesu a gwerthuso gwybodaeth am ofynion gan ddwyn i ystyriaeth yr adnoddau, amser y staff a'r gyllideb
- sut i adnabod adnoddau presennol a'r adnoddau sydd eu hangen
- sut i bennu amcanion a graddfeydd amser a diffinio gweithrediadau
- pryd ddylech chi ddefnyddio gwahanol fathau o werthusiadau