Ymchwilio a rhestru treftadaeth ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymchwilio a chatalogio treftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sydd wedi'u harddangos, neu sydd wedi'u storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd, lleoliadau hanesyddol neu dreftadaeth ddiwylliannol anghyffyrddadwy.
Mae'n ymwneud ag ymchwilio gwybodaeth i wella dealltwriaeth ynghylch treftadaeth ddiwylliannol neu ei gyd-destun, casglu ac asesu'r wybodaeth honno, adnabod a dosbarthu treftadaeth ddiwylliannol, adrodd am neu lunio disgrifiadau cryno neu'r gofynion gofal o ran treftadaeth ddiwylliannol, pennu rhifau derbyn a chofnodi manylion ar systemau dogfennu digidol neu ar bapur.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros ymchwilio a rhestru treftadaeth ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar yr wybodaeth sydd ei hangen a'r gweithdrefnau ar gyfer dadansoddi gyda'r bobl berthnasol
- defnyddio technegau ymchwilio priodol i adnabod ffynonellau ymchwil cynradd ac eilradd perthnasol
- casglu gwybodaeth yn unol â gofynion y dadansoddiad ac adnabod y gwrthrychau neu'r strwythurau sy'n cael eu hymchwilio
- asesu a dewis gwybodaeth yn ôl ei dibynadwyedd, ei pherthnasedd a'i chyfraniad tuag at y gwaith
- diogelu gwybodaeth gyfrinachol yn unol â'r cytundebau, gweithdrefnau a'r ddeddfwriaeth
- cydnabod ffynonellau gwybodaeth yn unol â'r prosesau sefydliadol
- asesu a cheisio rhesymau dros unrhyw ddiffygion, anghysondebau neu ganlyniadau annisgwyl
- gweithredu er mwyn datrys unrhyw broblemau sydd ynghlwm â chasglu gwybodaeth yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
- archwilio treftadaeth ddiwylliannol gan ofalu nad yw mewn unrhyw berygl
- defnyddio'r holl wybodaeth berthnasol i adnabod treftadaeth ddiwylliannol a chynnig cyfiawnhad dros adnabyddiaeth y dreftadaeth ddiwylliannol
- neilltuo a chofnodi manylion derbyn yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol a'r canllawiau
- gosod niferoedd derbyn ar neu ger treftadaeth ddiwylliannol yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio gyda'r rheolau iechyd a diogelwch a'r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau a'r gweithdrefnau eraill bob amser
- cofnodi adroddiadau a disgrifiadau cryno gyda gwybodaeth briodol am dreftadaeth ddiwylliannol mewn digon o fanylder
- cofnodi disgrifiadau a chrynodebau ar ffurfiau sy'n addas i'r defnyddwyr
- cofnodi cyflwr y dreftadaeth ddiwylliannol a'r gofal sydd ei angen arnyn nhw yn unol â'r prosesau sefydliadol, gan hysbysu'r bobl berthnasol pan fo'n briodol
- adolygu cynnydd a chanlyniadau'r gwaith gyda'r bobl berthnasol ar yr adegau priodol
- cofnodi a storio gwybodaeth ar systemau sefydliadol gan ddefnyddio ffurfiau a gweithdrefnau derbyniol
- gwerthuso llwyddiant y dulliau casglu gwybodaeth a'r ffynonellau ar gyfer gwaith yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben yr ymarfer casglu gwybodaeth, y ffynonellau gwybodaeth arferol a'r gweithdrefnau arferol ar gyfer ceisio am, manteisio ar a chaffael gwybodaeth
- y ddeddfwriaeth, y gweithdrefnau sefydliadol a'r cytundebau sy'n ymwneud â chyfrinachedd a diogelu data
- pam ei bod hi'n bwysig gweithredu dulliau casglu'n effeithiol ac yn gyson ynghyd â chanlyniadau peidio â gwneud hynny
- beth yw gwybodaeth ddilys a dibynadwy, sut i asesu, dewis, dehongli a dosbarthu gwahanol fathau o wybodaeth, sut gellir ymdrin ag anghysondebau mewn gwybodaeth a'r hyn y gellid ei ystyried yn driniaeth anfoesegol o ddata
- y gofynion sefydliadol perthnasol, cenedlaethol, lleol, a phroffesiynol sy'n ymwneud â dadansoddi cudd wybodaeth, pam ei bod hi'n bwysig cydymffurfio gyda'r gwahanol ofynion a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
- yr egwyddorion eang o ran deddfwriaeth hawlfraint, sut i gydnabod ffynonellau gwybodaeth a defnyddio safonau dyfynnu a sut i ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol
- sut i werthuso llwyddiant prosesau, dulliau a ffynonellau casglu gwybodaeth
- y mathau o systemau dogfennu a ddefnyddir, sut i'w gweithredu, y prif wahaniaethau rhwng systemau digidol ac ar bapur a'r problemau posibl ynghlwm â nhw
- y systemau dosbarthu a ddefnyddir, y gwahanol ddosbarthiadau o eitemau a sut i gofnodi manylion dosbarthu
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer neilltuo rhifau derbyn a sut i gofnodi dyraniad rhif derbyn
- nodweddion arferol dosbarthiad treftadaeth ddiwylliannol, sut i gadarnhau hunaniaeth y gwrthrychau neu'r strwythurau, y lefel o gywirdeb sy'n debygol wrth eu hadnabod a'r problemau ynghlwm ag adnabod eitemau anghyflawn
- y manylion sydd angen eu cofnodi ynghylch treftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys yr hanes, arwyddocâd, oedran, tarddiad, nodweddion anarferol neu arbennig, perthynas ac arwyddocâd i eitemau perthnasol eraill
- sut i ddefnyddio lluniau camera i ategu eich ymchwil a'ch disgrifiadau
- sut i ddisgrifio treftadaeth ddiwylliannol ar gyfer gwahanol bobl a dibenion, gan gynnwys adroddiadau a disgrifiadau cryno, a sut i ddefnyddio a chyfuno ffurfiau disgrifio
- sut i farcio neu labelu treftadaeth ddiwylliannol, sut gallai gwahanol ddeunyddiau adweithio i'r marciau a diben cadw neu gofnodi marciau neu labeli blaenorol
- pwysigrwydd gosod labeli neu rifau derbyn sy'n amlwg yn gysylltiedig â threftadaeth ddiwylliannol heb achosi difrod neu effeithio ar nodweddion pwysig
- y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer y rheolau iechyd a diogelwch a'r ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau a'r canllawiau perthnasol eraill
- cynnwys adroddiad pan fo'n adroddiad dros dro ac yn un sy'n cael ei lunio yn ystod y camau terfynol gan gynnwys y nodau, amcanion, methodoleg, cynnydd a chanlyniadau'r asesiadau
- y ffordd orau o gyflwyno'r canlyniadau a sut i addasu cyflwyniadau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
- y risgiau cyffredin a phenodol i dreftadaeth ddiwylliannol a'r prosesau archwilio sy'n achosi'r lleiaf o risg iddyn nhw
- sut i gaffael gwybodaeth am anghenion gwarchodaeth
- pwy ddylid eu hysbysu am yr anghenion gofal, y cynnydd o ran adolygu a'r canlyniadau a phryd mae'n briodol
- y mathau o broblemau a allai godi wrth gasglu gwybodaeth a'r camau gweithredu i'w datrys