Cyfrannu tuag at gynllunio a chyflawni ymgyrch farchnata mewn sefydliad treftadaeth ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gyda chynllunio a chyflawni ymgyrch farchnata mewn sefydliad treftadaeth ddiwylliannol. Gallai ymgyrchoedd marchnata ymwneud â digwyddiadau neu arddangosfeydd treftadaeth ddiwylliannol neu agweddau eraill y sefydliad a gallai hefyd ymwneud ag ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol neu'r wasg, hysbysebu neu gysylltiadau cyhoeddus. Gallai sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol ymwneud gydag un, neu gymysgedd o, gasgliadau, gwrthrychau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau treftadaeth ddiwylliannol neu dreftadaeth anghyffyrddadwy.
Mae'n ymwneud ag ymchwilio cyfleoedd marchnata, cyfrannu tuag at gynllunio, cyflawni gweithgareddau penodol, ateb ymholiadau a chasglu a gwerthuso data er mwyn mesur llwyddiant.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros gynorthwyo gydag ymgyrch farchnata ar gyfer sefydliad treftadaeth ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio gwybodaeth am gyfleoedd marchnata arfaethedig gan ffynonellau dibynadwy
- cadw cofnodion cywir o weithgarwch marchnata ar systemau gwybodaeth sefydliadol
- defnyddio gwybodaeth o'ch ymchwil i gyfrannu tuag at gynllunio ymgyrch farchnata
- sicrhau bod eich cyfraniadau'n unol ag amcanion y sefydliad ar gyfer y dreftadaeth ddiwylliannol sydd yn ei gofal
- cydlynu gweithgareddau marchnata penodol o fewn eich maes cyfrifoldeb i'r ansawdd gofynnol ac yn unol â'r terfynau amser y cytunwyd arnyn nhw
- ceisio cymorth a chyngor gan y bobl briodol pan fo'n ofynnol
- ateb ymholiadau gan unigolion neu sefydliadau am ddigwyddiadau neu arddangosfeydd treftadaeth ddiwylliannol neu agweddau eraill y sefydliad sy'n cael eu marchnata
- casglu data gellir ei ddefnyddio i fesur effaith y gweithgarwch marchnata yn fanwl gywir
- dod i gasgliad ynghylch gweithgarwch marchnata sydd wedi'i ategu gan y data sydd wedi'i gasglu
- cyflwyno gwybodaeth eglur am gasgliadau a gofynion ynghylch gweithgarwch yn y dyfodol i'r bobl briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweledigaeth, amcanion a negeseuon allweddol y sefydliad
- pwysigrwydd brandio a hunaniaeth gorfforaethol
- unrhyw agweddau allweddol y dreftadaeth ddiwylliannol sydd yng ngofal y sefydliad a fyddai'n effeithio ar y gweithgarwch marchnata
- pwysigrwydd a rôl marchnata yn y sefydliad gan gynnwys ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd ac agweddau eraill y sefydliad
- y technegau ymchwil sylfaenol a'r gwahanol ffyrdd o ymchwilio cyfleoedd marchnata posibl
- y systemau gwybodaeth sefydliadol a sut i fanteisio arnyn nhw a'u defnyddio
- y dulliau cyfathrebu priodol a sut i gyfathrebu'n eglur dros y ffôn ac yn ysgrifenedig
- sut i feithrin a chynnal perthnasau da gydag unigolion
- lle i ganfod gwybodaeth am ofynion ansawdd a therfynau amser
- pryd i ofyn am gyngor a chefnogaeth gan bobl eraill
- sut i gynrychioli'r sefydliad
- y mathau o ddeunyddiau a thechnegau marchnata a phryd mae'n briodol eu defnyddio nhw