Gosod a chynnal a chadw cyfarpar gwarchodaeth arbenigol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a chynnal a chadw cyfarpar gwarchodaeth arbenigol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol. Gallai treftadaeth ddiwylliannol gyfeirio at wrthrychau sy'n cael eu harddangos neu eu storio neu at adeiladau, strwythurau, safleoedd neu leoliadau hanesyddol neu eu cyfansoddion.
Mae'n ymwneud â gosod cyfarpar, cynnig cyngor a chymorth ynghylch ei ddefnydd, cynnal gwiriadau rheolaidd, eu cynnal a'u cadw a'u haddasu, cyfeirio tasgau arbenigol at beirianwyr gwasanaeth, a chadw cofnod o waith cynnal a chadw. Nid yw'n ymwneud â thasgau cynnal a chadw arbenigol sy'n cael eu cyflawni gan wneuthurwr neu werthwr y cyfarpar fel arfer.
Mae'r safon hon yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am osod a chynnal a chadw cyfarpar gwarchodaeth arbenigol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio bod y cyfarpar gwarchodaeth mewn cyflwr diogel ac yn barod i'w ddefnyddio
- gosod a pharatoi cyfarpar gwarchodaeth ar gyfer ei ddefnydd arfaethedig a hynny yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- cynnig cyngor neu gyfarwyddiadau eglur i'r bobl berthnasol ynghylch sut i ddefnyddio cyfarpar gwarchodaeth
- datrys problemau gweithredu neu addasu arferol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- cyflawni unrhyw waith cynnal a chadw defnyddwyr sydd ei angen i sicrhau bod y cyfarpar gwarchodaeth mewn cyflwr da a hynny yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- adnabod a gweithredu ar unrhyw broblemau posibl gallai arwain at ddiffyg gweithredu neu risgiau diogelwch ar unwaith
- cyfeirio unrhyw dasgau cynnal a chadw arbenigol gofynnol at beirianwyr gwasanaeth neu staff cymwys eraill
- cadw cofnodion ynghylch defnydd, gwaith cynnal a chadw a gwallau yn unol â'r gweithdrefnau sefydliadol
- storio cyfarpar gwarchodaeth pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn barod i'w defnyddio yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o gyfarpar gwarchodaeth, ei ddiben mewn perthynas â threftadaeth ddiwylliannol a'i effeithiau ar gyflwr a defnydd hirdymor treftadaeth ddiwylliannol
- sut i wirio cyflwr cyfarpar gwarchodaeth
- sut i ddefnyddio, storio, calibro, cynnal a chadw ac addasu'r cyfarpar gwarchodaeth rydych yn gweithio gydag o
- sut i gynghori a chyfarwyddo ar y defnydd gorau o ran y cyfarpar gwarchodaeth
- sut i adnabod problem gyda'r cyfarpar gwarchodaeth a goblygiadau hyn o ran diogelwch y bobl, y dreftadaeth ddiwylliannol a'r adnoddau
- pwysigrwydd sicrhau bod y cyfarpar gwarchodaeth o safon benodol
- y gweithdrefnau ar gyfer caffael gwasanaethau cynnal a chadw a thrwsio arbenigol
- gofynion eich sefydliad o ran cadw cofnodion