Llunio a gweithredu strategaeth datblygu cynulleidfa ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol

URN: CCSCH17
Sectorau Busnes (Suites): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â llunio a gweithredu strategaeth datblygu cynulleidfa ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol. Gallai hyn ymwneud ag adolygu strategaeth datblygu cynulleidfa gyfredol y sefydliad a'i ddiweddaru fel sy'n briodol neu lunio strategaeth newydd.

Mae'n ymwneud ag adolygu'r amcanion a'r buddion, cadarnhau gwybodaeth gadarn a diduedd am gynulleidfaoedd a'u gofynion cyfredol ac yn y dyfodol, pennu paramedrau ar gyfer ymchwil cynulleidfaoedd, cytuno ar strategaethau hollgynhwysol a'u gweithrediad gyda'r bobl briodol a gwerthuso llwyddiant strategaethau a'u gweithrediad.

Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol dros lunio a gweithredu strategaeth datblygu cynulleidfa ar gyfer sefydliad creadigol neu ddiwylliannol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adolygu amcanion a buddion strategaethau datblygu cynulleidfa a pham, pryd a sut hoffech chi ennyn diddordeb gwahanol gynulleidfaoedd  
  2. adnabod a chadarnhau dilysrwydd yr wybodaeth gyfredol am gynulleidfaoedd a'u gofynion 
  3. gosod paramedrau ar gyfer casglu tystiolaeth gadarn a diduedd am gynulleidfaoedd a strategaethau, penderfynu a ddylid gwneud hyn yn fewnol neu'n allanol
  4. bwrw golwg ar syniadau ar gyfer profiadau newydd i gynulleidfaoedd, ymchwilio strategaethau a gweithgareddau sefydliadau tebyg ynghyd â syniadau cyfredol yn y sector ehangach
  5. cynnal asesiad gwybodus o fuddion arfaethedig gwahanol strategaethau i wahanol gynulleidfaoedd
  6. adnabod gofynion cynulleidfaoedd cyfredol ac arfaethedig yn unol â'r polisïau sefydliadol perthnasol
  7. sicrhau bod y strategaethau datblygu cynulleidfa yn hollgynhwysol ac yn briodol i'r gynulleidfa arfaethedig ac i holl anghenion y defnyddwyr 
  8. adnabod y rhwystrau naturiol, deallusol ac economaidd rhag, a'r cyfleoedd ar gyfer, bodloni gofynion y cynulleidfaoedd
  9. asesu'r defnydd cyfredol ac arfaethedig o'r adnoddau sydd ar gael a'u goblygiadau ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd
  10. cytuno ar y strategaeth ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd gyda'r holl bobl briodol
  11. adnabod graddfeydd amser realistig ar gyfer gweithredu strategaethau a chytuno arnyn nhw gyda'r holl bobl sydd ynghlwm
  12. adnabod effaith gweithredu'r strategaethau ar weithgareddau a phobl eraill, a chymryd camau priodol i gydlynu gweithgareddau
  13. cydweithio gyda'r staff priodol i farchnata cyfleoedd datblygu cynulleidfa
  14. gwerthuso llwyddiant strategaethau datblygu cynulleidfa cyn, yn ystod ac ar ôl i chi eu gweithredu, defnyddio canfyddiadau i lywio strategaethau a gweithgareddau yn y dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​strategaeth cyfredol y sefydliad ar gyfer datblygu cynulleidfa a'r polisïau a'r amcanion sy'n effeithio ar ddatblygu cynulleidfa
  2. sut gallai'r cyd-destun diwylliannol a gwleidyddol effeithio ar y strategaethau o ran y gynulleidfa
  3. anghenion y cynulleidfaoedd cyfredol ac arfaethedig
  4. sut i adnabod gwahanol grwpiau cynulleidfa a'r marchnadoedd targed ar gyfer eich sefydliad
  5. sut i asesu cadernid a didueddrwydd yr wybodaeth am gynulleidfaoedd cyfredol ac arfaethedig a'u gofynion
  6. yr heriau posibl gallai ymwelwyr gyda nam symudedd, nam ar eu clyw a'r golwg a chyflyrau niwrowahanol eu hwynebu a'r gwahanol strategaethau sydd ar gael i sicrhau mynediad hollgynhwysol   
  7. sut i ddatblygu syniadau newydd ac ymchwilio gweithgareddau datblygu cynulleidfa ledled y sector
  8. sut i fanteisio ar gysyniadau ac adnoddau newydd a chyfredol sy'n ymwneud â datblygu cynulleidfa
  9. buddion, defnyddiau ac anfanteision technoleg ynghlwm ag ymgysylltu cymunedol, gan gynnwys dulliau amgen i'r rheiny sy'n methu â manteisio arno
  10. pwy yw'r bobl berthnasol sydd angen ichi ymgynghori gyda nhw ynghylch strategaethau a'u gweithrediad
  11. sut i adnabod defnydd cyfredol a'r adnoddau a'r bobl arfaethedig i gyflawni strategaethau
  12. y mathau o risgiau a buddion sydd angen eu hasesu
  13. sut i ymgynghori gyda rhanddeiliaid am strategaethau datblygu cynulleidfa
  14. sut i gyflwyno gwybodaeth am strategaethau i wahanol ddefnyddwyr
  15. pa weithgareddau a phobl eraill y bydd gweithredu strategaethau yn effeithio arnyn nhw 
  16. sut i werthuso llwyddiant y strategaethau a'r gweithgareddau gweithredu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative and Cultural Skills

URN gwreiddiol

CCSCCS78

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Cyffredinol, Cyfryngau a chyfathrebu, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Rheolwyr Swyddogaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Cymorth dysgu uniongyrchol, Gwasanaethau cyhoeddi a gwybodaeth, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth

Cod SOC

2452

Geiriau Allweddol

datblygu cynulleidfa; ymwelydd; cwsmer; cynulleidfa; dehongli; dysgu; treftadaeth ddiwylliannol; strategaeth; ymchwil; sefydliad creadigol; treftadaeth ddiwylliannol;