Gwerthuso profiad y cwsmer, y gynulleidfa neu’r ymwelydd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthuso profiad y cwsmeriaid, y cynulleidfaoedd neu'r ymwelwyr. Gallai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o sefydliad lle mae profiad y cwsmer, y gynulleidfa neu'r ymwelydd yn ganolog i lwyddiant y sefydliad. Gallai hyn, er enghraifft, ymwneud â dysgu, amrywiaeth, mwynhad neu ymgysylltu neu mewn gweithgareddau megis arddangosfeydd, digwyddiadau, gweithgareddau ar-lein neu berfformiadau.
Mae'n ymwneud ag adnabod amcanion y maes sy'n cael ei werthuso, dewis dulliau gwerthuso perthnasol a meini prawf llwyddiant, casglu a dadansoddi gwybodaeth, dadansoddi a chofnodi canlyniadau, rhannu canfyddiadau a defnyddio canlyniadau gwerthusiadau mewn gwaith yn y dyfodol.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros werthuso profiad defnyddwyr mewn sefydliad lle mae profiad y cwsmer, y gynulleidfa neu'r ymwelydd yn allweddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar ddefnydd canfyddiadau'r gwerthusiad yn y dyfodol gyda'r bobl berthnasol
- ymgynghori gyda chydweithwyr perthnasol a rhanddeiliaid eraill i adnabod y nodau ac amcanion ar gyfer profiad yr ymwelydd, y cwsmer neu'r gynulleidfa ynghlwm â'r gweithgaredd neu'r maes sy'n cael ei werthuso
- adnabod dulliau gwerthuso sy'n addas i ymwelwyr, cwsmeriaid neu gynulleidfaoedd
- adnabod mathau o wybodaeth ac amledd y casgliad a fyddai'n cynnig data addas a dilys ar gyfer y gwerthusiadau
- datblygu meini prawf llwyddiant, amserlenni a chyllidebau ar gyfer gwerthusiadau
- teilwra'r lefel o fanylder yn ôl diben a defnydd y gwerthusiadau
- adnabod unrhyw wybodaeth berthnasol sydd wedi'i gasglu'n barod ac sydd ar gael eisoes gallai gyfrannu tuag at werthusiadau
- gwneud trefniadau i bobl gyda'r sgiliau a'r profiad perthnasol i fod ynghlwm â'r gwaith cyflawni gwerthusiadau
- cynnig gwybodaeth ddigonol ar adegau priodol i'r rheiny sydd ynghlwm fel bod modd iddyn nhw gyflawni eu rôl
- casglu cyfansymiau a mathau priodol o wybodaeth ar gyfnodau y cytunwyd arnyn nhw gan ddefnyddio dulliau gwerthuso sydd wedi'u hadnabod
- dadansoddi a mesur canlyniadau'r gwerthusiadau er mwyn cyflwyno canfyddiadau eglur a manwl gywir
- cofnodi canfyddiadau ar ffurfiau priodol gan gynnwys y data ansoddol a mesurol gofynnol i'w ategu nhw
- dosbarthu a rhannu canfyddiadau gyda'r bobl berthnasol ledled y sefydliad a gyda rhanddeiliaid sydd â diddordeb
- adolygu addasrwydd y dulliau gwerthuso a chynnig argymhellion ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol
- sicrhau bod gweithgareddau yn y dyfodol yn cael eu datblygu a'u llywio gan ganlyniadau a chanfyddiadau'r gwerthusiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cytuno ar ddefnydd canfyddiadau gwerthusiadau yn y dyfodol gyda'r bobl berthnasol
- ymgynghori gyda'r cydweithwyr perthnasol a rhanddeiliaid eraill er mwyn adnabod y nodau ac amcanion ar gyfer profiad yr ymwelydd, y cwsmer a'r gynulleidfa ynghlwm â'r gweithgaredd neu'r maes sy'n cael ei werthuso
- adnabod dulliau gwerthuso sy'n addas i ymwelwyr, cwsmeriaid neu gynulleidfaoedd
- adnabod mathau o wybodaeth a'r amledd ar gyfer casglu a fyddai'n darparu data addas a dilys ar gyfer gwerthusiadau
- datblygu meini prawf llwyddiant, amserlenni a chyllidebau realistig ar gyfer gwerthusiadau
- teilwra'r lefel o fanylder yn ôl diben a defnydd y gwerthusiadau
- adnabod unrhyw wybodaeth berthnasol sydd wedi'i gasglu'n barod ac sydd ar gael eisoes gallai gyfrannu tuag at werthusiadau
- gwneud trefniadau i bobl gyda'r sgiliau a'r profiad perthnasol i fod ynghlwm â'r gwaith cyflawni gwerthusiadau
- cynnig gwybodaeth ddigonol ar adegau priodol i'r rheiny sydd ynghlwm fel bod modd iddyn nhw gyflawni eu rôl
- casglu cyfansymiau a mathau priodol o wybodaeth ar gyfnodau y cytunwyd arnyn nhw yn unol â'r dulliau gwerthuso sydd wedi'u hadnabod
- dadansoddi a mesur canlyniadau'r gwerthusiadau er mwyn cyflwyno canfyddiadau eglur a manwl gywir
- cofnodi canfyddiadau ar ffurfiau priodol, gan gynnwys y data ansoddol a mesurol gofynnol i'w ategu nhw
- dosbarthu a rhannu canfyddiadau gyda'r bobl berthnasol ledled y sefydliad a gyda'r rhanddeiliaid sydd â diddordeb