Gwneud copïau o dreftadaeth ddiwylliannol
URN: CCSCH16
Sectorau Busnes (Cyfresi): Treftadaeth Ddiwylliannol
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud copïau o dreftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol neu eu cyfansoddion. Gallai'r copïau fod yn ddyblygiadau, yn ddirprwyon, yn gynrychioliadau, yn sganiau 3D neu'n gynrychioliadau digidol eraill. Gellir gwneud copïau er y dibenion isod:
- cynorthwyo gyda hygyrchedd, dehongliad neu ymchwil,
- amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol rhag triniaeth neu ddefnydd diangen, neu
- codi arian drwy eu gwerthu
- ymchwilio a monitro gwrthrychau sy'n cael eu harddangos, eu storio neu sydd yn y fan a'r lle er enghraifft neu os ydyn nhw mewn neu'n rhan o adeilad neu safle hanesyddol.
Mae'n ymwneud â chytuno ar ofynion, defnyddio'r technegau, yr offer a'r deunyddiau priodol i gynhyrchu copïau, cynnal uniondeb a diogelwch y dreftadaeth ddiwylliannol a'r copïau a chofnodi'r wybodaeth berthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar y gofynion o ran gwneud copïau gyda'r bobl briodol
- defnyddio'r technegau, deunyddiau a'r cyfarpar priodol i wneud copïau
- gwneud copïau manwl gywir a digonol yn ôl yr angen a'r adnoddau sydd ar gael
- sicrhau eich bod yn cynnal cyflwr a diogelwch y copïau
- cynnal uniondeb y dreftadaeth ddiwylliannol rydych chi'n eu copïo yn ystod y broses
- sicrhau bod unrhyw dreftadaeth ddiwylliannol rydych chi'n eu symud yn cael ei ddychwelyd i leoliadau ac amodau addas ar ôl gweithredu
- cofnodi sut a pham y cynhyrchiwyd copïau ar systemau sefydliadol
- defnyddio'r dulliau derbyniol i sicrhau bod modd gwahaniaethu rhwng y copïau a'r rhai gwreiddiol
- cofnodi diben a tharddiad copïau pan fo'n ofynnol
- cofnodi gofynion gofal a chynnal a chadw'r copïau ar systemau sefydliadol pan fyddan nhw wedi'u cynllunio ar gyfer defnydd hirdymor
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut gallai dyblygiadau neu gynrychioliadau fod yn ddefnyddiol
- y ffynonellau gwybodaeth ynghylch y gofynion o ran copïau o dreftadaeth ddiwylliannol
- y deunyddiau a'r cyfarpar gofynnol ar gyfer y dull copïo sydd ar waith a sut i'w defnyddio nhw gan gynnwys ar gyfer dyblygiadau, dirprwyon, cynrychioliadau, sganiau 3D neu gynrychioliadau 3D eraill
- sut i gynhyrchu dyblygiad neu gynrychioliad i'r safon a'r fformat gofynnol gan ddiogelu'r gwreiddiol
- y dulliau i wahaniaethu rhwng copïau a rhai gwreiddiol
- cyflwr a gofynion diogelwch priodol y copïau
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi dyblygiadau neu gynrychioliadau a'u diben gan gynnwys marcio, dulliau a deunyddiau gweithgynhyrchu
- y mathau o systemau dogfennu a ddefnyddir, sut i'w gweithredu, y prif wahaniaethau rhwng systemau digidol ac ar bapur a'r problemau posibl ynghlwm â nhw
- sut i ofalu am a chynnal dyblygiadau neu gynrychioliadau a chadw cofnodion priodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative and Cultural Skills
URN gwreiddiol
CCSCH69
Galwedigaethau Perthnasol
Hamdden; teithio a thwristiaeth, Rheolwyr Swyddogaethol, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Adeiladu, Crefftau Adeiladu, Archaeoleg a’r Gwyddorau Archaeolegol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Gwarchodaeth, Hanes, Pensaernïaeth
Cod SOC
2452
Geiriau Allweddol
gwarchodaeth; dyblygiad; cynrychioliad; arteffact; gwarchodaeth; treftadaeth ddiwylliannol; copi; copïau; dirprwy; cynrychioliad; sgan 3D; digidol; adeilad treftadaeth; strwythur treftadaeth; safle treftadaeth;