Datblygu a chyflawni cynyrchiadau ar y cyd gyda chymunedau ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chyflawni cynyrchiadau ar y cyd gyda chymunedau ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol. Gallai cynyrchiadau ar y cyd ymwneud â digwyddiadau, dysgu, dehongli neu unrhyw weithgareddau perthnasol eraill sydd o fewn cylch gwaith y sefydliad. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw safon briodol ynghylch digwyddiadau neu ddysgu a dehongli.
Mae'n ymwneud ag adnabod cyfleoedd, egluro disgwyliadau, cytuno ar a chofnodi amcanion, fformat, graddfeydd amser, cyllideb a chyflwyniadau, ymgynghori gyda, briffio a diweddaru pobl eraill, cyflawni gweithrediadau y cytunwyd arnyn nhw a chaffael adborth ar gyfer gwerthuso.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â datblygu a chyflawni cynyrchiadau ar y cyd gyda chymunedau ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod cyfleoedd ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd sydd o fewn cylch gwaith eich sefydliad
- treulio digon o amser yn egluro eich disgwyliadau chi a disgwyliadau'r cymunedau
- cydweithio gyda rhanddeiliaid ac unigolion cymunedol allweddol i adnabod yr amcanion a'r fformat ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd
- cytuno ar raddfeydd amser, cyflwyniadau a chyllideb realistig ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd gyda rhanddeiliaid, unigolion a sefydliadau allweddol
- sicrhau bod modd bodloni eich cyfrifoldebau chi a chyfrifoldebau eich sefydliad o ran cynllun a chyflawni'r cynyrchiadau ar y cyd
- dogfennu a ffurfioli rolau, cyfrifoldebau, cyflwyniadau, amseroedd a'r gyllideb ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad, gan ymgynghori gydag arbenigwyr cytundebol pan fo'n ofynnol
- rhagweld problemau ymlaen llaw gallai godi yn ystod cynyrchiadau ar y cyd, rhannu pryderon gyda chynrychiolwyr cymunedol allweddol ar adegau priodol er mwyn atal unrhyw broblemau rhagweladwy
- ymgynghori gydag a briffio'r bobl briodol yn eich sefydliad ynghylch cynyrchiadau ar y cyd
- rhannu'r diweddaraf am eich cynnydd gyda chynrychiolwyr cymunedol gyda chamau gweithredu sydd wedi'u pennu i chi neu bobl eraill yn eich sefydliad
- cynnig cymorth a chyngor i gynrychiolwyr cymunedol i fodloni eu cyfrifoldebau ar gyfer cynyrchiadau ar y cyd sydd o fewn eich cylch gwaith chi a chylch gwaith y sefydliad
- cyflawni'r gwasanaethau, cynnyrch neu'r gwaith y cytunwyd arnyn nhw ar amser a gan gadw at y gyllideb
- pennu prosesau sy'n cefnogi cydweithio parhaus gyda chymunedau
- caffael adborth gan gynrychiolwyr cymunedol ac aelodau cymunedol ar adegau priodol i lywio dulliau yn y dyfodol sy'n ymwneud â chynyrchiadau ar y cyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd a buddion cynyrchiadau ar y cyd
- sut i feithrin partneriaethau a phryd gallai cydweithio ategu nodau eich sefydliad a'r cymunedau
- pam ei bod hi'n bwysig egluro eich disgwyliadau chi a disgwyliadau pobl eraill
- y technegau cynllunio prosiectau gan gynnwys adnabod cryfderau a gwendidau eich sefydliad a'r rhanddeiliaid a'r grwpiau cymunedol
- beth gall eich sefydliad ei gyflawni a beth na allwch chi ei gyflawni
- pwy ddylech chi ymgynghori gyda nhw a briffio yn eich sefydliad am wahanol agweddau cynyrchiadau ar y cyd gan gynnwys cyllidebau, marchnata ac adrannau ac unigolion eraill sydd ynghlwm â dylunio a chyflawni
- pryd fydd angen cytundeb neu lythyr cytundeb a sut i lunio'r ddogfen hon fel ei bod yn diogelu'r ddau gorff
- sut i drin a thrafod cyfrifoldebau gwaith a llunio cynllun prosiect
- sut i ragweld y mathau o broblemau a'r ystod o anghydfodau gallai godi wrth gydweithio gydag eraill
- lle i gaffael cyngor arbenigol ynghylch cytundebau a llythyrau o gytundeb
- pwysigrwydd sgiliau rheoli prosiect a rheoli amser effeithiol a sgiliau cyfathrebu cryf
- sut i rannu'r diweddaraf am eich cynnydd a'ch gwaith gyda rhanddeiliaid ac unigolion cymunedol
- y prosesau i annog cydweithio parhaus a sut i ennill cytundeb a chefnogaeth ar eu cyfer
- pam ei bod hi'n bwysig cynnig a derbyn adborth adeiladol a manteisio ar adborth