Gwarchod, atgyweirio neu adfer gwrthrychau treftadaeth ddiwylliannol dynamig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwarchod, atgyweirio neu adfer gwrthrychau treftadaeth ddiwylliannol dynamig. Yn ogystal â gwerth treftadaeth ddiwylliannol, mae gan wrthrychau treftadaeth ddiwylliannol dynamig rannau sy'n symud sy'n cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, wrthrychau mecanyddol megis clociau, cerbydau modur awtomatig ac offerynnau cerdd.
Mae'n ymwneud ag asesu faint o waith atgyweirio neu adfer sydd ei angen, cyflawni gwaith adfer ac atgyweirio sy'n briodol ar gyfer pob gwrthrych, defnyddio offer, technegau a deunyddiau cyfnewid priodol a gweithio gan gydymffurfio gyda'r graddfeydd amser y cytunwyd arnyn nhw a'r prosesau sefydliadol.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n cyflawni gwaith gwarchod, atgyweirio neu adfer i wrthrychau treftadaeth ddiwylliannol dynamig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio'n ddiogel bob amser gan gydymffurfio gyda'r rheoliadau, cyfarwyddiadau a'r canllawiau iechyd a diogelwch
- asesu'r gwrthrychau ac unrhyw ddiffygion a chytuno ar raddau'r gwaith atgyweirio neu adfer gyda'r bobl briodol
- gwirio bod modd gwasanaethu'r cyfansoddion a'r deunyddiau presennol ac adnabod cyfansoddion gofynnol newydd yn unol ag anghenion y gwrthrychau
- defnyddio dulliau a thechnegau gwarchod, atgyweirio ac adfer sy'n briodol ar gyfer pob gwrthrych ac sy'n briodol i'r lefel dymunol o waith atgyweirio neu adfer
- caffael dogfennau neu fanylebau perthnasol i lywio gweithgareddau gwarchod, atgyweirio neu adfer
- cyflawni gweithgareddau gwarchod, atgyweirio neu adfer sydd o fewn cyfyngiadau eich arbenigedd a phrofiad.
- dewis offer a deunyddiau ar gyfer gwaith adfer sy'n addas i'w diben ac sydd mewn cyflwr diogel, gan eu storio'n briodol ar ôl i chi eu defnyddio
- trin a defnyddio offer a deunyddiau i gyflawni'r gwaith gwarchod, atgyweirio neu adfer dymunol yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch
- cyflawni gweithgareddau gwarchod, atgyweirio neu adfer mewn dilyniant priodol ac o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnyn nhw
- dod o hyd i a chaffael rhannau, deunyddiau a defnyddiau traul eraill angenrheidiol yn unol â'r polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol
- datrys problemau gyda gweithgareddau gwarchod, atgyweirio ac adfer o fewn cyfyngiadau eich arbenigedd a'ch profiad
- llunio dogfennau priodol yn unol â'r safonau a'r gweithdrefnau sefydliadol a sector
- cadw a rhestru elfennau cafodd eu tynnu neu eu hamnewid yn ystod y gwaith gwarchod, atgyweirio neu adfer ar systemau priodol
- cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn unol â'r arferion gweithio'n ddiogel a'r gweithdrefnau cymeradwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â gweithgareddau gwarchod, atgyweirio neu adfer, y cyfrifoldeb sydd arnoch chi ac effeithiau'r rhagofalon iechyd a diogelwch ar bobl eraill
- y peryglon sy'n gysylltiedig gyda chyflawni gweithgareddau gwarchod, atgyweirio neu adfer gan gynnwys codi, trin a defnyddio offer a chyfarpar a thrin a chael gwared ar sylweddau peryglus
- pwysigrwydd gwisgo dillad diogelu a chyfarpar diogelwch priodol eraill (PPE)
- moeseg adfer a gwarchod ar waith atgyweirio ac amnewid cyfansoddion, rhannau a deunyddiau gwreiddiol a'r gweithdrefnau ar gyfer caffael y rhain
- lle i gaffael dogfennau neu fanylebau ar gyfer y gwrthrychau rydych chi'n gweithio arnyn nhw
- graddau eich arbenigedd, profiad a'ch awdurdod a phwy ddylech chi ymgynghori gyda nhw os oes gennych chi broblem na allwch chi ei ddatrys neu sydd y tu hwnt i'ch maes arbenigedd chi
- sut i werthuso effaith graddau'r gwaith adfer neu atgyweirio ar edrychiad, swyddogaeth, dehongliad a gwerth treftadaeth y gwrthrychau
- y dulliau o wirio bod modd gwasanaethu'r cyfansoddion, a sut i adnabod ôl traul a difrod
- sut i wirio bod yr offer a'r cyfarpar mewn cyflwr diogel a defnyddiadwy
- y dulliau a thechnegau arfer gorau arbenigol y dylid eu mabwysiadu ar gyfer cyflawni gwaith gwarchod, atgyweirio ac adfer
- yr heriau sy'n gysylltiedig â gwaith gwarchod, atgyweirio ac adfer a sut mae modd eu goresgyn
- pa elfennau sydd wedi'u gwaredu sydd â diddordeb hanesyddol yn y dyfodol a'r systemau ar gyfer eu rhestru
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cael gwared ar wastraff yn ddiogel
- pwy ddylid cysylltu gyda nhw a phryd, cyn ac yn ystod gwaith gwarchod, atgyweirio ac adfer
- y gofynion o ran cadw cofnodion